Derbyn i ysgolion: Cwestiynau cyffredin

Rydw i newydd gael plentyn; a ddylwn i roi ei enw ar restr ysgol?

Na ddylech: Ni fydd rhoi enw eich plentyn chi ar restr ysgol pan fydd yn cael ei eni yn golygu bod gan eich plentyn chi hawl i gael lle yn yr ysgol benodol honno, nac yn rhoi mantais iddo dros unrhyw un arall a fydd yn gwneud cais am le. Mae’n rhaid i chi wneud cais am le yr un pryd â phawb arall, a bydd yr holl geisiadau’n cael eu hasesu gyda’i gilydd ar ôl y dyddiad cau.

Pryd mae’n rhaid i mi wneud cais am le mewn ysgol?

Bydd angen i chi wneud cais ar wahanol gamau:

  • I gael lle mewn lleoliad y Blynyddoedd Cynnar
  • I gael lle mewn dosbarth meithrin
  • I gael lle mewn dosbarth derbyn
  • I gael lle mewn ysgol uwchradd, Blwyddyn 7

Mae pob cais yn agor yn y mis Medi cyn y flwyddyn mynediad.

Mae dyddiad cau ar gyfer pob math o gais. Mae'r rhain yn newid o flwyddyn i flwyddyn.  Cyfeiriwch at y wefan i gael dyddiadau penodol.

Pryd mae’n rhaid i’m plentyn ddechrau mynychu ysgol amser llawn?

Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i blant fynychu ysgol yn amser llawn yn ystod y tymor ar ôl eu pen-blwydd yn bump oed.

Beth fydd yn digwydd os bydda i'n colli’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau?

Gallwch chi barhau i wneud cais am le ar-lein, fodd bynnag, ni fydd eich cais chi’n cael ei ystyried tan yr ail rownd o dderbyniadau. Gallai cyflwyno cais yn hwyr olygu na fydd eich plentyn chi’n cael lle yn yr ysgol rydych chi'n ei ffafrio.

Sut mae dod o hyd i wybodaeth am ysgolion penodol?

Gallwch chi ddod o hyd i wybodaeth am yr holl ysgolion ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn canllaw dechrau ysgol.

Fel arall, gallwch chi gysylltu ag ysgolion yn uniongyrchol a byddan nhw'n gallu rhoi copi o'r prosbectws i chi.

Beth yw Rhif Derbyn?

Y rhif derbyn yw nifer y lleoedd sydd ar gael ym mhob grŵp blwyddyn penodol e.e. os mai 150 yw'r Rhif Derbyn, yna gallwn ni dderbyn hyd at 150 o ddisgyblion i'r ysgol yn y brif rownd o dderbyniadau.

Sut mae gwneud cais am le mewn ysgol?

Gallwch wneud cais yma.

Pa gyfeiriad dylwn i ei ddefnyddio ar fy ffurflen gais?

Dylech chi ddefnyddio prif gyfeiriad eich plentyn chi. Efallai y bydd angen prawf o gyfeiriad.  Pan fo plentyn yn byw mewn mwy nag un cyfeiriad  yna bydd y cyfeiriad cartref yn cael ei bennu fel y cyfeiriad cofrestredig ar gyfer Budd-dal Plentyn. Bydd gofyn i rieni ddarparu tystiolaeth o hyn.

Os yw fy mhlentyn yn mynd i ddosbarth meithrin mewn ysgol o'm dewis i, a fydd yn sicr o gael lle yn y dosbarth derbyn?

Na fydd, bydd gofyn i chi wneud cais ar wahân am le yn y dosbarth derbyn. 

Oes rhaid i mi wneud cais, hyd yn oed os ydw i’n byw yn y dalgylch neu'n agos at yr ysgol, ac os ydw i’n fodlon anfon fy mhlentyn i’r ysgol leol?

Oes. Ni fyddwch chi'n cael eich ystyried am le oni bai eich bod chi'n gwneud cais, hyd yn oed os mai’ch ysgol lleol chi yw hi.

Alla i ddewis ysgol i’m plentyn?

Mae llawer o rieni’n ffafrio eu hysgol leol agosaf neu eu hysgol ddalgylch nhw gan fod hynny’n aml yn golygu bod plant yn gallu gwneud ffrindiau’n fwy lleol a byddan nhw'n gallu cerdded i’r ysgol. Mae gan Rieni a Gofalwyr hawl i ddweud i ba ysgol yr hoffen nhw i’w plentyn fynd, a rhoi rhesymau dros eu dewis nhw.

