Perchentyaeth Cost Isel
Ymarfer ymgynghori
Mae'r Cyngor yn ceisio cyflwyno Polisi Perchentyaeth Cost Isel ac mae'n croesawu barn trigolion a rhanddeiliaid. Mae'r Polisi newydd yn cael ei gyflwyno i helpu bodloni'r gofyniad am berchentyaeth fforddiadwy sydd wedi'i nodi ledled y Fwrdeistref Sirol trwy ddarparu cymorth i'r bobl hynny ar incwm isel sy'n dyheu am berchentyaeth ond nad ydyn nhw'n gallu fforddio prynu heb gymorth ariannol.
Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal am gyfnod o 6 wythnos, a bydd yn agor ddydd Mercher 8 Rhagfyr 2021 ac yn cau dydd Mercher 19 Ionawr 2022. Gall unrhyw ymatebion sy'n dod i law ar ôl y dyddiad cau gael eu diystyru.
Polisi Perchentyaeth Cost Isel (PDF)
Mae modd i chi gyflwyno eich sylwadau drwy ddefnyddio unrhyw un o'r ffyrdd canlynol:
Llenwi'r ffurflen ar-lein;
Lawrlwytho ffurflen ymateb ac e-bostio StrategaethADatblygu@caerffili.gov.uk; neu
Gofyn am ffurflen ymateb, a'i hanfon at:
Strategaeth a Datblygu
CBS Caerffili
Canolfan Arloesi a Thechnoleg Tredomen
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7FQ
Sut y byddwn ni'n defnyddio eich gwybodaeth (PDF)
Mae cynlluniau perchentyaeth cost isel ar gael ym mwrdeistref sirol Caerffili.
I wneud cais am berchentyaeth cost isel neu rentu canolradd, bydd angen i chi lenwi ffurflen gais ar-lein ar https://www.homesearchcaerphilly.org/
Mae gwybodaeth am y gwahanol gynlluniau tai fforddiadwy sydd ar gael i'w gweld isod.
Rhannu Ecwiti
Mae'r opsiwn rhannu ecwiti'n seiliedig ar egwyddor rhannu ecwiti ac yn helpu prynwyr am y tro cyntaf i berchen ar gartref. Nid yw'r cymhorthdal yn fenthyciad sydd angen ei ad-dalu ac nid oes rhent i'w dalu.
Mae'n golygu bod y gymdeithas dai yn berchen ar gyfran ecwiti (fel arfer 30 - 50%) yn y cartref. Pan fydd y prynwr yn penderfynu gwerthu'r cartref, mae'r gymdeithas tai'n cael ei rhannau ecwiti'n ôl a'i ailgylchu, er mwyn sicrhau ei fod ar gael i'r aelwyd nesaf sy'n gymwys ar y gofrestr i brynu'r cartref.
Rhanberchnogaeth
Mae'r cynllun yno i'ch cynorthwyo os ydych chi'n brynwr am y tro cyntaf, sy'n ceisio cael mynediad i'r farchnad eiddo unwaith eto neu edrych i symud i gartref llai o faint y gellir ei reoli'n well.
Gyda rhanberchnogaeth, rydych yn prynu cyfran o'ch cartref a rhentu'r gweddill. Felly bydd eich morgais yn llai, yn fwy fforddiadwy a bydd yn haws i chi gael cymeradwyaeth amdano.
Gan eich bod yn prynu ond cyfran o'r eiddo ac nid y cyfanswm gwerth, efallai y bydd eich taliadau misol yn llai na phe baech yn prynu'r eiddo yn llwyr. Ond gallwch fwynhau holl fanteision cartref newydd sbon.
Sut mae'n gweithio
-
Fel rheol, byddwch chi'n benthyg tua 50% i 70% o werth yr eiddo o gymdeithas adeiladu neu fanc ar ffurf morgais.
-
Bydd yn rhaid i chi dalu'r gost lawn o brynu'ch cyfran gan gynnwys ffi weinyddol, ffi brisio a ffioedd cyfreithiol.
-
Bydd rhent yn daladwy ar gyfran yr eiddo nad ydych yn berchen arno. Bydd angen i chi hefyd dalu'r costau arferol sy'n gysylltiedig â bod yn berchen ar eich cartref eich hun.
Ar ôl cyfnod penodol o amser (fel arfer o 12 mis) gallwch brynu cyfrannau ecwiti pellach yn eich cartref. Gelwir hyn yn cynyddu cyfran eich perchentyaeth Caiff gwerth unrhyw gyfran ychwanegol yr hoffech ei brynu ei bennu gan brisiad marchnad agored a gymerir ar y pryd.
Mae’n bosibl caffael 100 y cant o’r ecwiti yn eich cartref.
Rhentu i Brynu - Cymru
Mae Rhentu i Brynu - Cymru'n cefnogi prynu cartref i'r rheini nad oes ganddynt ddigon o arian ar gyfer blaendal morgais. Mae'r cynllun yn galluogi tenantiaid mewn eiddo rhent o fewn y cynllun i greu cyfandaliad tuag at flaendal wrth iddynt rentu eu cartref. Gellir defnyddio'r cyfandaliad tuag at y blaendal i helpu i sicrhau morgais er mwyn gallu prynu'r cartref.
Ewch i https://beta.gov.wales/rent-own-wales am fwy o wybodaeth
Rhentu Canolradd
Mae rhentu canolradd yn cynnig cyfle i rentu cartref o ansawdd da ar lai nag y byddech chi'n disgwyl ei dalu yn y farchnad agored ar gyfer cartref tebyg mewn ardal debyg. Os ydych mewn cyflogaeth ac mae'ch incwm cartref net yn llai na £30,000 y flwyddyn, gallai hyn fod yn opsiwn gwych i chi. Mae ganddo fantais ychwanegol gan nad oes raid i chi dalu unrhyw un o'r ffioedd cofrestru neu ffioedd gweinyddol arferol y mae asiantau eraill yn eu gosod. Dylech allu talu'r rhent bob mis ymlaen llaw drwy ddebyd uniongyrchol a bydd angen i chi dalu blaendal tenantiaeth o'r gwerth rhent misol ynghyd â £100.
I wneud cais
I geisio am berchentyaeth cost isel neu rentu canolradd, bydd angen i chi lenwi ffurflen gais ar-lein ar https://www.homesearchcaerphilly.org/.
Am ragor o wybodaeth am ddatblygiadau unigol, cysylltwch â'r gymdeithas dai yn uniongyrchol gan ddefnyddio'r manylion isod.
Grŵp "United Welsh"
Mae "harmoni homes" yn gweithredu cynllun perchentyaeth cost isel "United Welsh".
Gwefan: http://harmonihomes.com/
E-bost: info@harmonihomes.com
Ffôn:
Grŵp Pobl
Mae "Pobl Living" yn gweithredu cynllun perchentyaeth cost isel Pobl.
Gwefan: https://poblliving.co.uk/
E-bost: info@poblliving.co.uk
Ffôn: 03333 312 324
Mae cynllun rhentu canolraddol "Pobl" yn cael ei weithredu gan "Seren Living".
Gwefan: https://www.serenliving.co.uk/
E-bost: info@serenliving.co.uk
Ffôn: