News Centre

Ffair y Gwanwyn lwyddiannus arall gyda miloedd yn ymweld â chanol tref Coed Duon

Postiwyd ar : 18 Ebr 2024

Ffair y Gwanwyn lwyddiannus arall gyda miloedd yn ymweld â chanol tref Coed Duon
Cafodd ail Ffair y Gwanwyn 2024 ei chynnal yng nghanol tref Coed Duon ddydd Sadwrn 13 Ebrill 2024.
 
Daeth 6,926 o bobl i ymweld â chanol y dref ar y diwrnod, gyda'r niferoedd yn cyrraedd uchafbwynt o 1,018 o bobl am 1pm. Roedd 2,759 yn fwy o ymwelwyr yn y dref na'r dydd Sadwrn blaenorol.
 
Roedd llwyth o adloniant i'r teulu yn y ffair, gan gynnwys perfformwyr theatr stryd, The Mid Wales Ghostbusters, adar ysglyfaethus gyda Falconry UK, gweithdai crefft, anifeiliaid egsotig, reidiau ffair a rhagor! Roedd masnachwyr hyd yn oed yn gwerthu allan erbyn dechrau'r prynhawn.
 
Dyma'r hyn a ddywedodd busnesau a masnachwyr lleol am y digwyddiad:
 
Dywedodd Gavyn Bolton, McKenzie's Café, "Diwrnod arbennig, roedd hi'n hyfryd gweld y Stryd Fawr mor brysur, roedd llawer o wynebau hen a newydd yma heddiw."
 
Dywedodd Maxime Cinema, "Diwrnod da, cawson ni lawer o bobl yn dod i mewn, fe wnaeth cynllun newydd y stondinau weithio'n dda i ni."
 
Dywedodd Huw Edwards o Tidal’s Furniture Store Ltd, "Roedd ansawdd y stondinau yn anhygoel, mae digwyddiadau fel hyn wir yn helpu gyda hirhoedledd y Stryd Fawr."
 
Dywedodd Gower Doughnut Co., "Diolch i [dîm Digwyddiadau Cyngor Caerffili] a phawb arall a oedd yn rhan o drefnu a rhedeg digwyddiad dydd Sadwrn. Roedd pawb yn gymwynasgar a chyfeillgar iawn. Roedd hefyd yn un o'r digwyddiadau sydd wedi'i drefnu orau i ni fod ynddi, os nad y gorau.”
 
Dywedodd Sian's Emporium hefyd, "Diolch i'r holl dîm am ddigwyddiad gwych arall – achlysur ffantastig fel arfer."
 
Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid yn yr Hinsawdd, "Mae hi bob amser yn bleser gweld amgylchedd cyfeillgar i deuluoedd yn Ffair y Gwanwyn, Coed Duon.  Mae cefnogaeth da i'r digwyddiad bob amser, felly hoffwn i ddiolch i bawb am ddod i wneud y diwrnod yn llwyddiant!”
 
Y digwyddiad nesaf yn ein calendr ni yw Gŵyl Bwyd a Diod Caerffili ddydd Sadwrn 27 Ebrill. Dewch draw am ddiwrnod allan llawn bwyd blasus! Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma.


Ymholiadau'r Cyfryngau