News Centre

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn diolch i drigolion am eu rhan mewn treial ailgylchu gwastraff bwyd llwyddiannus

Postiwyd ar : 19 Ebr 2024

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn diolch i drigolion am eu rhan mewn treial ailgylchu gwastraff bwyd llwyddiannus

Mae'r Cyngor wedi adrodd bod tunelledd ailgylchu gwastraff bwyd wedi cynyddu am y trydydd mis yn olynol, yn dilyn lansio eu treial 12 mis sy’n darparu bagiau cadi gwastraff bwyd dan do yn rhad ac am ddim i bob trigolyn.

Cafodd y treial 12 mis ei lansio ym mis Rhagfyr 2023 wrth i'r cyflenwad 6 mis cyntaf gael ei ddosbarthu i gartrefi trigolion. Mae'r cyflenwad 6 mis canlynol bellach ar gael i'w gasglu o lyfrgelloedd lleol, canolfannau hamdden, Siambrau'r Cyngor ym Medwas, Tŷ Penallta a Siop Ailddefnyddio Penallta.

Yn dilyn lansio'r treial, mae'r Cyngor wedi cofnodi cynnydd o un flwyddyn i’r llall mewn ailgylchu gwastraff bwyd am dri mis yn olynol, gyda chynnydd cyffredinol o 11% neu 115.55 tunnell – tua phwysau morfil glas. 

Mae nifer y cadis gwastraff bwyd am ddim y mae trigolion wedi gofyn amdanyn nhw hefyd wedi cynyddu, gyda cheisiadau cadi dan do yn cynyddu o 383 i 1,201 flwyddyn ar ôl blwyddyn rhwng mis Ionawr a mis Mawrth a cheisiadau cadi allanol yn cynyddu o 4,325 i 5,107 ar gyfer yr un cyfnod.

Mae'r treial yn rhan o fap llwybr saith mlynedd y Cyngor i sicrhau bod Caerffili yn cyrraedd ac yn rhagori ar dargedau ailgylchu statudol wedi'u gosod gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Wastraff, Hamdden a Mannau Gwyrdd, “Rydyn ni wrth ein bodd o weld ffigurau mor addawol dim ond tri mis ar ôl dechrau ein treial bagiau cadi gwastraff bwyd sy'n rhad ac am ddim.

“Yma, ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, mae gennym ni ffigurau cyfranogi gwych ar gyfer ailgylchu cymysg (bin brown), fodd bynnag mae ein diffyg cyfranogi mewn ailgylchu bwyd yn cael effaith negyddol ar ein cyfraddau ailgylchu cyffredinol. Ar hyn o bryd, mae gwastraff bwyd yn cyfrif am tua 31% o’n biniau gwastraff cyffredinol gwyrdd yn y Fwrdeistref Sirol. Os byddai modd cael yr holl wastraff hwn o’n gwastraff cyffredinol i gadi gwastraff bwyd, byddai’n cael effaith enfawr ar ein cyfraddau ailgylchu a’r amgylchedd.

“Diolch yn fawr iawn a da iawn i’n holl drigolion sydd wedi helpu i wneud cychwyn y treial hwn mor llwyddiannus. Parhewch i leihau gwastraff bwyd lle bynnag y gallwch chi, ond pan nad yw hyn yn bosibl, ailgylchwch bob amser!”

I gael rhagor o wybodaeth am ailgylchu gwastraff bwyd neu i archebu eich cadi gwastraff bwyd am ddim, ewch i: www.caerffili.gov.uk/gwastraff-bwyd



Ymholiadau'r Cyfryngau