FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00am a 8:00am ar y 05 Mai 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00am and 8:00am on the 05 May 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Digonolrwydd chwarae

Yng Nghymru, rydyn ni eisiau i bob plentyn gael y cyfle gorau i chwarae a mwynhau ei amser hamdden. Gall profiadau chwarae o ansawdd uchel gyfrannu at liniaru effeithiau negyddol tlodi ar fywydau plant a helpu meithrin gwytnwch yn aelodau ieuengaf ein cymdeithas. Rydyn ni'n ymfalchïo mewn bod yn wlad lle mae cyfle i chwarae, gan roi amser, lle a chaniatâd i blant chwarae.

Oeddech chi'n gwybod? Cymru yw'r wlad gyntaf i ddeddfu ar hawl plant i chwarae.

Er mwyn cyflawni hyn, roedd Llywodraeth Cymru yn gwybod ei bod yn hanfodol i awdurdodau lleol, partneriaid a chymunedau gydweithio. Mae hyn yn cael ei lywodraethu gan Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 ac mae'n cwmpasu hawliau plant i gyfleoedd chwarae digonol.

Yn cyflwyno… Dyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae. Mae hyn yn cael ei wneud mewn dwy ran: mae'r rhan gyntaf yn Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae a'r ail ran yn Gynllun Gweithredu. Rhaid cwblhau'r Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae bob 3 blynedd ac mae'r asesiad yn cynnwys Cynllun Gweithredu sy'n amlinellu'r hyn y bydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae yn canolbwyntio arno dros y blynyddoedd nesaf. Cafodd Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae ei gwblhau gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ym mis Mehefin 2022.

Y materion sy'n cael eu hystyried ar gyfer yr Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae yw poblogaeth, diwallu anghenion amrywiol, y lle sydd ar gael i blant chwarae, mannau agored, mannau chwarae dynodedig yn yr awyr agored lle nad oes staff, darparu cyfleoedd i chwarae dan oruchwyliaeth, darparu gwaith chwarae, gweithgareddau hamdden strwythuredig, codi tâl am ddarpariaeth chwarae, gwybodaeth/cyhoeddusrwydd/digwyddiadau, y gweithlu chwarae, ymgysylltu â'r gymuned a'i chynnwys, a chwarae ym mhob polisi perthnasol ac agenda weithredu berthnasol.

Crynodeb o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae