Cwynion am un o wasanaethau'r cyngor
Dywedwch wrthym beth yw eich barn am ein gwasanaeth- rydym bob amser yn falch i glywed oddi wrthych. Os ydych eisiau dweud wrthym am rywbeth rydym wedi ei wneud, os oes rhywbeth rydych eisiau rhoi sylwad amdano neu os rydych eisiau gwneud cwyn ffurfiol, bydd y dudalen hon yn dweud wrthych sut i wneud hynny.
Gwneud cwyn, sylw neu roi canmoliaeth >
Bydd y ddolen hon yn cymryd chi i Cyswllt Caerffili. Cofrestrwch nawr neu mewngofnodwch i adrodd, ymgeisio neu i dalu am wasanaethau. Os nad ydych am greu cyfrif, cliciwch ar ‘Parhau heb gofrestru’. Edrychwch yn eich ffolder e-bost sothach/sbam am neges actifadu cyfrif a negeseuon hysbysu oddi wrthym!
Y broses gwyno
Rydym yn delio â chwynion gan ddefnyddio proses ddau gam, fel a ganlyn:
1. Delio â'ch cwyn
Cam 1 - Beth ddylech chi ei wneud os nad ydych yn fodlon gyda'r gwasanaeth yr ydych wedi'i dderbyn
Dechreuwch drwy gysylltu â'r person a ddarparodd y gwasanaeth neu gofynnwch am gael siarad â'i reolwr/rheolwr. Gallwch ddatrys y rhan fwyaf o broblemau fel hyn.
Os nad ydych yn siŵr pwy y dylech gysylltu â hwy i wneud cwyn, e-bostiwch ni ar cwynion@caerffili.gov.uk.
Polisi Cwynion Corfforaethol (PDF)
Polisi a Gweithdrefn ar Gyfer Ymdrin  Chamau Gweithredu Annerbyniol, Parhaus Neu Afresymol Gan Achwynwyr Dan Bolisi Cwynion Corfforaetholy y Cyngor (PDF)
2. Ymchwiliad ffurfiol
Cam 2 - Beth ddylech ei wneud os nad ydych yn fodlon ag ymateb y rheolwr.
Os nad yw eich cwyn yn cael ei datrys ac rydych yn teimlo eich bod am gwyno ymhellach, bydd angen i chi gysylltu â'r Swyddog Cwynion ar 01443 864221 neu drwy e-bost i cwynion@caerffili.gov.uk.
Pa mor hir fydd yn ei gymryd?
Byddwn yn cydnabod eich cwynion ysgrifenedig o fewn 5 diwrnod gwaith. Byddwn yn ceisio datrys eich cwyn o fewn 20 diwrnod gwaith. Os nad yw hynny'n bosibl, byddwn yn dweud wrthych pam a pha mor hir y bydd yn ei gymryd.
Os byddwn yn ymchwilio i'ch cwyn, byddwn yn rhoi gwybod i chi beth yr ydym wedi canfod yn ôl eich dewis o ddull cyfathrebu. Os bydd angen, byddwn yn cynhyrchu adroddiad manwl. Byddwn yn esbonio sut a pham yr ydym wedi dod i'n casgliadau.
Os byddwn yn darganfod ein bod wedi gwneud camgymeriad, byddwn yn dweud wrthych beth ddigwyddodd a pham. Os byddwn yn darganfod fod nam yn ein systemau neu'r ffordd rydym yn gwneud pethau, byddwn yn dweud wrthych beth ydyw a sut y bwriadwn newid pethau i'w atal rhag digwydd eto. Os ydym wedi gwneud camgymeriad, byddwn bob amser yn ymddiheuro.
Os ydych yn anfodlon o hyd
Os ydych yn anfodlon o hyd, gallwch wneud cwyn i:
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
1 Ffordd yr Hen Gae
Pencoed
CF35 5LJ
Ffôn: 0300 790 0203
E-bost: ask@ombudsman-wales.org.uk
www.ombudsman-wales.org.uk