FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00am a 8:00am ar y 05 Mai 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00am and 8:00am on the 05 May 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Meini prawf ar gyfer sgorio ceisiadau

Bydd ceisiadau yn cael eu hasesu yn erbyn y meini prawf canlynol:

Statws y Busnes:

  • Busnes sy’n ehangu gyda thwf swyddi (Sgôr 5)
  • Busnes Cychwyn (Sgôr 4)
  • Busnes mewnfuddsoddi presennol (Sgôr 3)
  • Busnes presennol sy'n symud i gyfuno (Sgôr 2)
  • Busnes sy’n lleihau (Sgôr 1)

Nifer y swyddi:

  • 20+ cyflogai (Sgôr 5)
  • 6 - 20 cyflogai (Sgôr 4)
  • 3 - 5 cyflogai (Sgôr 3)
  • 2 gyflogai (Sgôr 2)
  • 1 (perchennog gweithredwr) (Sgôr 1)

Potensial am dwf - swyddi a grëir 

  • 20+ swydd newydd (Sgôr 5)
  • 6 - 20 cyflogai (Sgôr 4)
  • 3 - 5 cyflogai (Sgôr 3)
  • 1 - 2 gyflogai (Sgôr 2)
  • Ni ragwelir twf (Sgôr 1)

Cysylltiadau â'r economi leol

  • Yn cydweithio â chyflogwr lleol arall (Sgôr 5)
  • Yn ategu llawer o gyflogwyr lleol ar sail ad hoc (Sgôr 4)
  • Yn cydweithio â masnachau lleol (Sgôr 3)
  • Yn gweithio i drigolion/manwerthu lleol (Sgôr 2)
  • Dim cysylltiadau â'r economi leol (Sgôr 1)

Dylech hefyd nodi y gall penderfyniad terfynol ddibynnu ar: 

  • y lefelau sŵn disgwyliedig a gynhyrchir gan eich busnes
  • eich oriau gweithredu arferol
  • nifer y symudiadau cerbydau
  • rheoli allyriadau a gwastraff
  • unrhyw addasiadau neu newidiadau i'r uned y bydd eu hangen arnoch.

Er na fyddai unrhyw un o'r uchod o reidrwydd yn eich rhwystro rhag sicrhau tenantiaeth, efallai y bydd angen i chi ofyn am gyngor gan dimau eraill y Cyngor cyn symud ymlaen.

Dylech hefyd ystyried cynnwys y Cytundeb Tenantiaeth/Prydles/Drwydded drafft (PDF).

Sylwer na fydd y Cyngor yn ystyried unrhyw newidiad sylweddol i'r ddogfen hon oni bai fod amgylchiadau eithriadol.  Dylech nodi y bydd tâl o £250 ar gyfer llunio'r ddogfen.