Gorfodi rheoliadau cynllunio
Gallwn ddefnyddio pwerau gorfodi mewn achosion o fethu â chydymffurfio â’r rheoliadau cynllunio.
Pwerau yn ôl disgresiwn ydynt, ac rydym ond yn gallu eu defnyddio pan fo’n gymesur gwneud hynny yn unol â pholisïau a deddfwriaeth gynllunio.
Mae’r prif feysydd lle gellir defnyddio’r pwerau gorfodi fel a ganlyn:
- Gwneud gwaith adeiladu naill ai heb ganiatâd cynllunio neu mewn ffordd sy’n wahanol iawn i’r hyn y rhoddwyd caniatâd cynllunio ar ei gyfer.
- Methu â chydymffurfio ag amodau cynllunio sy’n ymwneud â cheisiadau cynllunio.
- Newid defnydd tir neu adeiladau naill ai heb ganiatâd cynllunio neu mewn ffordd sy’n wahanol iawn i'r hyn y rhoddwyd caniatâd cynllunio ar ei gyfer.
- Hysbysebion anawdurdodedig
- Gwaith ar adeiladau rhestredig
- Tir ac eiddo anniben
- Gwaith ar goeden a warchodir neu waith i gwympo coeden o’r fath
Nid yw tor-reolaeth cynllunio yn drosedd, fodd bynnag, os byddwn yn cyflwyno hysbysiad gorfodi ffurfiol, bydd methu â chydymffurfio â thelerau’r hysbysiad yn drosedd.
Rhoi gwybod am dor-reolaeth
Os ydych yn amau achos o dor-reolaeth cynllunio, dylech gysylltu â ni. Nodwch na fydd yr Awdurdod yn derbyn cwynion dienw, nac yn ymchwilio iddyn nhw.
Cysylltu â ni ynghylch achos posibl o dorri rheoliadau cynll >
Sylwch, ni fydd y ffurflen hon yn gweithio o fewn Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern fel Edge, Chrome neu Safari
Bydd y ddolen hon yn cymryd chi i Cyswllt Caerffili. Cofrestrwch nawr neu mewngofnodwch i adrodd, ymgeisio neu i dalu am wasanaethau. Os nad ydych am greu cyfrif, cliciwch ar ‘Parhau heb gofrestru’. Edrychwch yn eich ffolder e-bost sothach/sbam am neges actifadu cyfrif a negeseuon hysbysu oddi wrthym!
Bydd angen i ni wybod y manylion canlynol:
- Cyfeiriad llawn y safle, gan gynnwys y cod post
- Manylion llawn y gweithgareddau sy’n peri pryder i chi
- Pryd ddechreuodd y gweithgareddau
- Os yw’n hysbys, enwau a chyfeiriadau unrhyw berchenogion, meddianwyr neu gwmnïau sy’n ymwneud â’r achos dan sylw
Er y bydd y Cyngor yn cadw eich cwyn yn gyfrinachol, gall fod angen ei datgelu os bydd y mater yn destun apêl neu achos llys.
Beth sy’n digwydd ar ôl cyflwyno cwyn?
Ar ôl cael cwyn ddilys sydd wedi’i chefnogi’n llawn gan y dystiolaeth briodol byddwn yn:
- Cofrestru’r gwyn yn System Orfodi’r Cyngor
- Cydnabod y gwyn yn ysgrifenedig o fewn pum diwrnod gwaith ar ôl iddi ddod i law (drwy e-bost lle mae’r cyfeiriad wedi’i ddarparu), gan roi:
- Rhif cyfeirnod yr Achos Gorfodi
- Enw a manylion cyswllt Swyddog yr Amgylchedd a fydd yn ymchwilio i’r gwyn
Mae rhagor o wybodaeth am y lefelau o flaenoriaeth a’r gwasanaeth gorfodi a ddarperir ar gael yn
Polisi Gorfodi Cynllunio.
Beth sy’n digwydd os oes achos o dor-reolaeth cynllunio?
Cymerir camau gorfodi yn ôl disgresiwn. Ni fydd pob achos o dor-reolaeth cynllunio yn arwain at gymryd camau ffurfiol; rhaid ystyried pob achos ar sail ei rinweddau unigol, gan ystyried y polisïau lleol a chenedlaethol ac ystyriaethau perthnasol eraill, yn yr un modd â chais cynllunio.
Os yw’n debygol y byddai caniatâd cynllunio wedi’i roi ar gyfer y datblygiad, ni chymerir unrhyw gamau gorfodi. Os bydd rhannau o’r datblygiad neu'r datblygiad cyfan yn annerbyniol, cyflwynir ‘hysbysiad gorfodi’. Bydd gan y tramgwyddwr yr hawl i gyflwyno apêl i’r Arolygiaeth Gynllunio yn erbyn yr hysbysiad, ond os bydd yr apêl honno’n methu, bydd rhaid iddo gydymffurfio â gofynion yr hysbysiad neu wynebu erlyniad.