Hysbysiad Etholiad
Etholiad ar Gyfer Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Ar gyfer ardal heddlu gwent
-
Caiff etholiad ei gynnal ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar gyfer ardal Heddlu Gwent.
-
Rhaid i bapurau enwebu gael eu cyflwyno i Swyddog Canlyniadau'r Ardal Heddlu yn Swyddfeydd y Gwasanaethau Etholiadol, Tŷ Bargod, 1 St Gwladys Way, Bargod CF81 8AB, rhwng 10.00am a 4.00pm ar unrhyw ddiwrnod gwaith (dydd Llun i ddydd Gwener) ar ôl dyddiad yr hysbysiad hwn, ond heb fod yn hwyrach na 4.00pm ddydd Gwener 5 Ebrill 2024.
-
Gellir cael papurau enwebu yn y lle ac ar yr adegau a grybwyllir uchod.
-
Gellir talu'r ernes £5,000 mewn arian parod neu drwy ddrafft banc (banciau sy'n gweithredu o fewn y Deyrnas Unedig yn unig) neu, os byddaf wedi rhoi caniatâd o flaen llaw, drwy daliad electronig (BACS).
-
Os ymleddir yr etholiad, cynhelir y bleidlais ddydd Iau 2 Mai 2024.
-
Rhaid i geisiadau am ychwanegu enw at y Gofrestr Etholwyr i gael pleidleisio yn yr etholiad hwn gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol perthnasol yn y cyfeiriad isod erbyn canol nos ddydd Mawrth 16 Ebrill 2024. Gellir cyflwyno cais ar-lein: www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio
-
Rhaid i geisiadau, newidiadau neu achosion o ganslo pleidleisiau post gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol perthnasol yn y cyfeiriad isod erbyn 5.00pm ddydd Mercher 17 Ebrill 2024.
-
Rhaid i geisiadau am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr neu Ddogfen Etholwr Dienw ddilys ar gyfer yr etholiad hwn gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol erbyn 5.00pm ddydd Mercher 24 Ebrill 2024. Gellir cyflwyno cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr ar-lein: www.gov.uk/ceisio-am-lun-id-tystysgrif-awdurdod-pleidleiswyr
-
Rhaid i geisiadau i bleidleisio drwy ddirprwy yn yr etholiad hwn gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol perthnasol yn y cyfeiriad isod erbyn 5.00pm ddydd Mercher 24 Ebrill 2024.
-
Rhaid i geisiadau i bleidleisio drwy ddirprwy mewn argyfwng yn yr etholiad hwn gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol perthnasol yn y cyfeiriad isod erbyn 5.00pm ddydd Iau 2 Mai 2024.
Manylion cyswllt y Swyddfa Cofrestru Etholiadol
Blaenau Gwent
- CBS Blaenau Gwent, Y Swyddfeydd Cyffredinol, Steelworks Road, Glynebwy NP23 6DN
- 01495 355086
Caerffili
- CBS Caerffili, Tŷ Bargod, 1 St Gwladys Way, Bargod CF81 8AB
- 01443 864405
Sir Fynwy
- Cyngor Sir Fynwy, Neuadd y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga NP15 1GA
- 01633 644212
Casnewydd
- Cyngor Dinas Casnewydd, Ystafell 528, Y Ganolfan Ddinesig, Casnewydd NP20 4UR
- 01633 210744
Torfaen
- CBS Torfaen, Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pŵl NP4 6YB
- 01495 766074
Dyddiad: Dydd Llun 25 Mawrth 2024
Christina Harrhy - Swyddog Canlyniadau'r Ardal Heddlu