Cofrestru busnes bwyd

Os ydych yn cadw, paratoi, dosbarthu neu’n gwerthu bwyd ar safle mae angen i chi fod wedi’ch cofrestru.  Mae safleoedd yn cynnwys bwytai, caffis, prydau parod, sefydliadau gofalu, gwestai, siopau, ffreuturau, stondinau marchnad, faniau arlwyo symudol, warysau bwyd a cherbydau dosbarthu. 

Efallai bydd angen i rai gwneuthurwyr sy’n trin cynnyrch sy’n dod o anifeiliaid gael  cymeradwyaeth ar gyfer eu safle bwyd yn hytrach na chofrestru. Os ydych yn ansicr p’un a oes angen i’ch busnes gael ei gymeradwyo neu ei gofrestru cysylltwch â ni.

Gallwch gofrestru am ddim. Caiff eich manylion eu rhoi ar ein cofrestr a bydd rhai manylion, fel math o fusnes, cyfeiriad a rhif ffôn, ar gael i'r cyhoedd ei archwilio. 

Ar ôl i chi gofrestru, bydd angen i chi roi gwybod i ni am unrhyw newid o ran perchennog neu newid yn natur y busnes. 

Cais I gofrestru sefydliad busnes bwyd (PDF)

Cysylltwch â ni

Tudalennau Cysylltiedig

Cymeradwyo safleoedd bwyd