FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00pm a 7:00pm ar y 19 Mawrth 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00pm and 7:00pm on the 19 March 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Arweiniad cyn gwneud cais cynllunio

Pam defnyddio'r gwasanaeth cyngor cyn gwneud cais cynllunio?

Mae trafod yn gynnar yn gallu helpu i gyflawni'r canlyniad gorau ar gyfer eich cais chi a'r ardal gyfagos.

Mae'n rhoi gwybodaeth i chi yn gynnar am ystyriaethau cynllunio, risgiau a materion yn ymwneud â'ch cynnig chi a sut y gallwch chi eu goresgyn.

Mae'n rhoi gwybodaeth i chi am unrhyw gyfraniadau ariannol neu fuddion cymunedol a allai fod yn berthnasol.

Mae'n gallu cyflymu gwaith prosesu unrhyw gais cynllunio dilynol.

Bydd tâl yn cael ei godi am y gwasanaeth hwn, a Llywodraeth Cymru sy'n pennu'r ffioedd.

Y gwasanaethau cyn gwneud cais cynllunio rydyn ni'n eu cynnig?

Ers 16 Mawrth 2016, mae'r broses yn statudol ac rydyn ni’n cynnig dwy haen o wasanaeth:

  1. Gwasanaeth statudol cyngor cyn gwneud cais cynllunio (sy'n ofynnol gan Lywodraeth Cymru).

  2. Gwasanaeth ychwanegol sy'n cael ei ddarparu gennym ni.

Cynllunio cyn ymgeisio ar y cyd a chais systemau draenio cynaliadwy (SuDS) 

Os yw eich datblygiad yn fwy nag un tŷ, neu os yw'r gwaith adeiladu yn fwy na 100m2, mae angen draenio cynaliadwy.

Fel rhan o'n hymrwymiad i wella gwasanaethau, rydyn ni'n cynnig gwasanaeth cyn ymgeisio ar y cyd ar gyfer caniatâd cynllunio a systemau draenio cynaliadwy (SuDS) er mwyn cyflymu'r broses, a chynorthwyo i gyflawni'r canlyniad gorau ar gyfer eich cais chi.

GWNEUD CAIS NAWR FFI BERTHNASOL  

Gwneud cais am gyngor cyn gwneud cais cynllunio - Statudol

Po fwyaf o wybodaeth sy'n cael ei darparu, y mwyaf cywir a defnyddiol fydd ein hymateb ni.

Bydd hyn yn ein galluogi ni i ddarparu ymateb ysgrifenedig i bob ymholiad dilys a byddwn ni’n ceisio darparu'r canlynol o leiaf:

  • hanes cynllunio perthnasol y safle
  • polisïau cynllun datblygu perthnasol a fydd yn cael eu defnyddio i asesu'r cynnig datblygu
  • canllawiau cynllunio atodol perthnasol
  • unrhyw ystyriaethau cynllunio perthnasol eraill
  • asesiad cychwynnol o'r datblygiad arfaethedig, yn seiliedig ar yr wybodaeth uchod
  • gwirio a oes unrhyw garthffosydd Dŵr Cymru yn y cyffiniau

Yn ogystal ag a fydd unrhyw gyfraniadau Adran 106 neu Ardoll Seilwaith Cymunedol yn debygol o gael eu ceisio, ynghyd â dangos cwmpas a swm y cyfraniadau hynny, manylion unrhyw ddogfennau a manylion y byddai eu hangen i gais dilynol fod yn gais dilys.

Ar faterion cymhleth, byddwch yn barod i geisio cymorth proffesiynol preifat - nid oes bwriad i’n gwasanaeth ni fod yn opsiwn amgen i gyflogi ymgynghorwyr proffesiynol.

I lenwi'r ffurflen am gyngor cyn gwneud cais cynllunio, sicrhewch eich bod chi'n cynnwys cynllun lleoliad safle, unrhyw wybodaeth ategol ychwanegol a'r ffi berthnasol.

