Grant Twristiaeth Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU

Cyflwyniad

Mae’r Grant Twristiaeth yn darparu cymorth ariannol wedi’i dargedu i fentrau twristiaeth newydd a phresennol ledled y Fwrdeistref Sirol i helpu busnesau bach a chanolig yng Nghymru i ail-lansio, datblygu, datgarboneiddio a thyfu i helpu sbarduno adferiad economaidd Cymru. Nod y Grant Twristiaeth yw cynorthwyo amrywiaeth o weithgareddau datblygu gyda ffocws ar helpu mentrau i gyflawni eu huchelgeisiau busnes hirdymor drwy allbynnau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol mesuradwy a fydd yn ychwanegu gwerth at eu gweithrediadau drwy wella eu  galluoedd cynhyrchu, gwasanaethu ac allbynnu. 

Mae'r canllaw canlynol yn cynnwys enghreifftiau o'r math o waith a gweithgareddau a allai gael cymorth gan y Gronfa. Bydd pob cais yn cael ei asesu gan swyddogion fesul achos i benderfynu ar waith sy’n gymwys. Bydd ymgeiswyr yn gallu gwneud cais am gymorth tuag at weithgaredd cyfalaf a refeniw o dan “themâu” ariannu penodol.  Gall eitemau cymwys gynnwys:

Datblygu Busnes (Refeniw)

Costau cymwys:

  • Gwefannau a Gwefannau E-Fasnach
  • Marchnata - costau untro

Datblygu Busnes (Cyfalaf)

Costau cymwys: (gan gynnwys adnewyddu a gwella eiddo ac offer cyfalaf)

  • Wrth wneud cais am waith adeiladu, bydd gofyn i ymgeiswyr fod wedi ceisio cyngor ac, os oes angen, wedi gwneud cais am ganiatâd cynllunio/rheoliadau adeiladu perthnasol a bydd gofyn iddyn nhw ddarparu tystiolaeth o hyn gyda'u cais.

Adnewyddu eiddo

  • Arwyddion
  • Gwaith strwythurol
  • Drysau a ffenestri newydd
  • Goleuadau allanol
  • Gwaith i'r to a'r simnai
  • Nwyddau dŵr glaw
  • Gwaith rendro, glanhau ac atgyweirio cerrig, ailbwyntio mur
  • Hygyrchedd gwell
  • Waliau, nenfydau, goleuadau, lloriau
  • Gwaith adnewyddu hanfodol dan do neu yn yr awyr agored
  • Gosod cyfleustodau a gwasanaethau, gan gynnwys gwresogi
  • Cyfleusterau lles (e.e. ystafell ymolchi a chyfleusterau glanhau hanfodol)
  • Gwaith cyfalaf i gynorthwyo gyda Throsglwyddo Asedau Cymunedol

Offer cyfalaf

Bydd offer cyfalaf, yn y cyd-destun hwn, yn cael ei ddiffinio fel ased ar gyfer y busnes a fydd yn cynhyrchu gwerth dros gyfnod sylweddol o amser. Rhaid i'r offer fod yn arwyddocaol ac wedi'i ystyried ar gyfer cyfalafu yn Natganiad o'r Sefyllfa Ariannol derbynnydd y grant.

Mae gwario anghymwys yn cynnwys:

NID yw’r eitemau canlynol yn gymwys i gael cymorth gan y Gronfa:

  • Costau staff ar gyfer gweithwyr presennol
  • Trethi
  • Costau rhedeg arferol
  • Busnesau Airbnb
  • Cost prynu adeiladau, tir neu gerbydau
  • Hurbrynu/prydlesu
  • Mân atgyweiriadau a chostau redeg cyffredinol (gan gynnwys treuliau cyfleustodau)
  • Ffioedd wrth gefn
  • Ffioedd cyfreithiol a chyfrifyddu
  • Costau gwneud cais am ganiatâd statudol megis caniatâd cynllunio
  • Gwaith sy'n digwydd cyn cynnig grant (oni bai ei fod wedi'i gymeradwyo'n ysgrifenedig gan y Cyngor)
  • Unrhyw anfonebau wedi'u talu gan ddefnyddio arian parod/cerdyn credyd
  • Costau cyfalaf gweithio fel rhestr eiddo (stoc), rhent, ardrethi, gweinyddiaeth a/neu gerbydau
  • Cost gwaith sy'n cael ei wneud fel gofyniad statudol cyfreithiol.
  • Gwaith sy'n cael ei wneud ar eiddo domestig, naill ai adeilad newydd neu waith adnewyddu, estyniadau/ystafelloedd gardd/cabanau pren, addasu'n fusnes llety

Y Grant

BDatblygu Busnesau (Refeniw) – Bydd y grant ar gyfer y thema hon yn uchafswm o 50% o gostau cymwys rhesymol, hyd at uchafswm grant o £5,000 heb gynnwys TAW (os yw'n berthnasol). Bydd pob cais yn cael ei ystyried ar sail ei amgylchiadau penodol.

Datblygu Busnesau (Cyfalaf) – Bydd y grant ar gyfer y thema hon yn uchafswm o 50% o gostau cymwys rhesymol, hyd at uchafswm grant o £25,000 heb gynnwys TAW (os yw'n berthnasol). Bydd pob cais yn cael ei ystyried ar sail ei amgylchiadau penodol.

Datblygu Busnesau (Cyfalaf a Refeniw) – Ar gyfer busnesau sydd am wneud cais am gymysgedd o’r ddwy elfen, uchafswm y Grant ar gyfer yr elfen Refeniw fydd £5,000 heb gynnwys TAW (os yw’n berthnasol) ac uchafswm y grant ar gyfer yr elfen Gyfalaf fydd £20,000 sy'n golygu uchafswm cyfan o £25,000.

Ymgeiswyr Cymwys – Pwy sy'n gallu gwneud cais?

Nod y Gronfa yw cynorthwyo amrywiaeth eang o fentrau a sefydliadau lleol sy’n ymwneud â gweithgarwch economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol buddiol.

Mae'r Gronfa ar gael i fusnesau presennol a busnesau newydd mewn twristiaeth, yn benodol busnesau atyniadau a llety; mentrau micro, bach a chanolig; grwpiau cymunedol neu fentrau cymdeithasol sefydledig; unig fasnachwyr; partneriaethau; cwmnïau cyfyngedig; busnesau cymunedol, cwmnïau cydweithredol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Gall busnesau gwely a brecwast wneud cais ond rhaid i brif ddiben yr adeilad fod yn darparu llety twristiaeth yn hytrach na bod yn eiddo preswyl. Mae'r Gronfa hefyd ar gael i fusnesau sy'n cynnal digwyddiadau i dwristiaid sy'n para dros fis.

Cyswllt

Rhagor o wybodaeth a gofyn am ffurflen gais – E-bost busnes@caerffili.gov.uk