Gwneud cais am gyngor cyn gwneud cais cynllunio - Statudol

Po fwyaf o wybodaeth sy'n cael ei darparu, y mwyaf cywir a defnyddiol fydd ein hymateb ni.

Bydd hyn yn ein galluogi ni i ddarparu ymateb ysgrifenedig i bob ymholiad dilys a byddwn ni’n ceisio darparu'r canlynol o leiaf:

  • hanes cynllunio perthnasol y safle
  • polisïau cynllun datblygu perthnasol a fydd yn cael eu defnyddio i asesu'r cynnig datblygu
  • canllawiau cynllunio atodol perthnasol
  • unrhyw ystyriaethau cynllunio perthnasol eraill
  • asesiad cychwynnol o'r datblygiad arfaethedig, yn seiliedig ar yr wybodaeth uchod
  • gwirio a oes unrhyw garthffosydd Dŵr Cymru yn y cyffiniau

Yn ogystal ag a fydd unrhyw gyfraniadau Adran 106 neu Ardoll Seilwaith Cymunedol yn debygol o gael eu ceisio, ynghyd â dangos cwmpas a swm y cyfraniadau hynny, manylion unrhyw ddogfennau a manylion y byddai eu hangen i gais dilynol fod yn gais dilys.

Ar faterion cymhleth, byddwch yn barod i geisio cymorth proffesiynol preifat - nid oes bwriad i’n gwasanaeth ni fod yn opsiwn amgen i gyflogi ymgynghorwyr proffesiynol.

I lenwi'r ffurflen am gyngor cyn gwneud cais cynllunio, sicrhewch eich bod chi'n cynnwys cynllun lleoliad safle, unrhyw wybodaeth ategol ychwanegol a'r ffi berthnasol.

GWNEUD CAIS NAWR

 

Gwasanaeth

Ffi 

Deiliaid tŷ

  • Ehangu, gwella neu newid annedd presennol o fewn cwrtilage gardd
  • e.e. Estyniadau, lleoedd caeedig, adeiladau mewn gerddi

£25

Mân Ddatblygiad

  • Creu llai na 10 annedd
  • Arwynebedd y safle o lai na 0.5 hectar
  • Dibreswyl - newid defnydd neu ddefnydd cymysg lle mae'r arwynebedd llawr gros yn fwy na 1000m2

£250

Datblygiad Mawr

  • Creu 10 - 24 o anheddau
  • 1000m2 - llai na 2000m2 o arwynebedd llawr
  • Arwynebedd y safle rhwng 0.5 hectar a llai na 1 hectar
  • Dibreswyl - newid defnydd neu ddefnydd cymysg lle mae'r arwynebedd llawr gros yn fwy na 1000m2 ond yn llai na 2000m2
  • Cloddio a gweithio mwynau neu ddefnyddio tir ar gyfer dyddodion gweithfeydd mwynauDatblygiadau gwastraff

£600

Datblygiad Mawr Sylweddol

  • Creu 25 neu fwy o anheddau
  • Mwy na 2000m2 o arwynebedd llawr
  • Arwynebedd y safle o fwy na 0.99 hectarDibreswyl - newid defnydd neu ddefnydd cymysg lle mae'r arwynebedd llawr gros yn fwy na 2000m2​

£1000

Cyngor Arall

Gwasanaeth

Ffi

Darparu hanes cynllunio'r safle:

Deiliaid tai (yn cynnwys dim mwy nag un annedd)

£63.95 (gan gynnwys TAW)

Datblygiad Arall

£159.86 (gan gynnwys TAW)

Cyngor ynghylch a yw hawliau datblygu a ganiateir y datblygiad penodol wedi cael eu dileu gan amod

£63.95 (gan gynnwys TAW)

Cyngor ynghylch a yw'r amodau wedi eu cyflawni

Deiliaid tai (yn cynnwys dim mwy nag un annedd)

£63.95 (gan gynnwys TAW)

Datblygiad Arall

£159.86 (gan gynnwys TAW)

Os ydych yn ansicr a fyddai angen caniatâd ar eich prosiect neu a yw'n gyfreithlon, rydym yn argymell eich bod yn cyflwyno cais am dystysgrif cyfreithlondeb

Caniatâd ar gyfer adeilad rhestredig - Cyngor Cyn Ymgeisio

Gwasanaeth

Ffi

Deiliaid tai 

£132.30 (gan gynnwys TAW) 

Arwynebedd llawr < 999m2

£275.63 (gan gynnwys TAW) 

Arwynebedd llawr 1000m2 – 1999m2

£661.50 (gan gynnwys TAW) 

Arwynebedd llawr > 1999m2

£1102.50 (gan gynnwys TAW) 

Bydd cyfarfod â swyddog ar y safle neu yn y swyddfa yn codi tâl ychwanegol sy'n cyfateb i 35% o'r tâl safonol.

Ni ellir ad-dalu unrhyw ffi, a bydd yn rhaid talu ffi ar gyfer unrhyw gais cynllunio dilynol yn unol â'r rheoliadau priodol. Codir tâl unigol am geisiadau lluosog. Unwaith y bydd yr Awdurdod Cynllunio Lleol wedi ysgrifennu ateb am ymholiad, codir tâl y gyfradd wreiddiol ar gyfer unrhyw ymholiadau pellach am yr un mater.