Mae pennaeth fy hoff ysgol wedi dweud wrthyf fod lle i’m plentyn. Ydy hyn yn iawn?

Nid yw penaethiaid yn gyfrifol am benderfynu pwy all fynd i’w hysgol nhw nac unrhyw ysgol arall. Dim ond yr awdurdod derbyn all ddyrannu lleoedd.

Oes sicrwydd y gallaf gael lle mewn ysgol o’m dewis?

Nac oes. Gallwch chi ddweud i ba ysgol yr hoffech chi i’ch plentyn fynd iddi ond os oes mwy o geisiadau nag sydd o leoedd ar gael efallai na fydd eich cais am le’n llwyddiannus.

Beth fydd yn digwydd os bydd mwy o geisiadau nag sydd o leoedd ar gael?

Os byddwn ni'n derbyn mwy o geisiadau na’r lleoedd sydd ar gael, yna mae’n rhaid i ni ddefnyddio ein ‘meini prawf gordanysgrifio’. Yna mae lleoedd yn cael eu dyrannu hyd at y nifer derbyn yn y drefn ganlynol:-

  1. Plant sy’n derbyn gofal a phlant oedd yn arfer derbyn gofal (gofal cyhoeddus).

  2. Plant sydd â Chynllun Datblygu Unigol yr Awdurdod Lleol sy’n datgan bod yn rhaid iddyn nhw fynychu’r ysgol benodol.

  3. Plant sy'n byw yn nalgylch yr ysgol ac sydd â brawd neu chwaer sy'n mynd i'r ysgol ar hyn o bryd (rhaid i’r brawd neu chwaer fod o oedran ysgol statudol ar adeg eu derbyn nhw).

  4. Plant sy'n byw yn nalgylch yr ysgol.

  5. Plant sy’n byw y tu allan i’r dalgylch ond sydd â brawd neu chwaer sy'n mynd i'r ysgol (rhaid i’r brawd neu chwaer fod o oedran ysgol statudol ar adeg eu derbyn nhw).

  6. Plant sy’n byw y tu allan i’r dalgylch. Bydd y lleoedd hyn yn cael eu dyrannu yn ôl pellter, gyda'r rhai sy'n byw agosaf at yr ysgol yn cael blaenoriaeth.

Beth fydd yn digwydd os nad ydw i'n cael lle yn fy ysgol ddewisol?

Byddwn ni'n ysgrifennu atoch chi (fel arfer drwy e-bost) yn amlinellu'r rheswm pam nad oedd yn bosibl cynnig lle. Mae gennych chi'r hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad hwn.  Bydd panel annibynnol yn gwrando ar apeliadau. Yn ystod y prif rownd derbyn ar gyfer lleoedd Dosbarth Derbyn ac Uwchradd, bydd eich plentyn chi’n aros ar y rhestr aros tan 30 Medi.

Oes modd i mi wneud cais am le mewn ysgol mewn bwrdeistref sirol arall?

Oes, cysylltwch â'r awdurdod lleol perthnasol ynghylch ei broses ymgeisio.

Dydw i ddim yn byw ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, oes modd i mi wneud cais i fy mhlentyn fynychu ysgol yng Nghaerffili?

Oes, gallwch wneud cais yma.

Rydw i eisiau newid ysgol bresennol fy mhlentyn. Sut mae mynd ati i wneud hyn?

Mae newid ysgol eich plentyn yn gam sylweddol. Yn y lle cyntaf, byddai'n gall i drafod eich penderfyniad chi gyda Phennaeth yr ysgol. Os ydych chi’n dal yn dymuno parhau gyda’r trefniadau trosglwyddo gallwch chi wneud cais ar-lein.

Pan fo gwarchodaeth ar y cyd ar gyfer plentyn, rhaid i'r ddau barti gytuno gyda’r trosglwyddo yn digwydd. Pan fydd anghytundeb, ni fydd Derbyn i Ysgolion yn cymryd rhan mewn unrhyw anghydfod. Bydd angen delio ag unrhyw anghydfod drwy'r Llys Teulu. Yna byddwn ni'n gweithredu yn unol â chyngor y Llys.