Hysbysiad o’r amser olaf i gyflwyno anerchiadau etholiadol 

Hysbysiad o’r amser olaf i gyflwyno anerchiadau etholiadol ymgeiswyr i Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu

Yn unol â pharagraff 2, Atodlen 8, Rhan 1 o Orchymyn Etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu 2012, rhaid i Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu roi hysbysiad cyhoeddus o’r amser olaf i ymgeiswyr sy’n sefyll yn yr etholiad hwn gyflwyno eu hanerchiad etholiadol.
 
Y dyddiad cau i ymgeiswyr gyflwyno eu hanerchiad etholiadol fydd 12.00pm (CANOL DYDD) ddydd Gwener, 5 Ebrill 2024.

  1. Rhaid i'r anerchiad etholiadol gael ei baratoi gan asiant yr ymgeisydd a'i gyflwyno'n electronig drwy wefan FY CHTh (dolenni ar gael gan Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu) i'r Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu erbyn yr amser uchod. 

  2. Rhaid rhoi anerchiad yr asiant etholiadol hefyd.  

  3. Rhaid cyflwyno’r anerchiad etholiadol yn Gymraeg neu Saesneg a gall yr asiant etholiadol gyflwyno cyfieithiad hefyd i’r Saesneg neu Gymraeg sy’n gyfieithiad cyflawn a chywir. 

  4. Rhaid i anerchiad etholiadol nodi enw'r ymgeisydd a rhaid gynnwys mater sy'n ymwneud â'r etholiad uchod yn unig. 

  5. Rhaid i'r anerchiad etholiadol beidio â chynnwys unrhyw ddeunydd hysbysebu (ac eithrio deunydd sy'n hyrwyddo'r ymgeisydd fel ymgeisydd yn yr etholiad). 

  6. Rhaid i'r anerchiad etholiad beidio â chynnwys unrhyw ddeunydd sy'n cyfeirio at unrhyw ymgeisydd arall ar gyfer yr etholiad. 

  7. Rhaid i'r anerchiad etholiadol beidio ag ymddangos i’r Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu fel un sy’n cynnwys unrhyw ddeunydd gyda'r bwriad o elwa'n fasnachol, neu fod yn anweddus, yn anllad neu'n dramgwyddus. 

  8. Rhaid i'r anerchiad  etholiadol beidio â bod yn gyhoeddiad neu'n ddosbarthiad a fyddai'n debygol o fod cystal â chyflawni trosedd. 

  9. Rhaid i unrhyw ffotograff sy'n dangos yr ymgeisydd ac sy'n rhan o'r anerchiad etholiadol beidio â dangos neb arall a rhaid iddo gydymffurfio â pharagraffau 5 i 8 uchod.  

  10. Gall yr anerchiad etholiadol  gynnwys emblem gofrestredig, neu (yn ôl fel y digwydd) un o emblemau cofrestredig, plaid wleidyddol gofrestredig, os yw'r anerchiad yn cael ei baratoi ar ran ymgeisydd plaid awdurdodedig. 

  11. Pan fydd anerchiad etholiadol wedi'i baratoi ar ran ymgeisydd plaid awdurdodedig, gall yr anerchiad gynnwys disgrifiad o dan adran 28A o Ddeddf 2000 neu, os yw’r disgrifiad wedi’i gofrestru i’w ddefnyddio gan ymgeiswyr o ddwy blaid neu fwy, o dan adran 28B o’r Ddeddf honno.

Dyddiad: Dydd Llun 25 Mawrth 2024
Christina Harrhy - Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu