Grant Datblygu Busnes

Grantiau Busnes Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU

Mae'r Gronfa Datblygu Busnes yn darparu cymorth ariannol targededig i fentrau newydd a chyfredol ledled y Fwrdeistref Sirol er mwyn helpu busnesau bach a chanolig (BBaChau) yng Nghymru i ail-lansio, datblygu, datgarboneiddio a datblygu i helpu i sbarduno adferiad economaidd Cymru.

Nod y Gronfa Datblygu Busnes yw cefnogi amrywiaeth eang o weithgareddau datblygu gan ganolbwyntio ar helpu mentrau i gyflawni eu huchelgeisiau hirdymor o ran y busnes, a hynny trwy allbynnau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol mesuradwy a fydd yn ychwanegu gwerth at eu gweithrediadau trwy wella eu cynhyrchiant, eu gwasanaeth a'u galluedd o ran creu allbwn.

Gofynnir i fusnesau nodi ffyrdd y bydd buddsoddiad yn eu helpu i ail-lansio eu busnes, ei ddatblygu mewn ffyrdd newydd arloesol, a chreu swyddi newydd.

Dylai prosiectau gysylltu â Blaenoriaethau Buddsoddi Cefnogi Busnesau Lleol ar gyfer Agenda Ffyniant Bro Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, a bod yn berthnasol i Genadaethau 1, 2 a 9.

  • Cenhadaeth 1 – Erbyn 2030, bydd cyflogau, cyflogaeth a chynhyrchiant wedi cynyddu ym mhob ardal yn y DU, gyda phob ardal yn cynnwys dinas sy'n gystadleuol yn fyd-eang, a bydd y bwlch rhwng yr ardal sy'n cyflawni orau a'r ardaloedd eraill yn cau.
  • Cenhadaeth 2 – Erbyn 2030, bydd buddsoddiad domestig cyhoeddus mewn Ymchwil a Datblygu y tu allan i Dde-ddwyrain Lloegr Fwyaf yn cynyddu o leiaf 40%, ac o leiaf draean dros gyfnod y Refeniw Gwario, a bydd y cyllid ychwanegol hwnnw gan y llywodraeth yn ceisio sicrhau o leiaf ddwywaith cymaint o fuddsoddiad y sector preifat dros yr hirdymor i ysgogi twf arloesedd a chynhyrchiant.
  • Cenhadaeth 9 – Erbyn 2030, bydd balchder mewn lle, megis bodlonrwydd pobl â Chanol eu Tref ac ymgysylltiad â diwylliant lleol a'r gymuned, wedi cynyddu ym mhob ardal yn y DU, a bydd y bwlch rhwng yr ardal sy'n cyflawni orau a'r ardaloedd eraill yn cau.

Bydd y Gronfa hefyd yn ceisio cefnogi busnesau i fynd i'r afael â rhai o'r prif faterion sy'n wynebu Cymru, megis sicrhau gwaith teg i gyflogeion a mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd, a helpu Cymru i gyflawni ei tharged o allyriadau carbon sero net erbyn 2050, targed sy'n rhwymo mewn cyfraith.

Datblygu Busnes a Chymorth i Fusnesau (Refeniw)

Bydd y grant ar gyfer hyn yn ddim mwy na 50% o'r costau cymwys rhesymol, hyd at uchafswm o £5,000 heb gynnwys TAW (os yw hynny'n berthnasol). Ystyrir pob cais ar sail ei amgylchiadau penodol. Os ydych yn gwneud cais am help gyda chostau aelod newydd o staff (uchafswm o £2,000), bydd angen darparu tystiolaeth i ddangos ei fod yn newydd-ddyfodiad a gyflogir am leiafswm o 16 awr yr wythnos, a bod yr isafswm cyflog, o leiaf, yn cael ei dalu iddo. Er mwyn sicrhau dyraniad grant, bydd yn ofynnol darparu tystiolaeth i gefnogi hyn, megis contract staff, dyddiad dechrau a chadarnhad bod yr unigolyn wedi'i gofrestru ar y system PAYE (neu debyg).

Datblygu Busnes a Chymorth i Fusnesau (Cyfalaf)

Bydd y grant ar gyfer y thema hon yn ddim mwy na 50% o'r costau cymwys rhesymol, hyd at uchafswm o £25,000 heb gynnwys TAW (os yw hynny'n berthnasol). Ystyrir pob cais ar sail ei amgylchiadau penodol.

Datblygu Busnes a Chymorth i Fusnesau (Cyfalaf a Refeniw)

Yn achos busnesau sy'n bwriadu gwneud cais am gyfuniad o'r ddwy elfen, uchafswm y Grant ar gyfer yr elfen Refeniw fydd £5,000 heb gynnwys TAW (os yw'n berthnasol), ac uchafswm y grant ar gyfer yr elfen Gyfalaf fydd £20,000, sy'n golygu mai cyfanswm uchaf y dyraniad cyfan fydd £25,000.

