Tîm Cymorth Cyflogaeth Caerffili - Cwestiynau Cyffredin

Rwy'n dioddef o bryder ac iselder, hoffwn i ddychwelyd i'r gwaith un diwrnod ond nid ar hyn o bryd. Ydych chi'n gallu fy helpu?

Ydyn! Mae ein tîm UKSPF yn griw cyfeillgar sy'n sylweddoli y gall newidiadau bach helpu i wneud gwahaniaeth enfawr. Gallwn ni eich helpu chi trwy weithio ar eich cyflymder, p'un a ydych chi wythnosau neu fisoedd i ffwrdd o ddod o hyd i swydd.

Rydw i mewn swydd llafuriol nad ydw i'n ei mwynhau bellach ac mae fy iechyd yn dioddef. Hoffwn i newid swydd ond dydw i ddim yn gwybod beth alla i'w wneud nawr.

Nid yw hynny’n broblem – byddwn ni'n gallu gweithio gyda chi i edrych ar eich sgiliau a nodi unrhyw hyfforddiant a fyddai o fudd i chi i ddod o hyd i waith mewn sector newydd.

  Rydw i newydd orffen gweithio ac mae angen i mi ddod o hyd i swydd newydd ar unwaith. Fedrwch chi fy helpu i ddechrau gweithio eto?

Mae ein tîm Cymunedau am Waith a Mwy yn arbenigo mewn cynorthwyo pobl sydd agosaf at y farchnad swyddi, felly byddan nhw'n gallu eich helpu i ddiweddaru eich CV gyda'ch profiad diweddaraf (neu greu un os nad oes gennych chi un yn barod!). Byddan nhw'n gallu gweithio gyda’n Swyddogion Cyswllt Busnes i ddod o hyd i swydd wag sy’n addas i chi.

Rydw i eisiau dechrau gweithio ond dyw fy mhlant ddim yn yr ysgol tan fis Medi. Fedrwch chi fy helpu i baratoi ar gyfer gwaith yn y cyfamser?

Gallwn ni eich helpu i baratoi eich CV a meddu ar gyrsiau hyfforddi a chymwysterau cyfredol fel eich bod chi'n barod i fynd pan fydd eich plant yn yr ysgol.

Mae ein cwmni'n chwilio am hyd at 3 o bobl i weithio i ni. Mae angen iddyn nhw feddu ar gymhwyster Hylendid Bwyd Lefel 2 cyn ymuno â'r tîm. Ydych chi'n gallu helpu?

Wrth gwrs! Gall ein tîm Cyswllt Busnes weithio gyda chi i nodi anghenion hyfforddiant eich cwmni a sicrhau bod gan y rhai y byddwch chi'n eu cyfweld y cymhwyster eisoes neu y byddan nhw'n ei gwblhau cyn iddyn nhw ddechrau gweithio gyda chi.

Gallwn ni hyd yn oed edrych dros y ffurflenni cais ac anfon yr ymgeiswyr gorau atoch chi i'w cyfweld.

Rydw i wedi bod yn fy swydd ers tro ac rydw i am symud i fyny'r ysgol yrfa, efallai y bydd angen rhywfaint o hyfforddiant arnaf i'm helpu. Ydych chi'n gallu darparu'r cymorth hwn?

Gallwn ni edrych ar eich sgiliau presennol ac unrhyw fylchau sy’n eich atal rhag symud ymlaen i gam nesaf eich gyrfa, byddwn ni'n eich cynorthwyo i lenwi’r bylchau hynny, boed hynny drwy gyrsiau neu fath gwahanol o brofiad gwaith.