Addysg a dysgu

Merched yn eu harddegau

Mae cyngor bwrdeistref sirol Caerffili yn rhwymedig i ddatblygu a darparu cyfleoedd dysgu ar gyfer pobl o bob oedran a gallu.

Mae'r tudalennau hyn yn darparu gwybodaeth am yr ysgolion yn y bwrdeistref sirol, gan gynnwys dyddiadau'r tymhorau, cludiant i'r ysgol, prydau bwyd ysgol am ddim, gweithdrefnau mynediad i'r ysgolion a menter y bws cerdded, sy'n annog disgyblion i gerdded i'r ysgol.

Gallwch hefyd ddarganfod am grantiau addysg bellach a chysylltiadau i wefannau colegau lleol a phrifysgolion yng Nghymru.

Os ydych am gael cymhwyster neu ddysgu sgiliau newydd, mae gan ein Canolfannau Addysg Gymunedol ddosbarthiadau ar gyfer pawb. Nid yw'n rhy hwyr i berffeithio iaith tramor ar gyfer eich gwyliau nesaf neu ddysgu rhywbeth cwbl wahanol fel dawnsio bol neu iaith arwyddion. Does neb yn rhy hen i ddysgu a gall y cyrsiau bara rhwng un diwrnod ac ychydig o fisoedd.

Pwrpas Addysg am Fywyd yw pobl o bob oedran, gallu a chefndir yn cynyddu eu gwybodaeth ac yn dysgu sgiliau newydd ar gyfer cymwysterau, swyddi neu dim ond am hwyl. Mae'n cynnwys rhoi'r cyfle i bawb i ddysgu, beth bynnag yw'r diddordeb neu'r pwnc.

 

Eraill yn chwilio


Gwefannau defnyddiol

A oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?



  Rhowch sylwadau:-
  
Nodwch na fyddwn yn ymateb yn uniongyrchol i sylwadau y gwneir yma.