Erlyniadau Gorfodi Amgylcheddol

Noder, nid yw rhai o’r troseddau’n dod i’r amlwg yn syth a gallent fod wedi’u cyflawni nifer o flynyddoedd yn gynharach. Mewn achosion lle y cafodd trwydded ei hadolygu, gallai fod yn destun apêl a chaiff y wybodaeth ddiweddaraf ei chynnwys.

Mae’r wybodaeth hon ar gael am gyfnod cyfyngedig er mwyn hyrwyddo didwylledd, tryloywder ac atebolrwydd y system cyfiawnder troseddol i’r bobl y mae’n eu gwasanaethu.

Mae’r wybodaeth hon ar gael ar y ddealltwriaeth ei bod at ddefnydd personol yr unigolyn sydd wedi mynd at y dudalen hon yn unig. Ni ddylai’r wybodaeth ar y dudalen hon gael ei storio, ei chofnodi, ei hailgyhoeddi na’i phrosesu fel arall heb gytundeb penodol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. 

Enw'r diffynnydd

Manylion y drosedd a’r gwrandawiad Llys

Penderfyniad y Llys

Deddfwriaeth

Cheryl Mortimer, Heol Pontygwindy, Caerffili CF83 3HA

Torri Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus drwy fethu â chario darpariaethau addas ar gyfer codi baw cŵn.

Ar 21 Rhagfyr 2023, ymddangosodd y diffynnydd gerbron Llys Ynadon Cwmbrân a phledio'n euog. Cafodd Mortimer orchymyn i dalu dirwy o £40 a gordal o £16.

Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014, Torri Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus (adran 68).

Stacey Jayne Davies o Alexandra Street, Abertyleri NP13 3HL

Torri Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus am fethu â chario darpariaethau addas i gael gwared ar garthion cŵn.

Ar 25 Ebrill 2022, ymddangosodd y diffynnydd gerbron Llys Ynadon Cwmbrân ac fe'i cafwyd yn euog. Cafodd Davies orchymyn i dalu dirwy o £100, costau erlyn o £120 a gordal o £34.

Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014
 
Torri Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus (Adran 68)

Darren Munkley, Glan y Nant, Pengam

Torri Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus am fethu â chario darpariaethau addas i gael gwared ar garthion cŵn.

Achos wedi’i glywed yn Llys Ynadon Cwmbrân ar 30 Rhagfyr 2019.  Methodd y diffynnydd â chofnodi ple, felly, profwyd y mater yn ei absenoldeb. Cafodd Munkley ddirwy o £220 a gorchymyn i dalu costau o £120 gyda gordal o £30.

Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014
 
Torri Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus (Adran 68)

Beverley Murphy o Thomas Street, Gilfach

Torri Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus am fethu â chario darpariaethau addas i gael gwared ar garthion cŵn.

Achos wedi’i glywed yn Llys Ynadon Cwmbrân ar 3 Mawrth 2020. Methodd y diffynnydd â bod yn bresennol a chofnodi ple, felly, profwyd y mater yn ei habsenoldeb, lle cafodd ddirwy o £100 a gorchymyn i dalu costau o £120 gyda gordal o £32.

Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014
 
Torri Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus (Adran 68)

Michelle Dean

Troseddau yn ymwneud â chŵn yn baeddu – gwrandawiad llys 18 Tachwedd 2020.

Ni wnaeth Ms Dean gofnodi ple, felly, clywyd y mater yn ei habsenoldeb, lle cafodd ddirwy o £180 a gorchymyn i dalu costau o £120 a gordal o £32.

Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014
 
Torri Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus (Adran 68)

Nadia Worgan o McDonnell Road, Bargod CF81 8UD
 

Daethpwyd o hyd i wastraff y cartref wedi ei adael ar Gomin Gelligaer, ger cofeb Capel Gwladys ar 18 Hydref 2020.
Torri dyletswydd gofal o dan adran 34(2a) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 am fethu â chymryd camau rhesymol i sicrhau bod gwastraff y cartref yn cael ei waredu yn y modd cywir a phriodol. 
Breach of a duty of care under section 34(2a) of the Environmental Protection Act 1990 for failing to take reasonable steps to ensure household waste is disposed of in the correct and proper manner. 

