Cysylltia2

Mae Connect2 yn wasanaeth rydym yn ei ddarparu i ategu gwasanaethau trafnidiaeth sy’n bodoli eisoes. 

Rydyn ni’n gweithredu pum gwasanaeth bws lleol: Llwybrau 5A, 13, C1, J, L. Ewch i Traveline Cymru am fanylion amserlenni.

Rydym hefyd yn gweithredu bysus siopa wythnosol yn ardaloedd Caerffili, Bargod a Bedwas.  Os ydych chi’n byw yn yr ardaloedd hyn, cysylltwch â ni ar 01443 873763 neu e-bostiwch cysylltia2@caerffili.gov.uk i weld a oes gwasanaeth yn agos atoch chi.

Mae Connect2 yn derbyn pasys bws dilys o Gymru yn y rhan fwyaf o’r gwasanaethau.

Mae ein bysus mini hefyd ar gael am deithiau preifat y tu allan i’n horiau gwasanaethau a drefnir.

I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â ni ar 01443 873763 neu e-bostiwch cysylltia2@caerffili.gov.uk am fanylion.