News Centre

Cyhoeddi ail enillydd £500 Bwrdeistref Sirol Caerffili

Postiwyd ar : 16 Mai 2022

Cyhoeddi ail enillydd £500 Bwrdeistref Sirol Caerffili
Mae ail enillydd ymgyrch Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Gweddillion am Arian, wedi’i gyhoeddi.

Mae Alan Matthews o Pontlottyn wedi cael eu cyhoeddi fel ail enillwyr ymgyrch Gweddillion am Arian Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Cafodd yr ymgyrch Gweddillion am Arian ei lansio  ym mis Mawrth 2022 yn unol ag Wythnos Gweithredu Gwastraff Bwyd gyda’r nod o gynyddu nifer y trigolion sy’n ailgylchu eu gwastraff bwyd ar hyn o bryd.

Bydd yr ymgyrch yn gweld tai yn cael eu monitro gydag un cyfranogwr ailgylchu bwyd yn cael ei ddewis ar hap bob mis, gyda phob enillydd yn derbyn £500.

Mae lefelau cyfranogiad ailgylchu gwastraff bwyd y Fwrdeistref tua 40% ar hyn o bryd.

Mae'r Awdurdod Lleol yn gobeithio y bydda y cynnydd o ran ailgylchu gwastraff bwyd yn arwain at leihau faint o sbwriel sy'n cael ei daflu, gan roi hwb i'r cyfraddau ailgylchu cyffredinol ac ategu ymrwymiad y Cyngor i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a, thrwy hynny, gyfrannu at y nodau cenedlaethol a byd-eang o ran datgarboneiddio.

Dywedodd Mr Matthews: “Rydw i wedi bod yn ailgylchu fy ngwastraff bwyd ers tua 10 mlynedd. Doeddwn i ddim wedi clywed am yr ymgyrch Gweddillion am Arian felly roedd yn bendant yn syrpréis hyfryd i gael gwybod fy mod wedi ennill.”

Esboniodd Mark Williams, Cyfarwyddwr Corfforaethol Economi a’r Amgylchedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili: “Llongyfarchiadau mawr i Mr Matthews, mae’n wych gweld enillydd hapus arall.

"O ystyried y cynnydd o ran biliau ynni ar hyn o bryd, rydyn ni'n edrych ymlaen at allu ailddosbarthu arian cyhoeddus yn ôl i'r gymuned yn y modd hwn, gyda'r gobaith o ailgylchu mwy o wastraff bwyd ar yr un pryd.”

Bydd enillwyr yr ymgyrch, Gweddillion am Arian, yn parhau i gael eu cyhoeddi bob mis drwy gydol 2022.
Am ragor o wybodaeth neu i wneud cais am gadi gwastraff bwyd, ewch i: www.caerphilly.gov.uk/Services/Household-waste-and-recycling/Food-waste?lang=cy-gb
 


Ymholiadau'r Cyfryngau