Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU

View of the valley community  

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn un o bileri canolog agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, ac mae'n darparu £2.6 biliwn o gyllid i'w fuddsoddi'n lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU, a hynny trwy fuddsoddi mewn cymunedau a lle, a chefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau.

Bydd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn cefnogi ymrwymiad ehangach Llywodraeth y DU i sicrhau ffyniant bro ym mhob rhan o'r DU trwy gyflawni pob un o'r amcanion ffyniant bro:

- Hybu cynhyrchiant, cyflogau, swyddi a safonau byw trwy ddatblygu'r sector preifat, yn enwedig yn y mannau hynny lle maent ar ei hôl hi
- Lledaenu cyfleoedd a gwella gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig yn y mannau hynny lle maent wannaf
- Adfer ymdeimlad o gymuned, balchder lleol a pherthyn, yn enwedig yn y mannau hynny lle maent wedi diflannu
- Grymuso arweinwyr a chymunedau lleol, yn enwedig yn y lleoedd hynny lle nad oes yna gyfrwng lleol

Ewch i wefan y llywodraeth i gael rhagor o wybodaeth.

 

Cynllun Buddsoddi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

Lle bo'r Gronfa'n gweithredu dros ddaearyddiaeth strategol, caiff y dyraniadau lleol eu cyfuno, a rhoddir atebolrwydd cyffredinol am y cyllid i awdurdod lleol arweiniol dynodedig.

Mae cyfanswm dyraniad tybiannol cyfunol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn £278.5 miliwn, sef y dyraniad uchaf o blith holl ranbarthau Cymru.

Bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, sef yr awdurdod arweiniol dynodedig, yn cael dyraniad yr ardal ac yn ymgymryd â rheoli'r gronfa'n strategol.

Ewch i wefan Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i weld y Cynllun Buddsoddi.

 

Ym Mwrdeistref Sirol Caerffili

Bydd pob man yn y DU yn cael dyraniad amodol gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF). Mae gan Fwrdeistref Sirol Caerffili ddyraniad amodol o £28,272,298, a dyraniad o £5,901,499 ar gyfer *Lluosi (*rhaglen rhifedd oedolion Llywodraeth y DU) hyd at fis Mawrth 2025.

Felly, bydd ymyraethau'n cael eu haddasu i weddu i nodweddion lleol ac i'r heriau a'r cyfleoedd gwahanol ledled y rhanbarth.

Yn y cynllun, mae'r Gronfa Ffyniant Gyffredin graidd yn cael ei dyrannu ar draws y blaenoriaethau buddsoddi fel a ganlyn:

- Cymunedau a Lle – i alluogi lleoedd i fuddsoddi er mwyn adfer eu mannau cymunedol a'u perthnasoedd a chreu'r seiliau ar gyfer datblygiad economaidd ar lefel y gymdogaeth;
​- Cefnogi Busnesau Lleol – i alluogi lleoedd i ariannu ymyraethau sy'n cefnogi busnesau lleol i ffynnu, arloesi a thyfu;
- Pobl a Sgiliau – i helpu i leihau'r rhwystrau i gyflogaeth y mae rhai pobl yn eu hwynebu, a'u cefnogi i symud tuag at gyflogaeth ac addysg. Gall lleoedd hefyd dargedu cyllid.