News Centre

Cyngor Caerffili yn gofyn i denantiaid roi barn ar eu rhent

Postiwyd ar : 21 Medi 2022

Cyngor Caerffili yn gofyn i denantiaid roi barn ar eu rhent
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cynnal ymgynghoriad eang gyda'i denantiaid i ddarganfod beth yw eu barn ar eu rhent ac a yw'n cynnig gwerth am arian.

Mae gofyn i denantiaid lenwi arolwg byr i ddweud wrth y Cyngor a ydyn nhw'n credu bod eu rhent yn deg, yn fforddiadwy ac a yw'r gwasanaeth y maen nhw'n ei dderbyn yn rhoi gwerth am eu harian.

Mae'r arolwg ar gael ar-lein; bydd pawb sy'n cymryd rhan yn cael eu cynnwys mewn raffl lle bydd un person yn ennill £150 ar ffurf talebau siopa a thri pherson arall yn ennill £50.

Os nad oes modd i unrhyw un lenwi'r arolwg ar-lein, neu oes oes angen cymorth ar unrhyw un, mae modd cysylltu â'r Tîm Cyfranogiad Tenantiaid a'r Gymuned drwy ffonio 01443 811433 / 811434 neu anfon e-bost i CyfranogiadTenantiaid@caerffili.gov.uk.

Cafodd adborth o ymgynghoriad blaenorol â thenantiaid ei ystyried gan Gabinet y Cyngor fel rhan o'i benderfyniad ar bolisi gosod rhent. Gwrandawodd aelodau'r Cabinet ar adborth gan denantiaid a chytuno i ystyried enillion cyfartalog aelwydydd ledled y Fwrdeistref Sirol wrth osod rhenti.

Mae rhent ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn parhau i fod yn un o'r isaf yng Nghymru a bydd yr arolwg presennol yn helpu sicrhau bod fforddiadwyedd a gwerth am arian yn parhau i gael eu hystyried yn y blynyddoedd i ddod.


Ymholiadau'r Cyfryngau