Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis. Cliciwch am fwy o fanylion.
Caerphilly Logo
Cofrestrwch i dderbyn e-byst hysbysu
  • Skip to content
  • Hygyrchedd
  • Cysylltwch â ni
  • Y ganolfan newyddion
  • Fy nhudalennau
  • English
  • Tasgau poblogaidd
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
  • Tasgau poblogaidd
    • Swyddi gwag
    • Covid-19 - Latest information regarding school provision
    • Gwybodaeth Brechlyn COVID-19
    • Cefnogi Pobl – cymorth yn ymwneud â thai
    • Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
    • Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
    • Gwastraff heb ei gasglu
    • Amserlenni bysiau
    • Canolfannau ailgylchu
    • Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
    • Cyngor a chymorth am lifogydd
    • Diwrnodau casglu gwastraff
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
A allaf helpu?
CORONAFEIRWS (COVID-19) : yr wybodaeth cyngor a chymorth diweddaraf
  • Preswylydd    Genedigaethau, priodasau, marwolaethau    Gwasanaethau profedigaeth    Cofrestru marwolaeth

Cofrestru marwolaeth

Pwy all gofrestru marwolaeth?

Mae'r bobl sydd â chyfrifoldeb cyfreithiol dros gofrestru marwolaeth yn cynnwys:

  • Perthnasau
  • Person oedd yn bresennol adeg y farwolaeth
  • Y person sy'n berchen ar lle y digwyddodd y farwolaeth osoedd ef/hi yn gwybod am y farwolaeth
  • Y person sy'n gyfrifol am drefnu'r angladd (nid yw hyn yncynnwys y trefnydd angladdau).

Fel arfer, dylech gofrestru marwolaeth o fewn pump diwrnod ond gall hyn gael ei ymestyn dan rai amodau.

Gallwch gofrestru yn swyddfa gofrestru’r ardal lle digwyddodd y farwolaeth, neu gallwch fynd i unrhyw swyddfa gofrestru yng Nghymru neu Lloegr a gwneud datganiad o'r manylion angenrheidiol. Fodd bynnag, os y byddwch yn gwneud datganiad, gall fod peth oedi wrth dderbyn tystysgrifau a gwaith papur.

Gwneud apwyntiad

Byddwch angen gwneud apwyntiad er mwyn cofrestru marwolaeth. Gallwch ddod o hyd i'n oriau agor ar y dudalen adnoddau ac oriau agor ar ein gwefan.

Yn ystod y pandemig coronafeirws, ni fydd angen i deuluoedd mewn profedigaeth fynd i'r swyddfa gofrestru i gofrestru marwolaeth. Bydd y cofrestru yn cael ei gwblhau drwy apwyntiad dros y ffôn.

Beth fydd y cofrestrydd yn ei ofyn i mi?

Bydd cofrestrydd yn siarad yn breifat gyda chi ac yn gofyn am:

  • ddyddiad a lleoliad y farwolaeth
  • enw llawn yr ymadawedig (a chyfenw cyn priodi os yn briodol)
  • ddyddiad a lleoliad geni
  • swydd yr ymadawedig ac enw llawn a swydd eu gŵr, gwraigneu bartner sifil
  • gyfeiriad cartref arferol yr ymadawedig
  • fanylion unrhyw bensiwn sector gyhoeddus
  • ddyddiad geni gŵr, gwraig neu bartner sifil yr ymadawedig, osydynt yn fyw
  • rif cerdyn meddygol GIG yr ymadawedig os yw ar gael
  • dystysgrif feddygol yn nodi achos marwolaeth gan y meddyg, os nad oes crwner yn delio â'r farwolaeth.

Pan fydd y cofrestru wedi'i gwblhau, bydd y cofrestrydd yn gofyn i chi wneud yn siŵr bod yr wybodaeth yn gywir cyn arwyddo'r gofrestr. Dylech fynd dros yr wybodaeth yn ofalus cyn arwyddo. Wedi i'r gofrestr gael ei harwyddo efallai na fydd modd i'r cofrestrydd gywiro unrhyw gamgymeriadau yn syth ac efallai y bydd angen gwneud cais i'r Cofrestrydd Cyffredinol am ganiatâd i wneud y cywiriad.

Bydd y cofrestrydd wedyn yn rhoi “ffurflen werdd” i chi, fydd yn eich caniatáu i drefnu'r angladd, a ffurflen at dibenion Nawdd Cymdeithasol (BD8). Nid oes ffi am y ffurflenni hyn.

Os oes Crwner yn delio â'r farwolaeth, efallai y bydd trefn wahanol yn cael ei dilyn.

Dogfennau y byddwch eu hangen

Er mwyn ein helpu i wneud yn siŵr ein bod yn cofnodi marwolaethau yn gywir, byddai'n ddefnyddiol pe baech yn gallu dod â'r dogfennau canlynol gyda chi i'r apwyntiad:

Er mwyn cadarnhau manylion yr ymadawedig:

  • Pasbort
  • Trwydded Yrru
  • Prawf o Gyfeiriad (bil dŵr/trydan/nwy etc)
  • Cerdyn Meddygol GIG
  • Unrhyw ddogfennau neu weithredoedd newid enw
  • Holl dystysgrifau genedigaeth a phriodas neu bartneriaeth sifilyr ymadawedig

Er mwyn cadarnhau manylion y person sy'n cofnodi'r farwolaeth:

  • Pasbort
  • Trwydded Yrru
  • Prawf o Gyfeiriad (bil dŵr/trydan/nwy etc)

Os na allwch ddod â'r dogfennau hyn, ni fydd hynny yn eich rhwystro rhag cofrestru'r farwolaeth. Fodd bynnag, byddai'n ddefnyddiol os gallech ddod â nhw os yn bosibl fel y gallwn sicrhau bod ein cofnodion yn gywir.

