Anghenion Dysgu Ychwanegol

Mae gan fy mhlentyn anghenion dysgu ychwanegol ac mae’n gwneud yn dda iawn yn yr ysgol.

Mae plant ag anghenion ychwanegol yn gwneud ffrindiau yn eu hysgol a'u cymuned leol. Mae pob un o’n timau staff ysgol wedi cael hyfforddiant o ran darparu’r hyn sy’n bwysig i’ch plentyn. . Hefyd, mae gennym ni staff arbenigol sy'n siarad Cymraeg sy'n gallu cynorthwyo staff mewn ysgolion.

Efallai y bydd angen cymorth mwy penodol ar rai plant. Efallai y bydd angen iddyn nhw gael mynediad i leoliad Canolfan Adnoddau Arbenigol.

Mae gan Ysgol Gymraeg Cwm Derwen ein Canolfan Adnoddau Arbenigol Cymraeg ar gyfer plant oedran ysgol gynradd.

Mae gan Ysgol Gyfun Cwm Rhymni ddwy ddarpariaeth arbenigol. Mae Hafan ar safle'r Gwyndy a'r Ganolfan ar safle Gellihaf. Mae ein pobl ifanc oedran uwchradd sydd angen cymorth mwy penodol yn gallu teimlo eu bod yn cael eu cynnwys.