GWNEUD CAIS NAWR

Gwneud cais am gyngor cyn gwneud cais cynllunio - gwasanaethau ychwanegol

Bydd y gwasanaethau ychwanegol ond yn cael eu darparu yn ychwanegol i'r gwasanaeth statudol, hynny yw ni fydd yn bosibl cael y gwasanaethau ychwanegol yn unig.

Mae'r gwasanaeth hwn yn cynnwys:

  • ymgynghori ag unrhyw ymgyngoreion statudol neu unrhyw ymgyngoreion eraill
  • unrhyw gyfarfodydd
  • ymweliad â'r safle gan y swyddog achos
  • cyngor ar yr wybodaeth sydd ei hangen i sicrhau bod y cais yn ddilys wrth ei gyflwyno.

Bydd rhaid i chi lenwi ffurflen am gyngor cyn gwneud cais cynllunio, gan sicrhau eich bod chi'n llenwi adran ffioedd y cais am wasanaeth ychwanegol.

O ran y gwasanaeth hwn, bydd y tâl ychwanegol isod yn cael ei ychwanegu at y ffi berthnasol.

Gwasanaeth

Ffi (Bydd TAW yn cael ei godi ar yr elfen hon o'r ffi)

Ymgynghori ag ymgyngoreion statudol ac anstatudol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

30% o'r ffi statudol, ynghyd â TAW, ar gyfer y math o ddatblygiad sy'n cael ei gynnig  

Cyfarfodydd â swyddogion ar y safle neu mewn swyddfa 

Pob cyfarfod yn 30% o'r ffi statudol, ynghyd â TAW, ar gyfer y math o ddatblygiad sy'n cael ei gynnig

Ymweliad â'r safle gan y swyddog achos

30% o'r ffi statudol, ynghyd â TAW, ar gyfer y math o ddatblygiad sy'n cael ei gynnig (os yw'r cyfarfod â'r swyddog achos yn cael ei gynnal ar y safle, ni fydd y ffi hon yn cael ei chodi ar wahân)

Cyngor ar yr wybodaeth sydd ei hangen i sicrhau bod y cais yn ddilys wrth ei gyflwyno

30% o'r ffi statudol, ynghyd â TAW, ar gyfer y math o ddatblygiad sy'n cael ei gynnig

Pa mor hir bydd yn ei gymryd?

Byddwn ni'n ceisio ymateb o fewn 21 diwrnod gwaith i geisiadau dilys am wasanaeth cyngor cyn gwneud cais cynllunio statudol.

O ran y gwasanaeth ychwanegol, byddwn ni'n ymateb o fewn 42 diwrnod gwaith.

Os yw'ch cynnig chi'n fwy cymhleth, byddwn ni'n rhoi gwybod i chi os bydd yn cymryd mwy o amser i ni ymateb.

Gwasanaethau eraill rydyn ni'n eu cynnig

Gwasanaeth

Ffi

Darparu hanes cynllunio'r safle:

Deiliaid tai (yn cynnwys dim mwy nag un annedd)

£60.90 (gan gynnwys TAW)

Datblygiadau eraill

£152.25 (gan gynnwys TAW)

Cyngor ynglŷn ag a yw hawliau datblygu a ganiateir y datblygiad penodol wedi cael eu dileu gan amod

£60.90 (gan gynnwys TAW)

Cyngor ynglŷn ag a yw'r amodau wedi cael eu cyflawni:

Deiliaid tai (yn cynnwys dim mwy nag un annedd)

£60.90 (gan gynnwys TAW)

Datblygiadau eraill

£152.25 (gan gynnwys TAW)

Gwneud ymholiad ynglŷn ag a oes angen caniatâd cynllunio ar y datblygiad neu a yw'r datblygiad yn gyfreithlon

