FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00pm a 7:00pm ar y 19 Mawrth 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00pm and 7:00pm on the 19 March 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Addasiadau i’r anabl

Tenantiaid y Cyngor

Os ydych chi, neu rywun sy’n byw yn eich cartref, yn anabl, mae’n bosibl y bydd help ar gael i chi i wneud addasiadau i’ch cartref neu gyfleusterau er mwyn eich galluogi i barhau i fyw yno.

Mae’r Cyngor yn talu costau llawn addasiadau i’r anabl i denantiaid y Cyngor. Cysylltwch â’ch swyddfa dai leol am gyngor.

Tenantiaid cymdeithasau tai

Os ydych yn anabl ac yn denant cymdeithas dai, mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i gael Grant Addasiadau Ffisegol gan Lywodraeth Cymru er mwyn addasu’r cartref i ddiwallu anghenion tenant anabl.

Er mwyn gwneud cais (os ydych yn denant gyda’r Cyngor neu gymdeithas dai) yn y lle cyntaf bydd angen i chi gael asesiad gan Therapydd Galwedigaethol o’r Gwasanaethau Cymdeithasol. Ar ôl yr asesiad, bydd yn argymell unrhyw waith sydd angen ei wneud. 

I ofyn am asesiad oedolyn ffoniwch 0808 100 2500. I ofyn am asesiad plentyn ffoniwch 0808 100 1727.

Ar ôl yr asesiad, bydd y Therapydd Galwedigaethol yn penderfynu p’un a oes angen gwneud gwaith addasu a pha waith sy’n briodol. Bydd hefyd yn ystyried oedran, cyflwr a lleoliad eich cartref. Mewn rhai achosion, gall y Therapydd Galwedigaethol argymell symud i gartref mwy addas.

Gallai’r addasiadau gynnwys y canlynol:

  • Galluogi mynediad haws i’ch cartref ac yn eich cartref, e.e. rampiau a lifftiau grisiau
  • Gwneud eich cartref yn fwy diogel
  • Darparu cyfleusterau ystafell ymolchi neu wella’r cyfleusterau hynny
  • Gwella’r systemau gwresogi
  • Darparu addasiadau ar gyfer pobl sydd â nam ar eu golwg neu glyw

Grant cyfleusterau i’r anabl

Os ydych yn berchen-feddiannydd neu’n denant sector preifat a’ch bod chi, neu rywun sy’n byw yn eich cartref, yn anabl, mae’n bosibl y gallech fod yn gymwys i gael Grant Cyfleusterau i’r Anabl. Mae’r grant hwn yn helpu i dalu costau gwaith i osod addasiadau a chyfleusterau i helpu’r person anabl i barhau i fyw yno. Ewch i’r adran Grant Cyfleusterau i’r Anabl am fanylion.