News Centre

Cynlluniau yn mynd ymlaen ar gyfer cynigion cyffrous Ysgolion yr 21ain Ganrif

Postiwyd ar : 26 Ion 2022

Cynlluniau yn mynd ymlaen ar gyfer cynigion cyffrous Ysgolion yr 21ain Ganrif
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi symud ymlaen i'r camau nesaf o'u cynigion cyffrous ar gyfer Ysgolion yr 21ain Ganrif o dan y rhaglen Band B.

Bydd cynigion Ysgolion yr 21ain Ganrif yn cynnwys:

£4 miliwn ar gyfer Ysgol Iau Llancaeach ac Ysgol Fabanod Llanfabon - Cynnig i gyfuno'r ddwy ysgol trwy ehangu ac adnewyddu safle presennol Ysgol Fabanod Llanfabon. Bydd yr ysgol gynradd newydd gynnig 275 o leoedd i ddisgyblion ynghyd â meithrinfa. Mae aelodau'r Cabinet wedi cymeradwyo'r argymhellion sydd wedi'u hamlinellu yn yr Adroddiad ar yr Ymgynghoriad a bydd cynlluniau nawr yn symud ymlaen i'r cam o gyflwyno hysbysiad statudol yn unol â gofynion Cod Trefniadaeth Ysgolion 2018.

£9 miliwn ar gyfer Ysgol Gynradd Plasyfelin - Cynnig i adeiladu ysgol newydd a mwy ar dir ar safle presennol yr ysgol, ar gyfer ateb y galw rhagamcanol yn yr ardal yn y dyfodol. Bydd yr ysgol newydd ddarparu 420 o leoedd i ddisgyblion ynghyd â meithrinfa. Mae aelodau'r Cabinet wedi cymeradwyo'r argymhellion sydd wedi'u hamlinellu yn yr Adroddiad Ymgysylltu â'r Gymuned a bydd cynlluniau nawr yn symud ymlaen i'r cam o gyflwyno cais cynllunio ac achos busnes llawn i Lywodraeth Cymru.
 
Hefyd, mae £416,063 ychwanegol wedi'i gymeradwyo ar gyfer Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon. Mae cynllun i adleoli Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon i ysgol Gymraeg bwrpasol newydd i’w lleoli ar safle gwag hen Ysgol Uwchradd Cwmcarn, wedi’i gymeradwyo ym mis Ebrill 2021 ac yn mynd rhagddo ar hyn o bryd drwy’r broses o gyflwyno ceisiadau cynllunio a thendro.

Bydd pob un o’r tri chynnig yn cynnwys cyfleusterau sy’n hygyrch i’r gymuned ehangach ac yn gweithio tuag at dargedau datgarboneiddio sydd bellach wedi’u hymgorffori ym mhob cynllun Ysgolion yr 21ain Ganrif.

Dywedodd y Cynghorydd Ross Whiting, Aelod Cabinet dros Addysg a Hamdden, “Mae gennym ni hanes profedig o ddatblygu cyfleusterau o’r radd flaenaf i’n dysgwyr wella, cyflawni a theimlo’n ysbrydoledig, ac nid oes gennyf i unrhyw amheuaeth y byddwn ni'n derbyn yr her unwaith eto.

“Mae gennym ni uchelgeisiau beiddgar i roi'r cyfleoedd bywyd gorau i bob dysgwr, ac rydyn ni wedi ymrwymo i wneud hyn trwy ddarparu addysgu, dysgu ac arweinyddiaeth o ansawdd uchel ar draws ein hysgolion.”

Mae'r Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif yn rhaglen buddsoddi cyfalaf sylweddol, hirdymor a strategol, sy'n cael ei hariannu ar y cyd â Llywodraeth Cymru. Mae'r Rhaglen hefyd yn cyfrannu at Fframwaith Llesiant a Llunio Lleoedd y Cyngor o ran buddsoddi ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili.


Ymholiadau'r Cyfryngau