Cronfa Prosiectau Cymorth Busnes

Dyfarnwyd cyllid i ddeg darparwr lleol. Disgwylir i'r prosiect redeg o 1 Medi 2023 tan 31 Mawrth 2025, gyda gwariant Refeniw yn unig ar gael yn y flwyddyn ariannol hon. Gellir gwneud cais am ddyraniad Cyfalaf bach o fis Ebrill 2024, i gyd-fynd â thua 10% o'r gwariant Refeniw. Mae'r gronfa'n caniatáu ceisiadau hyd at £150,000 ac wedi'i chyfyngu i ardal De Cymru.

Allbynnau

  • Nifer o entrepreneuriaid wedi cael cymorth i fod yn barod ar gyfer busnes
  • Nifer o fusnesau yn cael cymorth ariannol heblaw am grantiau
  • Nifer o fusnesau yn cael grantiau
  • Nifer o fusnesau yn cael cymorth nad yw'n gymorth ariannol

Canlyniadau

  • Swyddi a grëwyd
  • Swyddi a ddiogelwyd
  • Nifer o fusnesau newydd a grëwyd
  • Nifer o fusnesau yn mabwysiadu technolegau neu brosesau sy'n newydd i'r cwmni
  • Nifer cynyddol o fusnesau'n ymgysylltu â marchnadoedd newydd
  • Nifer cynyddol o fusnesau â gwell cynhyrchiant
  • Nifer o fusnesau yn cyflwyno cynhyrchion newydd i'r cwmni

I gael rhagor o wybodaeth a ffurflen gais, anfonwch neges e-bost i Busnes@caerffili.gov.uk

Prosiectau y dyfarnwyd iddynt o'r Gronfa Prosiectau Cymorth Busnes

Trefniadaeth

Prosiect

Disgrifiad

Wedi'u dyfarnu dros ddwy flyned

Canolfan Arloesi Menter Cymru

IGNITE Caerffili, Adfywio'r Stryd Fawr

Mae Canolfan Arloesi Menter Cymru, Town Square Spaces a Chlwb Busnes Caerffili wedi ymuno â'i gilydd i gynnig pecyn sy'n adfywio'r stryd fawr ledled Caerffili.

£150,000.00 

Canolfan Arloesi Menter Cymru

Hwb Menter Caerffili

Mae'r Hwb yn cynnig Gweithle â Chymhorthdal ar gyfer busnesau cyn cychwyn, cymorth ar gyfer busnesau sefydledig, hyfforddiant a digwyddiadau, llwyfan dysgu digidol, cymorth pwrpasol, cysylltiadau cymunedol.

£165,000.00 

Canolfan Arloesi Menter Cymru

Academi'r Ganolfan Arloesi Menter: clybiau 5-9 a Hacathonau

Rhaglenni hyfforddiant a chymorth entrepreneuriaeth wedi'u cynllunio i gynorthwyo darpar entrepreneuriaid, busnesau newydd yn y camau cynnar, a busnesau sefydledig. Yn cael eu darparu trwy glybiau 5-9.

£150,000.00 

Cwmni Buddiannau Cymunedol Esports Cymru

Rhaglen llwybrau diwydiant Digidol a Chreadigol

Ehangu ein Rhaglen Llwybrau Diwydiant trwy ddarparu hyfforddiant, cyfleoedd rhwydweithio a chymorth busnes i bobl ifanc sydd am weithio yn y sectorau digidol neu greadigol.

£165,000.00 

Business in Focus

Focus Futures

Gwasanaeth ymgysylltu cymunedol a chymorth busnes.

£149,110.76

CEMET

Rhaglen Cronfa Ffyniant Gyffredin CEMET Caerffili

Cefnogi busnesau newydd, micro gwmnïau, BBaChau a mentrau cymdeithasol yng Nghaerffili trwy raglen 6-8 wythnos bwrpasol wedi'i hariannu gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin.

£140,573.52

Town Square Spaces Ltd

Elevate Caerphilly

Nod y prosiect yw darparu cymorth targededig i gwmnïau cyn cychwyn, busnesau newydd a busnesau â photensial mawr o ran twf.

£139,233.00

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Arwain a Thyfu Busnesau

Trefnir y prosiect o amgylch carfannau a fydd yn mynychu gweithdai, yn ysgrifennu aseiniadau, ac yn cynhyrchu Prosiect Twf Strategol yn seiliedig ar ofynion eu busnes.

£149,832.00 

CWMPAS

Datblygu cyfoeth cymunedol yng Nghaerffili

Darparu cymorth busnes ac ymgynghoriaeth arbenigol a gweithgarwch ddatblygu'r farchnad i wella gallu Busnes Cymdeithasol Cymru o ran cyflawni a chefnogi busnesau cymdeithasol yng Nghaerffili i ddechrau a thyfu.

£122,130.00 

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Rhaglen Clean Growth Innovation Community

Bydd y rhaglen Clean Growth Innovation Community (CGIC) yn cefnogi busnesau a sefydliadau trydydd sector yng Nghaerffili, trwy Raglen Cymuned Ymarfer, i ddatblygu eu galluoedd o ran arloesedd a'r Economi Gylchol.

£82,816.00