Dechrau busnes bwyd
Wrth ddechrau busnes bwyd newydd mae’n bwysig eich bod yn cofrestru eich safle, ystyried yr holl ddeddfwriaeth hylendid ac yn cydymffurfio â'r gofynion cyfredol o ran cyfraith bwyd. Mae sefydlu busnes yn y ffordd gywir yn creu sylfaen ar gyfer dyfodol llwyddiannus i'ch busnes.
Cyn dechrau eich busnes bwyd
Cyn agor, cysylltwch â ni. Gallwn eich helpu chi, cofrestru eich busnes bwyd, cynllunio eich busnes, trefnu casgliad gwastraff ac ailgylchu, a chael hyfforddiant ac offer priodol.
Sut ydw i’n cofrestru fy safle bwyd?
Eich cam cyntaf yw cofrestru eich safle. Mae cofrestru am ddim a rhaid i chi gofrestru o leiaf 28 diwrnod cyn agor eich busnes. Os ydych yn gerbyd arlwyo/manwerthu symudol bydd angen caniatâd masnachu ar y stryd arnoch.
Hyfforddiant hylendid bwyd
Mae angen i chi sicrhau bod eich gweithwyr yn cael eu goruchwylio, eu cyfarwyddo a’u hyfforddi mewn materion hylendid bwyd er mwyn cynhyrchu bwyd diogel i gwsmeriaid. Ewch i’n hadran hyfforddiant hylendid bwyd i gael manylion.
Cynhyrchu System Rheoli Diogelwch Bwyd
Cyn gweithredu fel busnes bwyd, a chyn eich arolwg, bydd angen i chi greu system rheoli diogelwch bwyd, sy'n esbonio'r gweithdrefnau yr ydych yn eu dilyn yn eich busnes i sicrhau eich bod yn cynhyrchu bwyd sy'n ddiogel i'w fwyta. Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi cynhyrchu system rheoli diogelwch bwyd o'r enw 'Safer Food Better Business (SFBB)' i fusnesau bach ei defnyddio.
I fusnesau sydd â phrosesau mwy cymhleth gallai’r pecynnau isod fod yn fwy priodol.
Safe Catering
Cooksafe
I gynhyrchwyr llai efallai y bydd y pecyn cymorth MyHaccp toolkit I gynhyrchwyr llai efallai y bydd y pecyn cymorth.
I gynhyrchwyr llai efallai y bydd y pecyn cymorth wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.