Prydau ysgolion uwchradd
Rydym yn rhoi llawer o amser, ymdrech ac adnoddau i greu a hyrwyddo bwydlenni iach a chynnig dewis i blant.
Cliciwch yma ganfod beth sydd ar y fwydlen heddiw a'r prisiau diweddaraf.
Mae'r holl fwyd a diod yr ydym yn eu cynnig yn yr ysgol yn cydymffurfio â'r Rheoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru).
Faint?
Mae pryd yn cynnwys dau gwrs i blentyn yn costio £2.35. Rydym yn cynnig dewis eang o fwyd a diod felly edrychwch ar ein prisiau diweddaraf am ragor o fanylion.
Arlwyo heb arian mewn ysgolion uwchradd
Mae llawer o'n hysgolion uwchradd yn cynnig cardiau arlwyo heb arian neu system fiometreg. Ewch i'n hadran arlwyo heb arian mewn ysgolion uwchradd am fanylion.
Gwefan prydau bwyd ysgolion uwchradd
My School Lunch yw gwefan prydau bwyd ysgolion uwchradd, ac mae'r wefan ar gyfer pobl ifanc. Mae'n llawn cyngor gwych, sêr y byd chwaraeon, cystadlaethau fideo, podcastiau a llawer mwy. Byddwch yn dod o hyd i help, cefnogaeth a chyngor yn ymwneud ag edrych ar eich ôl eich hun, bwyta'r bwyd cywir a gwneud ymarfer corff.
Pwyntiau'n Gwneud Gwobrau
Cynllun newydd yw hwn a ddatblygwyd gan ein hadran arlwyo i hyrwyddo bwyta'n iach. Cyflwynwyd cynllun gwobrwyo pwyntiau ar y we, a weinyddir drwy'r system arlwyo heb arian, sy'n hybu'r nifer sy'n dewis bwyd iach. Gall myfyrwyr gyfnewid y pwyntiau hyn ar-lein ar gyfer amrywiaeth o wobrau. I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan My School Lunch.
Am ragor o wybodaeth am brydau Ysgolion Uwchradd cysylltwch â ni.