Proses ymgeisio ar agor ar gyfer Taliad Cymorth i Ofalwyr Di-dâl gwerth £500
Postiwyd ar : 16 Mai 2022
Proses ymgeisio ar agor ar gyfer Taliad Cymorth i Ofalwyr Di-dâl gwerth £500
Gall gofalwyr di-dâl cymwys ym Mwrdeistref Sirol Caerffili nawr wneud cais am daliad cymorth o £500 sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Mae taliad untro o £500 ar gael i bob gofalwr di-dâl cymwys yng Nghymru a oedd yn cael Lwfans Gofalwyr ar 31 Mawrth 2022.
Mae'r taliad yn cael ei wneud i gydnabod y pwysau ariannol cynyddol maen nhw wedi’u hwynebu yn ystod y pandemig, ac i helpu gyda rhai o’r costau ychwanegol maen nhw wedi’u hwynebu. Targedir y taliad tuag at yr unigolion hynny sy’n gofalu am rywun am o leiaf 35 awr yr wythnos ac ar incwm isel.
Nid yw unigolion yn gymwys i gael y taliad os: -
- oes ganddynt hawl sylfaenol i gael Lwfans Gofalwyr ond nad ydynt yn cael taliad oherwydd eu bod yn derbyn budd-dal arall ar yr un gyfradd neu gyfradd uwch; neu
- eu bod yn cael premiwm gofalwr mewn budd-dal sy’n dibynnu ar brawf modd.
Os ydych chi’n credu y gallech chi fod yn gymwys i gael y cymorth hwn, gallwch gyflwyno hawliad drwy’r wefan hon o 9am ar 16 Mai 2022 ymlaen.
Rhaid derbyn pob ffurflen gofrestru cyn 5pm ar 15 Gorffennaf 2022. Bydd taliadau ar gyfer hawliadau llwyddiannus yn cael eu gwneud o fis Mehefin tan ddiwedd mis Medi 2022.
Cofiwch, dylech gofrestru gyda’r Cyngor lle rydych chi’n byw, nid y Cyngor lle mae’r person rydych chi’n gofalu amdano’n byw (os yw’n wahanol).
Ewch i www.caerffili.gov.uk i wneud cais am y Taliad Cymorth i Ofalwyr Di-dâl.