Ar 24 Awst 2021, ymddangosodd y diffynnydd gerbron Llys Ynadon Casnewydd a chofnodi ple euog. Dedfrydwyd Worgan i ryddhad amodol a chafodd orchymyn i dalu costau o £185.66 a gordal dioddefwr o £22.

Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 Adran 34(2a)
 

Leighton Davies Brynmynach Avenue, Ystrad Mynach

Daethpwyd o hyd i wastraff y cartref wedi ei adael ar y lôn rhwng Hillside Terrace a Choed-yr-Haf, Tredomen ar 5 Chwefror 2021.
Torri dyletswydd gofal o dan adran 34(2a) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 am fethu â chymryd camau rhesymol i sicrhau bod gwastraff y cartref yn cael ei waredu yn y modd cywir a phriodol.

Ar 16 Medi 2021, ymddangosodd y diffynnydd gerbron Llys Ynadon Casnewydd a chofnodi ple euog. Cafodd Davies ddirwy o £150 a chafodd orchymyn i dalu £202.67 tuag at gostau erlyn a gordal o £34.

Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 Adran 34(2a)

Alex Jeffrey o Barc Lle, Abertyleri
David Howells o Syndicate Terrace, Cwmfelin-fach

Torri dyletswydd gofal am fethu â gwaredu gwastraff masnachol yn y modd cywir a phriodol.
Gwrandawiad llys ar 11 Tachwedd 2021 yn Llys Ynadon Casnewydd.

Cofnododd Alex Jeffery ble euog i’r cyhuddiad o waredu gwastraff masnachol.
Cafodd Alex Jeffery ddirwy o £320 a gorchymyn i dalu costau erlyn o £256 a gordal dioddefwr o £32.
Cofnododd David Howells ble euog i’r cyhuddiad o beidio â gwneud gwiriadau rhesymol o’r modd roedd y gwastraff yn cael ei waredu.
Cafodd David Howells ddirwy o £120 a gorchymyn i dalu costau erlyn o £256 a gordal dioddefwr o £30.
Cyfanswm cost o £1014.

Deddf Diogelu'r Amgylchedd
Adran 34(1)

Alisha Legg o Croeso Square, Coed Duon NP12 1WE

Daethpwyd o hyd i wastraff y cartref wedi ei adael ar Gomin Gelligaer ar 10 Ebrill 2020.
Torri dyletswydd gofal o dan adran 34(2a) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 am fethu â chymryd camau rhesymol i sicrhau bod gwastraff y cartref yn cael ei waredu yn y modd cywir a phriodol.

Ar 18 Tachwedd 2021, ymddangosodd y diffynnydd gerbron Llys Ynadon Casnewydd a chofnodi ple euog. Dedfrydwyd Legg fel a ganlyn: gorchymyn i dalu dirwy o £150, costau o £167.55 a gordal dioddefwr o £34.

Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 Adran 34(2a)

Nikki Braddon

Torri dyletswydd gofal o dan adran 34(2a) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 am fethu â chymryd camau rhesymol i sicrhau bod gwastraff y cartref yn cael ei waredu yn y modd cywir a phriodol.
 
Gwrandawiad ar 18 Tachwedd 2021 yn Llys Ynadon Casnewydd.

Roedd y diffynnydd yn bresennol a chofnododd ble euog. Cafodd ei dedfrydu fel a ganlyn:
 
Dirwy: £200.00
Costau: £550.92
Gordal: £34

Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 Adran 34(2a)

Lewis Bushell o Trinant Terrace, Trinant

Daethpwyd o hyd i wastraff y cartref wedi ei adael ar drac lludw dienw ym Man-moel ar 8 Ebrill 2019.
Torri Adran 33(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 wedi i’r diffynnydd adael gwastraff ar dir nad oedd â thrwydded.

Ar 18 Tachwedd 2021, ymddangosodd y diffynnydd gerbron Llys Ynadon Casnewydd a chofnodi ple euog. Dedfrydwyd Bushell fel a ganlyn: gorchymyn i dalu dirwy o £200, costau erlyn o £439.74 a gordal o £34.  

Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 Adran 33(1) –Gwastraff a reolir wedi ei adael ar dir nad oedd â thrwydded i'w dderbyn.

Ms Cheryl Csepregi
o Lewis Terrace, Llanbradach

Ar 18 Medi 2020, cafodd achos o dipio anghyfreithlon ei gofnodi ar gamerâu teledu cylch cyfyng ym maes parcio Canolfan Gymunedol Llanbradach. Cafodd y troseddwr dywededig ei ffilmio yn gwagio cynnwys o gist ei cherbyd i lain laswelltog gerllaw. Roedd y gwastraff yn cynnwys toriadau o gonwydden, pedwar sach blastig fach yn cynnwys rwbel, a chynhwysydd plastig.

Rhestrwyd gwrandawiad yn Llys Ynadon Casnewydd ar 25 Tachwedd 2021, ond methodd y diffynnydd â bod yn bresennol, felly, gwnaethpwyd cais am warant i arestio. Cafodd y diffynnydd ei arestio ar 13 Rhagfyr 2021 ac ymddangosodd gerbron Llys Ynadon Casnewydd. Cofnododd Ms Csepregi ble euog a chafodd ei dedfrydu i dalu dirwy o £400.00, costau erlyn o £400.00, a gordal dioddefwr o £40.00.
Cyfanswm y gost i Ms Csepregi oedd £840.00.

Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 Adran 33(1) – Gwastraff a reolir wedi ei adael ar dir nad oedd â thrwydded i'w dderbyn.

Margaret Roberts o William Street, Abertridwr

Torri dyletswydd gofal o dan adran 34(2a) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 am fethu â chymryd camau rhesymol i sicrhau bod gwastraff y cartref yn cael ei waredu yn y modd cywir a phriodol.
 
Gwrandawiad llys ar 25 Tachwedd 2021 yn Llys Ynadon Casnewydd.
 

Fe gofnododd Margaret Roberts ble euog ac fe'i dedfrydwyd fel a ganlyn: dirwy o £100, costau erlyn o £221.96 a gordal dioddefwr o £34.
Cyfanswm cost o £355.96.

Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 Adran 34(2a)

Valley Carpets Limited o Ferthyr Tudful

Torri dyletswydd gofal am fethu â gwaredu gwastraff masnachol mewn modd priodol.
Gwrandawiad llys ar 25 Tachwedd 2021 yn Llys Ynadon Casnewydd.

Cofnododd Valley Carpets Limited ble euog i'r llys.
Cafodd Valley Carpets Limited ddirwy o £1000 a gorchymyn i dalu costau erlyn o £326.18 a gordal dioddefwr o £100.
Dyfarnwyd costau glanhau o £825.82 hefyd.
Cyfanswm cost o £2252.

A total cost of £2252.

Deddf Diogelu'r Amgylchedd
Adran 34(1)

Valley Landscaping and Construction Limited o Dreorci

Torri dyletswydd gofal am fethu â gwaredu gwastraff masnachol yn y modd cywir a phriodol.
Gwrandawiad llys ar 16 Rhagfyr 2021 yn Llys Ynadon Casnewydd.
 

Cofnododd Valley Landscaping ac Construction Limited ble euog i'r llys.
Cafodd Valley Landscaping and Construction Limited ddirwy o £1000 a gorchymyn i dalu costau erlyn o £201.54 a gordal dioddefwr o £100.
Dyfarnwyd costau glanhau o £825.82 hefyd.
Cyfanswm cost o £2127.36.

Clean-up costs were also awarded of £825.82.
A total cost of £2127.36.

Deddf Diogelu'r Amgylchedd
Adran 34(1)
 

Mazumder Mohammed Nasnam Iqbal o Pengam Curry Limited, Pengam

Torri dyletswydd gofal am fethu â gwaredu gwastraff masnachol yn y modd cywir a phriodol.
Gwrandawiad llys ar 14 Ionawr 2022 yn Llys Ynadon Casnewydd.

