FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00pm a 7:00pm ar y 19 Mawrth 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00pm and 7:00pm on the 19 March 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Apeliadau Treth y Cyngor

Gallwch gyflwyno apêl treth y cyngor os ydych yn credu:

  • Ein bod ni'n anfon biliau i’r person anghywir ar gyfer eich cartref
  • ​Y dylai eich cartref fod yn annedd wedi’i eithrio
  • Mae swm y bil yn anghywir, er enghraifft os ydych yn meddwl y dylech gael gostyngiad neu os nad ydym wedi lleihau’r bil ar gyfer y person sy’n anabl

Gwneud apêl

Mae angen i chi apelio yn ysgrifenedig gan roi rhesymau am eich apêl.

Yna bydd gennym ddeufis i wneud penderfyniad ynghylch eich apêl. Os na chewch benderfyniad mewn da bryd neu os ydych yn anghytuno â’r penderfyniad, gallwch apelio i Wasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru.

Dylid cyfeirio apeliadau i’r Tribiwnlys Prisio, 22 Gold Tops, Casnewydd, NP20 4PG.

Os bydd y ddau barti’n cytuno, bydd y tribiwnlys yn delio â’ch achos trwy sylwadau ysgrifenedig. Fel arall pennir dyddiad ar gyfer gwrandawiad ffurfiol. Codir cost arnoch dim ond os byddwch yn dewis cyflogi cyfreithiwr. Yna byddwn yn cydymffurfio â phenderfyniad y tribiwnlys.

Dylech barhau i dalu eich bil gwreiddiol nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch eich apêl.

Taliadau Cosb

Mae’n rhaid i chi yn ôl y gyfraith roi’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnom i benderfynu pwy sy’n gyfrifol am dalu treth y cyngor a'r swm.

Gallwn roi cosbau os byddwch yn methu â gwneud hyn, neu’n rhoi gwybodaeth anwir yn fwriadol.

Os ydych yn anghytuno â’r gosb gallwch ei thrafod gyda’r cyngor neu apelio i’r Tribiwnlys Prisio o fewn deufis ar ôl i'r gosb gael ei rhoi. Nid oes rhaid i chi dalu eich cosb nes y bydd penderfyniad wedi’i wneud ynghylch eich apêl.

Apeliadau band

Mae gwerth eich eiddo a ddefnyddir ar gyfer dibenion bandio treth y cyngor yn golygu’r gwerth a bennwyd ar 1 Ebrill 2003. Nid yw prisiau prynu diweddar yn sylfaen da ar gyfer apêl.

Gallwch ond apelio o fewn 6 mis ar ôl:

  • Dechrau talu treth y cyngor

  • I Dribiwnlys Prisio newid band eiddo tebyg

  • I Swyddog Rhestru newid band yr eiddo 

Rhagor o wybodaeth

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn prisio eiddo domestig ar gyfer treth gyngor. Defnyddir y prisiad hwn i osod eich band treth gyngor. Efallai y bydd angen i chi gysylltu â’r VOA os ydych chi’n credu bod eich band treth gyngor yn anghywir.
 
Gallwch ddarganfod mwy am bryd y gallwch herio’ch band a’r hyn sydd angen i chi ei wneud yn gov.uk/challenge-council-tax-band. Os ydych chi’n herio’ch band, rhaid i chi barhau i dalu treth gyngor yn eich band cyfredol nes bod eich apêl yn cael ei phenderfynu.
 
Gallwch gysylltu ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn gov.uk/cysylltu-voa.
 
Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein gallwch hefyd gysylltu ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio ar 03000 505 505.
 
Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Durham Customer Service Centre
Wycliffe House
Green Lane
Durham
DH1 3UW