News Centre

Grwpiau cymuned lleol yn casglu 10 gwobr yng Nghystadleuaeth Wales in Bloom

Postiwyd ar : 27 Medi 2021

Grwpiau cymuned lleol yn casglu 10 gwobr yng Nghystadleuaeth Wales in Bloom
Mae 10 gwobr wedi cael eu hennill gan y gwahanol grwpiau gwirfoddol Basn Caerffili yng ngwobrau Wales in Bloom yn Ynys Môn.

Wales in Bloom yw elfen ranbarthol Cystadleuaeth Genedlaethol Britain in Bloom wedi’i chefnogi gan y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol.

Eu neges yw ‘Helpu Cymunedau i Dyfu’ er mwyn annog cefnogaeth wirfoddol sy’n gwella amgylchedd lleol unigolion.

Mae’r neges hon yn dod ar y cyd ag Ymgyrch ‘Eich Cymdogaeth' y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol yng Nghymru. 
 
Mae canlyniadau'r Gystadleuaeth fel a ganlyn: 

Prif Gystadleuaeth:
 
  • Enillodd Cyfeillion Rhandiroedd Cymunedol Parc Morgan Jones y Wobr Aur yn y categori rhandiroedd gyda'r gwirfoddolwr cymunedol, Elizabeth Thomas, yn derbyn y Wobr Goffa Norman Stewart am gyfraniadau rhagorol tuag at wirfoddoli ar gyfer 2020 a 2021.
 
  • Dyfarnwyd Lle Cyntaf Arian Eurad yn y categori Dinas a Thref i grŵp Caerffili yn ei Blodau ar gyfer Tref Caerffili.
 
Cystadleuaeth ‘Eich Cymdogaeth’:

Yn ymgyrch Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol ‘Eich Cymdogaeth’ mae pum lefel o gyflawniad:
 
Lefel Disgrifiad Pwyntiau
Lefel 1 Sefydlu 0-35
Lefel 2 Gwella 36-52
Lefel 3 Datblygol 53-68
Lefel 4 Ffynnu 69-85
Lefel 5 Eithriadol 86-100
 
  • Dyfarnwyd Lefel 5 - Eithriadol i Gyfeillion Rhandiroedd Cymunedol Parc Morgan Jones
 
  • Dyfarnwyd Lefel 4 - Ffynnu i Grŵp Cymunedol Trem y Castell .
 
  • Dyfarnwyd Lefel 4 - Ffynnu i Grŵp Garddio Eglwys Martin Sant
 
 
Meddai'r Cynghorydd Nigel George, Aelod Cabinet dros Wastraff, Diogelwch y Cyhoedd a Strydoedd, “Roedd yn bleser ymweld â Chyfeillion Rhandiroedd Cymunedol Parc Morgan Jones a thrafod eu gwobrau gwych a'u gwasanaeth cymunedol. Mae hwn yn gyflawniad eithriadol i'r grwpiau o ystyried pandemig COVID-19 ac mae’n tynnu sylw at y rhan bwysig y gall grwpiau cymunedol ei chwarae wrth wella eu trefi lleol a’u mannau agored.”


Ymholiadau'r Cyfryngau