Cofnododd Pengam Curry Limited ble euog i'r llys.
Cafodd Pengam Curry Limited ddirwy o £280 a gorchymyn i dalu costau erlyn a glanhau o £940.85 a gordal dioddefwr o £32.
Cyfanswm cost o £1252.85.

Deddf Diogelu'r Amgylchedd
Adran 34(1)

Miss Catherine Pritchard o Glos y Mynydd, Coed Duon NP12 1FN

Daethpwyd o hyd i wastraff y cartref wedi ei adael ar lôn ddienw islaw Church Farm, Mynyddislwyn ar 5 Mehefin 2019.
Torri dyletswydd gofal o dan adran 34(2a) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 am fethu â chymryd camau rhesymol i sicrhau bod gwastraff y cartref yn cael ei waredu yn y modd cywir a phriodol.

Ar 15 Chwefror 2022, ymddangosodd y diffynnydd gerbron Llys Ynadon Casnewydd a chofnodi ple euog. Dedfrydwyd Pritchard fel a ganlyn: gorchymyn i dalu dirwy o £80, costau o £192.89 a gordal dioddefwr o £30.

Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 Adran 34(2a)

Rebecca Davies o Heol Gurnos, Merthyr Tudful

Daethpwyd o hyd i wastraff y cartref wedi ei adael ar y lôn sy’n arwain at Fferm Ras Brynoer, Rhymni ar 6 Ionawr 2021.
Torri dyletswydd gofal o dan adran 34(2a) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 am fethu â chymryd camau rhesymol i sicrhau bod gwastraff y cartref yn cael ei waredu yn y modd cywir a phriodol.

Methodd y diffynnydd â bod yn bresennol mewn gwrandawiad llys ym mis Tachwedd 2021 a chyhoeddwyd gwarant i'w harestio. Ar 6 Ionawr 2022, ymddangosodd y diffynnydd gerbron Llys Ynadon Cwmbrân a chofnodi ple euog. Dedfrydwyd Davies fel a ganlyn: gorchymyn i dalu dirwy o £200, costau erlyn o £249.08 a gordal o £34. 

Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 Adran 34(2a)

Jodie Watkins o Deras Haydn, Merthyr Tudful CF47 9YJ

Daethpwyd o hyd i wastraff y cartref wedi ei adael ar Gomin Gelligaer ar 6 Awst 2021.
Torri dyletswydd gofal o dan adran 34(2a) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 am fethu â chymryd camau rhesymol i sicrhau bod gwastraff y cartref yn cael ei waredu yn y modd cywir a phriodol.

Ar 17 Chwefror 2022, ymddangosodd y diffynnydd gerbron Llys Ynadon Cwmbrân a chofnodi ple euog. Cafodd ei dedfrydu fel a ganlyn: gorchymyn i dalu dirwy o £150, costau erlyn o £230.68 a gordal o £34.  

Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 Adran 34(2a)

Jack Rowe o Lys Glynne Jones, Merthyr Tudful CF48 3DB

Daethpwyd o hyd i wastraff y cartref wedi ei adael ar Gomin Gelligaer ar 18 Awst 2021.
Torri dyletswydd gofal o dan adran 34(2a) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 am fethu â chymryd camau rhesymol i sicrhau bod gwastraff y cartref yn cael ei waredu yn y modd cywir a phriodol.

Ar 17 Mawrth 2022, roedd y diffynnydd yn bresennol yn y llys a chofnododd ble euog. Cafodd ei ddedfrydu fel a ganlyn:
Dirwy o £200
Costau erlyn o £214
Gordal o £34
Cost o £50 am drosedd yn ymwneud â mechnïaeth wedi i’r diffynnydd fethu â bod yn bresennol yn y llys ar achlysur blaenorol a chyhoeddwyd gwarant i'w arestio.

Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 Adran 34(2a)

Carley Leanne Harvey o Fferm y Bryn, Ystrad Mynach CF82 7BD

Daethpwyd o hyd i wastraff y cartref wedi ei adael ar y lôn rhwng Hillside Terrace a Choed-yr-Haf, Tredomen, ar 28 Ebrill 2022, ac roedd trosedd bellach ar 1 Mai 2022 ar Brynmynach Avenue, Ystrad Mynach.
Torri dyletswydd gofal o dan adran 34(2a) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 am fethu â chymryd camau rhesymol i sicrhau bod gwastraff y cartref yn cael ei waredu yn y modd cywir a phriodol.

