News Centre

Torri record nifer yr ymwelwyr â Gŵyl Fwyd Caerffili

Postiwyd ar : 16 Mai 2022

Torri record nifer yr ymwelwyr â Gŵyl Fwyd Caerffili
Fe wnaeth bron i 14,000 o bobl ymweld â chanol tref Caerffili y penwythnos diwethaf ar gyfer Gŵyl Fwyd gyntaf y dref ers 2019.

Fe gafodd Gŵyl Fwyd flynyddol y dref ei chanslo am y ddwy flynedd diwethaf oherwydd y pandemig COVID-19, ond roedd hi'n llwyddiant ysgubol yn ei blwyddyn gyntaf yn ôl.

Ddydd Sadwrn 7 Mai fe gafodd canol tref Caerffili ei thrawsnewid yn farchnad a oedd yn llawn danteithion coginiol, gan gynnwys 70 o stondinau bwyd a chrefft ac arddangosiadau coginio.

Roedd diddanwyr stryd yn crwydro'r ŵyl drwy'r dydd i ddiddanu pawb ac roedd detholiad bach o reidiau ffair i blant i ddiddanu'r rhai bach.

Fe wnaeth y digwyddiad sicrhau mewnlifiad o ymwelwyr â chanol tref Caerffili, gyda'r ŵyl eleni yn cyrraedd y nifer fwyaf erioed o ymwelwyr a 12,361 o ymwelwyr ychwanegol o gymharu â'r dydd Sadwrn blaenorol.
Roedd yr ŵyl yn gyfle perffaith i ymwelwyr siopa'n lleol – mae canol tref Caerffili yn cynnig dewis o siopau annibynnol gyda syniadau ar gyfer anrhegion trawiadol, ac mae hefyd nifer o siopau'r stryd fawr a lleoliadau bwyta allan bendigedig.

Meddai un o'r busnesau lleol, “Yma, yn Aviary, fe wnaethon ni sicrhau ein perfformiad personol gorau o ran gwerthiant! Mae'n gyflawniad enfawr i ni oherwydd, ers agor ym mis Awst 2020, rydyn ni wedi wynebu rhwystr ar ôl rhwystr. Rwy'n gobeithio bod Cyngor Caerffili yn bwriadu trefnu rhagor o ddigwyddiadau fel yr Ŵyl Fwyd yn y dyfodol.

“Roedd hi'n hyfryd gweld canol ein tref yn llawn bywyd a chwerthin gan drigolion lleol a phobl o bell. Roedd hi'n wych i bob busnes lleol!”

Ychwanegodd Café and Bistro, The Gatehouse, “I ni, roedd yr Ŵyl Fwyd yn wych. Roedd hi'n hyfryd gweld cynifer o bobl tu allan ar ddiwrnod heulog, mor fywiog a braf. Fe wnaethon ni, fel busnes, elwa'n fawr arni hi ac, o ganlyniad, fe gawson ni ein dydd Sadwrn mwyaf proffidiol ers agor flwyddyn yn ôl.”

Dywedodd trydydd person: “Mae Ten Degrees Bar & Restaurant yn ffodus i gael ei leoli yng nghanol Caerffili, yn agos iawn i’r Gŵyl Fwyd ac, o ganlyniad uniongyrchol i’r holl ymwelwyr ychwanegol â’r dref, a diolch i’n haelodau tîm gwych, Alan a Sam, a oedd allan yn hyrwyddo a chwrdd ag ymwelwyr drwy gynnig samplau bwyd, roedd pob bwrdd yn llawn ar gyfer y prynhawn cyfan.

“Diolch i bawb a helpodd i drefnu’r ŵyl, fe roddodd hwb a chyhoeddusrwydd ychwanegol i ni, edrychwn ymlaen at gymryd rhan mewn rhagor o ddigwyddiadau yn y dyfodol.”

Am ragor o wybodaeth, ewch i www.visitcaerphilly.com/cy/events, ffonio Canolfan Croeso Caerffili ar 029 2088 0011, neu e-bostio digwyddiadau@caerffili.gov.uk


Ymholiadau'r Cyfryngau