Tystysgrifau Marwolaeth

Wrth gofrestru, gallwch brynu copi ardystiedig o'r cofnod ar y gofrestr (tystysgrif marwolaeth) am £11 yr un. 

Mae Hawlfraint y Goron ar dystysgrifau ac ni ddylid eu ffotocopïo at ddibenion swyddogol.

Mae'r canlynol yn rhoi syniad i chi o'ch anghenion posibl:

  • Banciau
  • Cymdeithasau Adeiladu 
  • Cwmnïau pensiwn
  • Bondiau premiwm a chynilion cenedlaethol
  • Yswiriant bywyd
  • Cytundebau
  • Profeb ac ewyllys
  • Cyfrifwyr
  • CyfrannauArchebion teithio

Claddedigaethau yn ôl rhai arferion crefyddol

Rydym yn cydnabod bod rhaid i'r angladd ddigwydd o fewn 24 o farwolaeth o fewn rhai crefyddau.

Er mwyn sicrhau y gall anwyliaid gael eu claddu yn yr amser hwn, os yw'r farwolaeth wedi digwydd yn ardal Caerffili, mae Cofrestrydd ar gael 24 awr y diwrnod er mwyn cofnodi marwolaeth a chyflenwi'r gwaith papur priodol er mwyn i angladd allu digwydd. Y rhif i'w ffonio ar gyfer cofrestru marwolaeth ar frys dan yr amgylchiadau hyn yw 07771 886895 neu 07813 094234.

Mae'r ddogfen ganlynol wedi cael ei pharatoi gan Lywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac wedi ei chymeradwyo gan y Fforwm Cymunedau Ffydd.

CllLC – Trefnu angladd Mwslimaidd?

Dwedwch Unwaith Wrthym

Pan fydd rhywun wedi marw, mae llawer o bethau sydd angen eu gwneud, a hynny ar adeg pan na fyddwch eisiau gwneud dim ohonynt, mae'n debyg. Un o'r pethau hyn yw cysylltu â'r adrannau llywodraeth a gwasanaethau cyngor lleol sydd angen gwybod am y farwolaeth.

Mae 'Dwedwch Unwaith Wrthym' yn wasanaeth lle gallwn eich helpu i roi'r wybodaeth i'r Adran Gwaith a Phensiynau, fel eu bod nhw yn pasio'r wybodaeth ymlaen i nifer o adrannau llywodraeth a gwasanaethau llywodraeth leol.

Mae teuluoedd sy'n galaru yn cael cynnig y gwasanaeth hwn yn y swyddfa gofrestru yn dilyn cofrestru'r farwolaeth.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yn yr adran Dwedwch Unwaith Wrthym.

Canllawiau Profedigaeth

Gwyddom y gall fod yn adeg anodd pan fydd rhywun sy'n agos atom yn marw. Gall y teimladau o sioc, tristwch, colled a dryswch ymyrryd â phob agwedd o’n bywydau. Mae hefyd yn adeg lle y mae cymaint o bethau i'w gwneud, er ein bod yn teimlo na allwn eu gwneud o gwbl.

Mae Gwasanaeth Cofrestru a Phrofedigaeth y Cyngor wedi cynhyrchu’r canllawiau profedigaeth hyn er mwyn eich helpu yn ystod y cyfnod anodd hwn. Maent yn rhoi arweiniad, cymorth a sicrwydd a byddant yn eich helpu i ddod o hyd i'r holl wybodaeth y bydd ei hangen arnoch er mwyn eich helpu i ddod dros eich profedigaeth.

Darllenwch ein Canllawiau Profedigaeth am fwy o wybodaeth.

Privacy Notice

Hysbysiad preifatrwydd gwasanaeth cofrestru (PDF)

Cysylltwch â ni
  • E-bost
  • Ffôn
  • Cyfeiriad
Facebook Rhannwch ar Facebook
Twitter Rhannwch ar Twitter
 
Rhowch Adborth
Ychwanegwch at fy nhudalennau
 
Argraffwch y dudalen hon
Gwasanaethau A i Y
  • A
  • B
  • C
  • Ch
  • D
  • Dd
  • E
  • F
  • Ff
  • G
  • Ng
  • H
  • I
  • L
  • Ll
  • M
  • N
  • O
  • P
  • Ph
  • R
  • Rh
  • S
  • T
  • Th
  • U
  • W
  • Y

Cysylltwch â ni ar gyfryngau cymdeithasol ac ymunwch â'r sgwrs


Am brofiad gwell, edrychwch ar y wefan hon ar Internet Explorer 11 neu uwch, Mozilla Firefox 27 neu uwch, Safari 7 neu uwch, Chrome 30 neu uwch, Opera 12 neu uwch neu feddalwedd borwr gyfwerth.

  • Ymwadiad
  • Hawlfraint
  • Polisi Preifatrwydd
  • Cwcis
  • Accessibility
  • Map o'r safle
Hawlfraint © 2017, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Cedwir pob hawl