Grantiau Dechrau Busnes Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU

Mae'r Grant Dechrau Busnes yn darparu cymorth ariannol targededig i fentrau newydd ar hyd a lled y Fwrdeistref Sirol i'w helpu i lansio, a datblygu, eu menter newydd er mwyn helpu i lywio adferiad economaidd Cymru.

Nod y Grant Dechrau Busnes yw cefnogi amrywiaeth eang o weithgareddau gyda ffocws ar helpu mentrau i gyflawni eu huchelgeisiau o ran y busnes, a hynny trwy allbynnau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol mesuradwy a fydd yn ychwanegu gwerth at eu gweithrediadau.

Gofynnir i fusnesau nodi ffyrdd y bydd y buddsoddiad yn eu helpu i lansio eu busnes, ei ddatblygu mewn ffyrdd newydd arloesol, a chreu swyddi newydd.

Dylai prosiectau gysylltu â Blaenoriaethau Buddsoddi Cefnogi Busnesau Lleol ar gyfer Agenda Ffyniant Bro Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, a bod yn berthnasol i Genadaethau 1, 2 a 9 (gweler isod)

  • Cenhadaeth 1 – Erbyn 2030, bydd cyflogau, cyflogaeth a chynhyrchiant wedi cynyddu ym mhob ardal yn y DU, gyda phob ardal yn cynnwys dinas sy'n gystadleuol yn fyd-eang, a bydd y bwlch rhwng yr ardal sy'n cyflawni orau a'r ardaloedd eraill yn cau.
  • Cenhadaeth 2 – Erbyn 2030, bydd buddsoddiad cyhoeddus domestig mewn Ymchwil a Datblygu y tu allan i Dde-ddwyrain Lloegr Fwyaf yn cynyddu o leiaf 40%, ac o leiaf draean dros gyfnod y Refeniw Gwario, a bydd y cyllid ychwanegol hwnnw gan y llywodraeth yn ceisio sicrhau o leiaf ddwywaith cymaint o fuddsoddiad y sector preifat dros yr hirdymor i ysgogi twf arloesedd a chynhyrchiant.
  • Cenhadaeth 9 – Erbyn 2030, bydd balchder mewn lle, megis bodlonrwydd pobl â Chanol eu Tref ac ymgysylltiad â diwylliant lleol a'r gymuned, wedi cynyddu ym mhob ardal yn y DU, a bydd y bwlch rhwng yr ardal sy'n cyflawni orau a'r ardaloedd eraill yn cau.

Bydd y gronfa hefyd yn ceisio cefnogi busnesau i fynd i'r afael â rhai o'r prif faterion sy'n wynebu Cymru, megis sicrhau gwaith teg i gyflogeion a mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd, a helpu Cymru i gyflawni ei tharged o allyriadau carbon sero net erbyn 2050, targed sy'n rhwymo mewn cyfraith.

Datblygu Busnes a Chymorth i Fusnesau (Cyfalaf a Refeniw)

Bydd y grant ar gyfer y thema hon yn ddim mwy na 50% o'r costau cymwys rhesymol, hyd at uchafswm o £5,000 heb gynnwys TAW (os yw hynny'n berthnasol). Ystyrir pob cais ar sail ei amgylchiadau penodol.

Os ydych yn gwneud cais am help gyda chostau aelod newydd o staff (uchafswm o £2,000), bydd angen darparu tystiolaeth i ddangos ei fod yn newydd-ddyfodiad a gyflogir am leiafswm o 16 awr yr wythnos, a bod yr isafswm cyflog, o leiaf, yn cael ei dalu iddo.  Er mwyn sicrhau dyraniad grant, bydd yn ofynnol darparu tystiolaeth i gefnogi hyn, megis contract staff, dyddiad dechrau a chadarnhad bod yr unigolyn wedi'i gofrestru ar y system PAYE (neu debyg).

Dyfernir pob grant yn ôl disgresiwn y Cyngor ac yn amodol ar argaeledd y gyllideb. Bydd swm y grant a gynigir yn cael ei asesu fesul prosiect unigol, gan roi ystyriaeth i'r manteision economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol a ddaw yn ei sgil. Mae yna gyfyngiad ar y cyllid grant a ddyrennir, a bydd grantiau'n cael eu rhoi ar sail gystadleuol.

Grantiau sy'n cefnogi busnesau lleol a busnesau sy'n adleoli i Gaerffili 2022-2023

Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU – Grant Dechrau Busnes Cronfa Fenter Caerffili

  • 18 wedi'u dyfarnu, dros £18,700.00 wedi'i roi
  • Swyddi a grëwyd – 156
  • Swyddi a ddiogelwyd – 431

I gael rhagor o wybodaeth a ffurflenni cais, cysylltwch â ni yn Busnes@caerffili.gov.uk