Mae'r Gwasanaeth Caffaeliad yn rhan o Adran y Prif Weithredwr. Ein nod yw ceisio cael gwerth am arian wrth brynu nwyddau a gwasanaethau a gwella'r broses gaffael yn barhaus er mwyn cael y gwerth gorau.
Bydd y gwybodaeth sydd yn y tudalennau hyn yn rhoi syniad i gontractwyr, cyflenwyr a busnesau o sut rydym yn caffael nwyddau a gwasanaethau. Gallwch hefyd weld y rheolau a'r gweithdrefnau ar gyfer cyflenwi'r cyngor yn ogystal â manylion ynghylch y cytundebau sy'n cael eu tendro ar hyn o bryd.
Rydym yn cynnig arweiniad, cyngor a chefnogaeth ar bob agwedd o gaffael ac yn sicrhau fod cytundebau'n cydymffurfio â Chyfraith y DU. Rydym yn cael ein harwain gan ein Rheolau Sefydlog sy'n hyrwyddo ymarfer caffael da, atebolrwydd cyhoeddus ac atal llwgrwobrwyo. Mae Standing Orders for contracts (pdf) y Cyngor hefyd yn dilyn fframweithiau rheoliadau Caffael y Comisiwn Ewropeaidd, sy'n gofyn i holl gytundebau gwasanaeth a chyflenwi sy'n werth dros £144,371 a holl gytundebau gwaith dros £3.61 miliwn gael eu hysbysebu yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd (OJEU).
Bydd y math, gwerth a chymhlethdod y cytundeb fel rheol yn penderfynu ar agwedd y Cyngor tuag at y farchnad.
Mae'r tudalennau hyn yn rhoi gwybodaeth ynghylch e-gaffael, y broses gaffael, dod yn gyflenwr i'r cyngor, cyfleoedd tendro a'r broses tendro.