Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor

Train station

 

Mae'r Cyngor yn gyfrifol am gydlynu trafnidiaeth i deithwyr yn ei ardal.

Mae hyn yn golygu gweithio gyda'r gweithredwyr bysiau a threnau lleol i gefnogi a datblygu gwasanaethau trafnidiaeth i deithwyr, a hyrwyddo'r defnydd ohonyn nhw..

Gweithredwyr preifat – fel Harris Coaches (Pengam), Adventure Travel, Stagecoach de Cymru, Newport Transport, Bws Caerdydd, a Phil Anslow & Sons Coaches – sy'n gweithredu'r rhan fwyaf o'r gwasanaethau bysiau ym Mwrdeistref Sirol Caerffili ar sail gwbl fasnachol.

Maen nhw'n rhydd i gyflwyno, diwygio neu dynnu unrhyw wasanaeth yn ôl eu dymuniad, ar yr amod eu bod nhw'n rhoi wyth wythnos o rybudd i'r Comisiynydd Traffig.

Gwasanaethau Bws

Poeple on a bus

Mae Traveline Cymru yn darparu amseroedd a gwybodaeth am lwybrau ar gyfer yr holl wasanaethau bysiau, coetsys, trenau, fferïau ac awyrennau yng Nghymru.

RHAGOR O WYBODAETH

Gwasanaethau Trên

People waitinf for a train

Trafnidiaeth Cymru sy'n gweithredu gwasanaethau trenau ym Mwrdeistref Sirol Caerffili. Cymerodd y cwmni yr awenau ar gyfer gwasanaethau trenau rhyngdrefol, gwledig, a threnau ar gyfer cymudwyr ledled Cymru a siroedd y gororau.

RHAGOR O WYBODAETH

Cysylltia2

People waitinf for a train

Mae Cysylltia2 yn wasanaeth rydym yn ei ddarparu i ategu gwasanaethau trafnidiaeth sy’n bodoli eisoes.

RHAGOR O WYBODAETH