Ffordd ar gau rhwng Rhisga a Crosskeys ar gyfer gwaith cynnal a chadw priffyrdd.
Postiwyd ar : 06 Chw 2024
Bydd UN o’r prif ffyrdd rhwng Rhisga a Crosskeys yn cau i draffig am gyfnod yr wythnos nesaf.
Bydd rhan o ffordd ddeuol yr A467 rhwng y ddwy gymuned ar gau am bedair noson yn olynol o ddydd Llun, 12 Chwefror, i ddydd Iau, 15 Chwefror, er mwyn caniatáu ar gyfer gwaith cynnal a chadw cynlluniedig.
Mae angen y cyfnod o gau er mwyn caniatáu gwaith adnewyddu’r llygaid cathod ar y ffordd ddeuol a rhywfaint o waith adnewyddu’r llinell ar y ffyrdd tua’r gogledd a’r de.
Bydd y ffyrdd ar gau dros nos rhwng 9pm a 6am yn unig ar bob un o'r diwrnodau hyn, ac mae disgwyl i’r ffordd gael ei hailagor yn ystod y dydd.
Mae union fanylion pob noson y cyfnod o gau fel a ganlyn:
- Dydd Llun, 12 Chwefror: Crosskeys i Risga tua'r de (adnewyddu llygaid cathod)
- Dydd Mawrth, 13 Chwefror: Rhisga i Crosskeys tua’r gogledd (adnewyddu llygaid cathod)
- Dydd Mercher, 14 Chwefror: Ffin y Sir i Risga (adnewyddu llygaid cathod)
- Dydd Iau, 15 Chwefror: Rhisga i ffin y sir (ail-baentio’r llinell asennau ac adnewyddu llygaid cathod)