Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Canolfannau Hamdden
Prydau ysgolion cynradd
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Councillors and committees
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Chwefror 2024
Pecyn cymorth Gofalu am Gaerffili ar gael i deuluoedd sy'n gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim
News Centre
Pecyn cymorth Gofalu am Gaerffili ar gael i deuluoedd sy'n gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim
Postiwyd ar : 14 Chw 2024
Mae gwasanaeth Gofalu am Gaerffili yn cynnig mynediad i amrywiaeth eang o fentrau cymorth i unigolion a theuluoedd sy'n agored i niwed neu sydd mewn argyfwng ariannol.
Os oes angen cymorth arnoch chi neu unrhyw un rydych chi'n ei adnabod, mae modd gwneud y cyswllt cyntaf â thîm Gofalu am Gaerffili, sy'n darparu pwynt mynediad cydgysylltiedig i drigolion ar gyfer gwybodaeth, cyngor a chymorth.
Y prif fentrau sydd ar gael trwy Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, y mae modd eu cyrchu trwy Gofalu am Gaerffili ac sy'n gallu cynnig cymorth cofleidiol i deuluoedd yn sgil dileu cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer taliadau prydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau, yw'r canlynol:
Caledi Ariannol/Cynyddu Incwm: Mae'r tîm Budd-daliadau Lles a'r tîm Costau Byw o fewn yr adran Tai (Rhenti) yn gallu cynorthwyo trigolion gydag amrywiaeth eang o faterion yn ymwneud â chynyddu eu hincwm, gan gynnwys atgyfeiriadau posibl at gymorth/grantiau ariannol.
Grant Hanfodion Ysgol: Ar gael i ddisgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim, mae'r grant yn darparu arian i brynu gwisg ysgol, offer, dillad chwaraeon, ac offer ar gyfer gweithgareddau y tu allan i'r ysgol i blant.
Talebau Tanwydd: Gall trigolion sy’n cael trafferth gyda'r gost o ychwanegu at eu mesurydd rhagdalu fod yn gymwys i gael taleb tanwydd (mewn partneriaeth â Chyngor ar Bopeth a grwpiau lleol).
Banc Bwyd: Mae modd gwneud atgyfeiriadau ar unwaith, trwy Borth Gofalu am Gaerffili, i gynorthwyo rhywun sydd ag angen brys am fwyd a hanfodion eraill i'r cartref.
Tai a Digartrefedd: Mae'r tîm Cefnogi Pobl yn darparu cymorth a chyngor arbenigol i unrhyw un sy'n cael anawsterau gyda thai, gan gynnwys problemau gyda'u tenantiaeth neu risg o ddigartrefedd hyd yn oed.
Cymorth Cyflogaeth: Mae'r Tîm Cyflogaeth yn gallu helpu pobl i feithrin sgiliau newydd, cael mynediad at hyfforddiant a chynyddu’r siawns o gael swydd trwy gynorthwyo'r broses o ddatblygu CV, chwilio am swydd, sgiliau cyfweliad ac ati.
Cysylltwyr Cymunedol: Helpu pobl i deimlo'n rhan o'u cymuned trwy hybu lles, lleihau arwahanrwydd cymdeithasol a hybu annibyniaeth.
Cymorth Costau Byw arall – efallai y bydd tîm Gofalu am Gaerffili yn gallu helpu gydag amrywiaeth eang o faterion eraill sy’n ymwneud â’r argyfwng costau byw, gan gynnwys cyngor a grantiau ynni, cysylltiadau â Mannau Croesawgar lleol, cymorth gyda chadw'n gynnes a chymorth i'r rhai nad oes ganddyn nhw ffôn na data i gael mynediad at wasanaethau. Cysylltwch â ni os ydych chi am drafod y materion hyn gyda ni.
Mae modd gwneud atgyfeiriadau at dîm Gofalu am Gaerffili drwy Borth Gofalu am Gaerffili. Defnyddiwch y manylion canlynol i gysylltu â ni:
Ffôn: 01443 811490 Neges destun: CYMORTH i 07537 414443
E-bost: GofaluAmGaerffili@caerffili.gov.uk
Gwefan:
www.caerffili.gov.uk/GofaluAmGaerffili
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Caniatáu Gorchymyn Cau ar eiddo problemus
Fforwm Ieuenctid Bwrdeistref Sirol Caerffili yn nodi Caerffili sy'n Dysgu fel eu mater blaenoriaeth ar gyfer 2024
Daeth ‘Natur Wyllt’ i rym y gwanwyn hwn er mwyn caniatáu i’n mannau gwyrdd ffynnu
Cyhoeddi enillydd £500 diweddaraf Bwrdeistref Sirol Caerffili am ailgylchu gwastraff bwyd
Gŵyl Bwyd a Diod Caerffili poblogaidd yn denu miloedd o ymwelwyr i'r dref
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y