Banciau Bwyd

Mae yna lawer o fanciau bwyd, pantrïau bwyd a chynlluniau Fare Share ar draws Bwrdeistref Caerffili, ac mae angen cymorth gwirfoddolwyr ar lawer ohonyn nhw i'w cynnal.  Mae gwybodaeth am bob darpariaeth ar gael ar dudalen cael help i dalu am fwyd.

Beth all gwirfoddolwyr ei wneud?

  • Casglu bwyd/pethau ymolchi o'r mannau rhoi
  • Pacio bagiau yn barod i'w casglu
  • Cwrdd a chyfarch
  • Trefnu stoc

Beth allwch chi ei ddisgwyl gennym ni?

  • Cyfleoedd i gwrdd â phobl newydd
  • Bod yn rhan o dîm cefnogol
  • Mynediad at hyfforddiant priodol

Sut ydw i'n cymryd rhan?

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli yn unrhyw un o'r banciau bwyd, cysylltwch â Sharon Peters neu Beth Richards ar 

E-bost: GofaluAmGaerffili@caerffili.gov.uk
Ffôn: 01443811490