Ar 22 Medi 2022, ymddangosodd y diffynnydd trwy gyswllt fideo yn Llys Ynadon Cwmbrân a chofnodi ple euog i'r ddwy drosedd. Cafodd Harvey ddirwy o £150 am bob un o’r troseddau a gorchymyn i dalu £400 tuag at gostau erlyn a gordal o £34.

Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 Adran 34(2a)

Keira Smith Styles o Snowden Court, Parc Lansbury, Caerffili CF83 1QS

Cafwyd hyd i wastraff cartref wedi'i adael ym Maes Parcio Comin Rhydri ar 21 Mawrth 2023. Torri dyletswydd gofal o dan adran 34(2a) Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 am fethu â chymryd camau rhesymol i sicrhau bod gwastraff cartref yn cael ei waredu mewn modd cywir a phriodol.

Ar 23 Tachwedd 2023, ymddangosodd y diffynnydd gerbron Llys Ynadon Cwmbrân a phlediodd yn euog. Gorchmynnwyd Styles i dalu dirwy o £150 a £300 tuag at gostau'r erlyniad.

Adran 34(2a) Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.

James Bryant o Fryn Siriol, Caerffili 

Ar 27 Mai 2023, cafodd Bryant ei weld yn dyddodi eitemau o wastraff o'i gerbyd yn Hendredenny Drive, Caerffili. Cafodd archwiliad llawn ei gynnal gan Adran Gorfodi Amgylcheddol Cyngor Caerffili.

Cafodd gwrandawiad ei restru yn Llys Ynadon Cwmbrân ar 11 Ionawr 2024. Cafodd Mr Bryant ei ddedfrydu i dalu dirwy o £150.00, costau erlyn o £530.00, a gordal dioddefwr o £60.00.
Cyfanswm y gost i Mr Bryant oedd £740.00.

Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990, Adran 33(1) - Gollwng gwastraff a reolir ar dir heb drwydded i'w derbyn. Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990, Adran 33(5) - Gollwng gwastraff a reolir o gerbyd modur.

Callie Court o Goed Duon

Ar neu o gwmpas 14 Ionawr 2023, methodd Court â sicrhau bod y gwastraff a gafodd ei gynhyrchu yn ei chartref yn cael ei waredu’n briodol ac yn gyfrifol. O ganlyniad, cafodd y gwastraff hwn ei ollwng gan unigolyn anhysbys yn Blackvein Mountain Road, Crosskeys, ar neu o gwmpas 14 Ionawr 2023.

Cafodd gwrandawiad ei restru yn Llys Ynadon Cwmbrân ar 15 Chwefror 2024. Plediodd Ms Court yn euog a chafodd ei dedfrydu i dalu dirwy o £100.00, costau'r erlyniad o £284.42, a gordal dioddefwr o £40.00. Cyfanswm y gost i Ms Court oedd £424.42.
Erlyniad llwyddiannus arall gan Swyddogion Gorfodi Cyngor Caerffili.

Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, Adran 34(2a)

Miss Nicole Fisher o Hengoed

Ar 14 Mehefin 2023, cafodd Fisher ei gweld yn gollwng eitem o sbwriel o’i cherbyd ym Mharc Manwerthu Gallagher, Caerffili. Yn dilyn hynny, cafodd Hysbysiad Cosb Benodedig ei gyflwyno i'r troseddwr honedig, ond parhaodd yr hysbysiad hwn i fod heb ei dalu.

Cafodd gwrandawiad ei restru yn Llys Ynadon Cwmbrân ar 15 Chwefror 2024. Cafodd Miss Fisher ei dedfrydu i dalu dirwy o £80.00, costau erlyniad o £226.40, a gordal dioddefwr o £32.00. Cyfanswm y gost i Miss Fisher oedd £338.40.

Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, Adran 87 ac 88.