Bryn Hafodyrynys - Diweddariad
Postiwyd ar : 27 Medi 2021
Mae preswylwyr yn cael eu hatgoffa y bydd cau lôn a goleuadau traffig ar waith yn ddechrau heddiw, 27 Medi, ar gam nesaf y gwaith ar Fryn Hafodyrynys (Woodside Terrace).
Mae'r cau lôn, a reolir gan oleuadau traffig ar yr A472 ar waith i sicrhau diogelwch y gweithwyr ac i gynnal cyswllt troedffordd parhaus i gerddwyr.
Bydd y goleuadau traffig ar waith rhwng 09.30am a 3.00pm. Ar hyn o bryd, mae disgwyl i'r gwaith hwn bara am bedair wythnos gan ddechrau ddydd Llun 27 Medi.
Bydd darpariaeth yn cael ei wneud i adleoli'r arhosfan bysiau dros dro.
Rydyn ni'n rhagweld tagfeydd traffig wrth y safle, felly, mae modurwyr yn cael eu hannog i ddefnyddio llwybrau amgen os yn bosibl. Bydd angen cyfyngiadau traffig pellach yn ystod cyfnod y contract a bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi maes o law.
Hoffem ni ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra y mae'r gwaith anochel hwn yn ei achosi.
Mae llythyrau wedi cael eu dosbarthu i breswylwyr sy'n byw gyferbyn â'r safle gwaith, gan ddarparu manylion am y cynllun a manylion cyswllt perthnasol yr asiantaethau dan sylw.
Bydd y Cyngor yn cyhoeddi diweddariadau pellach dros yr wythnosau nesaf i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cyhoedd.