Lluosi

Amcan cyffredinol Lluosi yw cynyddu lefelau rifedd gweithredol ym mhoblogaeth yr oedolion ledled y Fwrdeistref Sirol. Y bwriad yw cynnal cyfres o ymyraethau i gyflawni'r canlyniadau canlynol:

  • Mwy o oedolion yn cyflawni cymwysterau mathemateg/cymryd rhan mewn cyrsiau rhifedd (hyd at ac yn cynnwys Lefel 2/SCQF Lefel 5).
  • Gwella canlyniadau o ran y farchnad lafur, e.e. llai o fylchau mewn sgiliau rhifedd yn cael eu cofnodi gan gyflogwyr, a chynnydd yng nghyfradd yr oedolion sy'n symud ymlaen i gyflogaeth barhaus a/neu addysg.
  • Cynyddu rhifedd ymhlith oedolion ledled y boblogaeth. Bydd yr effaith gyffredinol hon, sy'n mynd y tu hwnt i sicrhau tystysgrifau neu gymwysterau, yn tracio'r gwahaniaeth canfyddadwy a'r gwahaniaeth gwirioneddol y mae cymryd rhan yn y rhaglen yn ei wneud o ran cefnogi dysgwyr i wella eu dealltwriaeth a'u defnydd o fathemateg yn eu bywydau bob dydd, gartref ac yn y gwaith, ac i deimlo'n fwy hyderus wrth wneud hynny.

Ymyraethau Arfaethedig

Mewn ymateb i'r Cynllun Buddsoddi Lleol, byddwn yn gweithio gyda phartneriaid yn y rhanbarth yn unol â'r Model Cyflogadwyedd Rhanbarthol cymeradwy i wneud y canlynol:

Darparu ar gyfer cymorth cyflogaeth i unigolion sy'n economaidd anweithredol.

  • Mynd ati ar y cyd i gomisiynu cyrsiau pwrpasol a brynir yn lleol ar gyfer addysg bellach a dysgwyr galluog ac uchelgeisiol, sy'n mynd i'r afael â bylchau mewn sgiliau a phroblemau recriwtio sy'n gysylltiedig â hynny, ac sy'n canolbwyntio ar feysydd twf yn y farchnad lafur leol, yn cynnwys Creadigol a Digidol, sgiliau Gwyrdd a diwydiannau gwyrdd, sectorau carbon is, ac ati.
  • Galluogi'r rheiny a gyflogir mewn sectorau carbon uchel yn lleol i ailhyfforddi/ddatblygu eu sgiliau mewn sectorau carbon is. Mynd ati ar y cyd i gomisiynu'r sector addysg bellach i ddarparu cymorth cofleidiol a chymorth i weithwyr allweddol (yn cynnwys cwnsela, cynhwysiant ariannol, gweithgareddau cyfoethogi, cyngor ar iechyd a llesiant, cyrsiau HOOK, cymwysterau amgen, ac ati) ar gyfer y rheiny sydd mewn perygl o ymddieithrio rhag addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant yn y lleoliad addysg bellach.
  • Cyflenwi a chaffael cymwysterau cysylltiedig â gwaith.
  • Darparu cymorth unigol i bobl sydd mewn gwaith ac sy'n dymuno camu ymlaen yn eu gyrfa neu newid cyfeiriad eu gyrfa. Y ffocws fydd cymwysterau a sgiliau cyfweld cysylltiedig â gwaith a sgiliau chwilio am waith.
  • Cyrsiau penodol neu dan arweiniad y dysgwr, i gwmpasu pynciau megis: gloywi sgiliau rhifedd, cyllidebu, rheoli eich biliau ynni, siopa o fewn cyllideb, coginio o fewn cyllideb, a llawer mwy. Bydd sesiynau un i un hefyd yn cael eu cynnig i'r rheiny sydd bellaf oddi wrth ymgysylltu.Cynhelir digwyddiadau ar raddfa fawr dros oes y prosiect er mwyn ennyn diddordeb a brwdfrydedd y cyhoedd/darpar ddysgwyr yn y Rhaglen Lluosi.