News Centre

Mae CBSC yn gosod marciau ffordd pabi trawiadol am Ddiwrnod y Cofio hwn

Postiwyd ar : 27 Hyd 2021

Mae CBSC yn gosod marciau ffordd pabi trawiadol am Ddiwrnod y Cofio hwn
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn coffáu Diwrnod y Cofio ymhellach eleni gyda chyfres o farciau ffyrdd pabi trawiadol mewn lleoliadau ledled y fwrdeistref sirol.
 
Mae'r Tîm Priffyrdd yn gweithio gyda chontractwyr i baentio'r dyluniadau ar wyneb y ffordd ger yr holl gofebion a gynhelir gan y cyngor. Mae'r gwaith yn dibynnu ar y tywydd, ond mae'r cyngor yn gwneud cynnydd da mewn safleoedd ar draws yr ardal.
 
Mae’r cwmni sy'n gosod y gwaith celf, Roman Road Markings, hefyd wedi cytuno’n garedig i sybsideiddio nifer o osodiadau yng nghanol trefi, ond mae penderfyniad bellach wedi'i wneud i ymestyn y marciau ar draws yr holl gofebau a gynhelir gan y Cyngor.

Dywedodd y Cyng Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd CBSC, “Yn ddiweddar, cytunodd y Cyngor i gefnogi trefnwyr Gorymdeithiau Cofio gyda'u logisteg digwyddiadau eleni felly, rwy'n falch ein bod yn coffáu Sul y Cofio ymhellach gyda gosod y marciau pabi hardd hyn.”


 


Ymholiadau'r Cyfryngau