Dywedwch Wrthym Unwaith
Pan fydd rhywun wedi marw, mae llawer o bethau sydd angen eu gwneud, a hynny ar adeg pan na fyddwch chi eisiau eu gwneud nhw o gwbl, mae'n debyg. Un o'r pethau hyn yw cysylltu â'r adrannau llywodraeth a'r gwasanaethau cyngor lleol sydd angen gwybod.
Mae Dywedwch Wrthym Unwaith yn wasanaeth lle gallwn ni eich helpu chi i roi'r wybodaeth i'r Adran Gwaith a Phensiynau, fel eu bod nhw wedyn yn pasio'r wybodaeth ymlaen i nifer o adrannau llywodraeth eraill a gwasanaethau llywodraeth leol.
Sut i gael mynediad at y gwasanaeth
Cyn y gallwch chi ddefnyddio'r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith, rhaid i chi gofrestru'r farwolaeth.
Pan fyddwch chi wedi gwneud hynny, gallwch chi ddefnyddio'r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith mewn un o dair ffordd:
- Wyneb yn wyneb yn y swyddfa gofrestru – Mae angen i chi gofrestru'r farwolaeth cyn y gallwch chi ddefnyddio'r gwasanaeth. Bydd y gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith yn cael ei gynnig i chi yn ystod yr un apwyntiad. I drefnu apwyntiad, cysylltwch â ni.
- Ar-lein yn Dywedwch Wrthym Unwaith – Gallwch chi hefyd ddefnyddio'r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith ar-lein. Pan fyddwch chi wedi cofrestru'r farwolaeth, bydd y cofrestrydd yn rhoi cyfeirnod Dywedwch Wrthym Unwaith unigryw i chi, a bydd angen hynny arnoch chi i fewngofnodi.
- Dros y ffôn gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau – Gallwch chi ddefnyddio'r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith ar unrhyw adeg ar ôl i chi gofrestru'r farwolaeth. Bydd y cofrestrydd yn rhoi'r rhif ffôn i chi ar ôl i chi gofrestru'r farwolaeth. Os oes angen, bydd cynghorydd a chyfieithydd ar y pryd yn eich ffonio chi'n ôl ac yn eich helpu chi. Os ydych chi'n ffonio o Gymru, byddwch chi'n cael parhau â'r alwad yn Gymraeg.
Pwy all gael ei hysbysu drwy'r gwasanaeth hwn?
Bydd Dywedwch Wrthym Unwaith yn helpu teuluoedd sy'n galaru i hysbysu'r sefydliadau ac adrannau llywodraeth canlynol pan fydd rhywun yn marw:
Gwasanaethau'r Cyngor
- Treth y Cyngor
- Gwasanaethau cymdeithasol i oedolion
- Bathodynnau glas (bathodynnau car i bobl anabl)
- Gwasanaethau cymdeithasol i blant
- Y gofrestr etholwyr
- Budd-dal tai a gostyngiad treth y Cyngor
- Casglu taliadau ar gyfer gwasanaethau'r cyngor
- Tai cyngor
- Llyfrgelloedd a hamdden
- Cerdyn Teithio Rhatach
Adran Gwaith a Phensiynau
- Lwfans Gweini
- Lwfans Gofalwr
- Lwfans Byw i'r Anabl
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
- Budd-dal Analluogrwydd
- Cymhorthdal Incwm
- Credyd Pensiwn
- Pensiwn y Wladwriaeth
- Y Ganolfan Byd Gwaith
- Tîm Gofal Iechyd Tramor
Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi
- Budd-dal Plant
- Credyd Treth Plant
- Credyd Treth Gwaith
- Trethu personol
Swyddfa Basbort Ei Fawrhydi
Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau
- Trwydded yrru
- Dogfen gofrestru/perchnogaeth cerbyd
Os y byddwch chi'n defnyddio'r gwasanaeth wyneb yn wyneb yn y swyddfa gofrestru, efallai gall y cofrestrydd eich helpu chi i ddod o hyd i ragor o wybodaeth a sefydliadau a allai fod o gymorth i chi, ac os oes angen, cysylltu ag adrannau eraill y Cyngor sydd heb eu rhestru uchod.
Gwybodaeth y byddwch chi ei hangen
Er mwyn gwneud yn siŵr bod yr wybodaeth gywir yn cael ei rhoi i unrhyw sefydliad y byddwn ni'n cysylltu â nhw ar eich rhan chi, ac er mwyn i chi gael y mwyaf allan o'r gwasanaeth, byddai'n ddefnyddiol os oes gennych chi’r wybodaeth ganlynol ynghylch yr ymadawedig wrth law:
- Rhif Yswiriant Cenedlaethol yr ymadawedig (ac unrhyw ŵr, gwraig neu bartner sifil presennol sy'n fyw)
- Dyddiad geni
- Tref/gwlad enedigol
- Manylion unrhyw wasanaethau/budd-daliadau roedd yn eu cael
- Trwydded yrru neu rif trwydded yrru
- Rhif cofrestru cerbyd unrhyw gerbyd sydd wedi’u cofrestru yn enw’r ymadawedig
- Pasbort neu rif pasbort
- Bathodyn glas
Gallech chi gael eich holi am fanylion:
- Perthynas agosaf
- Gŵr, gwraig neu bartner sifil sy'n fyw
- Y person sy'n delio gyda'r ystad
Noder: Rhaid cael caniatâd y bobl sydd wedi'u rhestru uchod os ydych chi'n mynd i roi gwybodaeth amdanyn nhw i ni.
Rhagor o wybodaeth
Os hoffech chi ragor o wybodaeth ynghylch y gwasanaeth, cysylltwch â'r swyddfa gofrestru.