Os ydych chi'n ansicr a fyddai angen caniatâd ar eich prosiect chi neu a yw'n gyfreithlon, rydyn ni'n argymell eich bod chi’n cyflwyno cais am dystysgrif cyfreithlondeb

Gwneud ymholiad ynglŷn ag a yw busnes gwarchod plant yn dderbyniol mewn eiddo preswyl

Bydd cyngor anffurfiol ar lafar am ddim yn cael ei roi yn seiliedig ar yr wybodaeth sy'n cael ei gyflwyno fel rhan o'r Holiadur Gwarchod Plant

Sylwch: Nid oes modd ad-dalu unrhyw ffioedd, ac maen nhw'n ychwanegol at ffioedd ceisiadau cynllunio arferol. Bydd tâl unigol yn cael ei godi am geisiadau lluosog. Os na fydd y ffi yn cael ei thalu o fewn 15 diwrnod gwaith ar ôl cael nodyn atgoffa, ni fydd ymateb yn cael ei roi.

Anfonwch eich ymholiadau chi gydag unrhyw ddogfennau a ffioedd perthnasol drwy'r post i:

Pennaeth Adfywio a Chynllunio 

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Tŷ Tredomen
Parc Tredomen
Ystrad Mynach 
CF82 7WF
neu e-bostio Cynllunio@caerffili.gov.uk.

Gwasanaethau Ychwanegol ar gyfer Cadwraeth

Ar gyfer adeilad rhestredig, bydd yn rhaid i chi lenwi ffurflen sy'n benodol at gadwraeth - ffurflen am gyngor cyn-gynllunio cadwraeth benodol – Gwasanaethau cadwraeth (SYLWCH BYDD HON AR-LEIN) - gan sicrhau eich bod chi'n cwblhau'r cais am Wasanaeth Ychwanegol.

Caniatâd adeilad rhestredig 

Gwasanaeth

Ffi

Deiliaid tai

£126.00 (gan gynnwys TAW)

Arwynebedd llawr < 999m2 

£262.50 (gan gynnwys TAW)

Arwynebedd llawr 1000m2 – 1999m2

£630.00 (gan gynnwys TAW)

Arwynebedd llawr > 1999m2

£1050.00 (gan gynnwys TAW)

Byddai tâl ychwanegol, sy'n cyfateb i 30% o'r ffi safonol, yn cael ei godi pe bai cyfarfod â swyddog ar y safle neu yn y swyddfa.

Sylwch: Nid oes modd ad-dalu unrhyw ffioedd, ac maen nhw'n ychwanegol at ffioedd ceisiadau cynllunio arferol. Bydd tâl unigol yn cael ei godi am geisiadau lluosog. Os na fydd y ffi yn cael ei thalu o fewn 15 diwrnod gwaith ar ôl cael nodyn atgoffa, ni fydd ymateb yn cael ei roi.

Sylwch: Os ydych chi'n cyflawni cynllun sy'n gofyn am enwi strydoedd, ceisiwch seilio unrhyw enwau ar enwau hanesyddol yr ardal lle mae'r gwaith datblygu'n digwydd. Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru wedi lansio gwasanaeth newydd ar y we sydd â'r nod o ddiogelu enwau lleoedd hanesyddol Cymru, a thynnu sylw at eu pwysigrwydd nhw.

Cyfrinachedd gwybodaeth

Mae'n bosibl y bydd yr wybodaeth mewn perthynas â thrafodaethau cyn gwneud cais yn destun ceisiadau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004. Mae'r Ddeddf a'r Rheoliadau yn cynnwys darpariaethau ar gyfer rhai eithriadau o'r angen i ddatgelu gwybodaeth fasnachol sensitif ac, mewn achosion lle mae ymgeiswyr o'r farn bod gwybodaeth benodol wedi ei heithrio o ofynion y Ddeddf neu'r Rheoliadau, dylid rhoi'r cyfiawnhad dros eu sefyllfa nhw i'r Awdurdod Cynllunio Lleol.

Cysylltwch â ni