FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00am a 8:00am ar y 05 Mai 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00am and 8:00am on the 05 May 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Datblygu Cefn Gwlad

Rhaglen cydnerthedd bwyd – Food4Growth

Darparu a chyflenwi cymorth sy'n cynyddu ac yn hyrwyddo'r arfer o gynhyrchu a phrosesu bwyd a diod yn Sir Caerffili.

Bydd prosiect Food4Growth, ochr yn ochr â mentrau partner ledled Gwent, yn ariannu ymyraethau a phrosiectau i gynnal sector bwyd cydnerth sy'n darparu ar gyfer yr economi leol mewn ffordd gynaliadwy.

Mae cyllid grant ar gael ar gyfer prosiectau a fydd yn arwain at gynyddu cynhyrchiant, prosesu, a sgiliau, neu sy'n cefnogi mentrau cymdeithasol a chymunedol i greu system fwyd gynaliadwy a chylchol yng Nghaerffili.

Rhaglen ymgysylltu a chydnerthedd gwledig

Mae'r Rhaglen Ymgysylltu a Chydnerthedd Gwledig yn cefnogi prosiectau a mentrau ledled cymunedau gwledig neu'r sector gwledig yng Nghaerffili.

Bydd y grant yn ariannu prosiectau a fydd yn galluogi cymunedau gwledig i ddatblygu mentrau a phrosiectau sy'n ymgysylltu â threftadaeth ddiwylliannol leol, yn creu ac yn cryfhau cysylltiadau cymunedol rhwng mannau trefol a gwledig, yn cefnogi astudiaethau seiliedig ar le, ac yn archwilio ffyrdd newydd o ddarparu cymorth neu wasanaethau mewn ardaloedd nad ydynt yn cael eu gwasanaethu cystal neu sydd heb eu cysylltu cystal.

Dylai prosiectau sy'n cefnogi llesiant, galluedd cymunedol ac ymgysylltiad gael eu datblygu mewn partneriaeth â chymunedau a chan ddilyn dull gweithredu Datblygiad Lleol dan Arweiniad y Gymuned.

Gallai buddsoddiadau gynnwys llyfrau treftadaeth wedi'i hawduro gan y gymuned, digwyddiadau diwylliannol, astudiaethau o ynni cymunedol, astudiaethau dichonoldeb, a chymorth refeniw ar gyfer grwpiau a phrosiectau gwledig.

Cronfa arloesi a buddsoddi gwledig

Buddsoddi mewn o leiaf 10 busnes lleol/menter leol sy'n cefnogi'r broses o wella Economi Wledig Caerffili.

Mae enghreifftiau o fuddsoddiadau yn cynnwys buddsoddi mewn marchnata a staff i gynyddu'r natur gystadleuol wledig, byrhau cadwyni cyflenwi, a chyflwyno cynhyrchion newydd.

Buddsoddiadau ffisegol mewn cyfarpar a pheiriannau i arallgyfeirio busnesau fferm, hybu mentrau cymdeithasol, a chefnogi busnesau i fuddsoddi mewn cynhyrchion newydd.

Mae cymorth grant blaenorol wedi cefnogi busnesau bwyd newydd, cynyddu cynhyrchiant gwneuthurwyr diodydd, cefnogi gwneuthuriad newydd cynhyrchion o'r tir, a chefnogi busnesau gwledig i gynyddu cynhyrchiant a natur gystadleuol er mwyn goresgyn y rhwystrau i weithredu mewn lleoliadau gwledig.

Bydd y gronfa yn targedu arallgyfeirio ar ffermydd yn uniongyrchol, ynghyd â mesurau i hybu cynhyrchion amgen i weithredu yn erbyn problemau cyflenwi byd-eang a lleihau taith bwyd. Bydd mesurau i leihau dwyster carbon amaethyddiaeth yn cael eu treialu.

Cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch neges e-bost i RhaglenDatblyguGwledig@caerffili.gov.uk