Sylwadau, cwynion a phryderon - 5 Mehefin 2023

Pryder

Pryder parhaus ynglŷn â llwch. Mae PM10 wedi'i fesur ond nid PM2.5, sydd fwyaf peryglus i iechyd.  Mwy o drigolion, pobl sydd ddim yn ysmygu, yn cwyno am broblemau'r frest.  Trigolyn yn dweud nad yw ei phlentyn erioed wedi dioddef gyda'i frest cyn symud yma ac mae bellach wedi cael diagnosis o asthma. Mae cwynion parhaus am faint o lwch sydd mewn tai, ar geir ac ar ddodrefn gardd.      

Mae'r peiriant monitro y mae Bryn Group yn ei ddefnyddio yn monitro PM1, PM2.5, PM10 a chyfanswm y gronynnau gyda pheiriant monitro 24/7. Mae modd gweld canlyniadau'r peiraint monitro hwn drwy'r ddolen hon AirQWeb - Air Quality Data Monitoring website.

Ymateb gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Mae'r peiriant monitro sydd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ei le yn monitro PM10. 

Math o lygredd aer yw deunydd gronynnol, neu PM, a dyma'r enw ar gymysgedd o ronynnau solet a hylifol o wahanol feintiau a siapiau. Mae PM wedi'i grwpio'n ronynnau o wahanol feintiau, er enghraifft, yr enw ar gyfer gronynnau llai na 10 micrometr mewn diamedr yw PM10 a'r rhai sy'n llai na 2.5 micrometr mewn diamedr yn cael eu galw'n PM2.5.  Mae gronynnau o chwareli yn dueddol o fod yn ronynnau bras rhwng PM2.5 a PM10.  Mae canlyniadau monitro PM10 ar y safle wedi bod yn galonogol ac yn is na'r safonau ansawdd aer perthnasol.

Mae'n bosibl monitro gronynnau llai (o'r enw PM2.5), ond mae'r rhain yn llai tebygol o ddod o chwarela ac maen nhw'n gallu dod o amrywiaeth eang o ffynonellau artiffisial a naturiol.  Hefyd, mae'r gwynt yn gallu cludo PM2.5 ymhell. Mae hyn yn golygu ei bod yn bosibl nad yw lefelau PM2.5 sy'n cael eu mesur mewn unrhyw le penodol o ganlyniad i’r llygredd sy'n cael ei gynhyrchu yn y lle hwnnw.

O ganlyniad, er bod mesur PM2.5 yn gallu cael ei ystyried yn ddymunol, nid er mwyn tawelu meddwl yn unig, nid oes cyfiawnhad dros hynny ar hyn o bryd, o ystyried y lefelau PM10 isel sydd wedi'u mesur hyd yma. Os, drwy fonitro parhaus, mae lefelau PM cyffredinol yn cynyddu'n sylweddol, wedyn mae'r penderfyniad i fonitro PM2.5 yn gallu cael ei adolygu.

Yn y pen draw, rhaid i weithrediadau'r chwarel gydymffurfio â rheoliadau, gan gynnwys parhau i gymhwyso'r technegau gorau sydd ar gael, i reoli llwch.


Pryder

Pryder am y 2 achos o dân. Gweithiwr wedi’i anafu’n ddifrifol a thân “cynwysedig” wedi'i achosi gan wreichionen.  Pa mor ddiogel yw'r pentref pe bai digwyddiad tebyg yn lledaenu i safle'r gwaith Treulio Anaerobig (AD)? A gafodd yr adroddiad Iechyd a Diogelwch ei rannu?

Ymateb gan Bryn Group

Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi cael gwybod am hyn ac nid oedden nhw'n teimlo bod angen iddyn nhw ymchwilio iddo. Rydyn ni'n cynnal asesiad risg tân bob blwyddyn fel rhan o'n cynllun y Sefydliad Rhyngwladol ar gyfer Safoni (ISO). Mae hyn yn cael ei wneud gan ymgynghorydd sy'n gweithio i Blackwood Fire. Mae gan y safle ailgylchu Gynllun Lliniaru a Rheoli Tân (FMMP) sydd wedi'i gymeradwyo gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Cafodd hyn ei adolygu ers y tân ar y llawr sychu a chafodd hyfforddiant staff ychwanegol ei gynnal yn dilyn adolygiad o'r FMMP. Rydyn ni hefyd yn buddsoddi mewn system sychu newydd.

Mae'r pellter rhwng y gwaith Treulio Anaerobig (AD) a gweddill y safle dros y gofyniad cyfreithiol penodedig ac mae ardal y gwaith AD ei hun yn cael ei llywodraethu gan y Rheoliadau Sylweddau Peryglus ac Atmosfferau Ffrwydro (DSEAR). Mae asesiad risg llawn y DSEAR ar gyfer yr AD, sydd wedi'i wneud gan ymgynghorydd cymwys y DSEAR drwy ein cwmni yswiriant. Mae’r DSEAR yn cwmpasu mwy nag ymdrin ag achosion o dân yn unig ac mae'n ofyniad cyfreithiol ar gyfer gweithfeydd AD (a melinau blawd).


Pryder

Mae yna deimlad ymhlith trigolion bod Bryn Group yn cael gwneud yr hyn maen nhw ei eisiau, pan maen nhw eisiau.  Wrth edrych ar y ceisiadau cynllunio ar safle'r Cyngor, nid yw'n hawdd cael darlun cyffredinol o'r hyn sydd wedi'i ganiatáu a beth, os o gwbl, sy'n cael ei wrthod. Mae'n ymddangos, drwy eirio ceisiadau'n wahanol, bod beth bynnag sydd wedi'i wrthod yn cael ei ganiatáu ac, os nad yw, bod gwaith yn cael ei wneud ac wedyn mae cais am ganiatâd cynllunio’n cael ei wneud yn ôl-weithredol. Mae wastad wedi bod yn aneglur beth yw cynlluniau ehangu yn y dyfodol oherwydd bod cynlluniau’n cael eu cymhwyso fesul tipyn ac nid yw unrhyw nodau terfynol yn cael eu cyhoeddi.    

Ymateb gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Mae rhestr gynhwysfawr o hanes cynllunio'r safle yn cael ei darparu.


Pryder

Mae’r ffordd wedi bod yn gorlifo lle mae’r bibell wedi’i rhoi o dan y ffordd ac, ar hyd y ffordd fawr i gyfeiriad Trelewis, mae’n cael ei wasgaru’n gyson â sbwriel sydd naill ai wedi chwythu oddi ar loriau neu wedi disgyn ohonyn nhw; mae’r sbwriel hwn yn amrywio o springiau matresi i fwcedi.

Ymateb gan Bryn Group

Nid yw pob lori sy'n teithio ar y ffordd honno yn mynd i'r safle. Mae angen gorchuddio lorïau a wagenni sgipiau ac ati â gorchudd neu rwyd i atal deunyddiau rhag dianc. Mae Bryn Group yn cynnal gwiriadau i sicrhau bod yr holl wagenni sy'n dod i mewn i'r safle wedi'u gorchuddio â gorchuddion neu rwydau priodol.

Ymateb gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Mae gollwng sbwriel yn drosedd. Os bydd trigolion yn gweld deunyddiau’n disgyn oddi ar lorïau/wagenau, mae gofyn iddyn nhw nodi’r rhif cofrestru, lleoliad, dyddiad a’r deunydd a rhoi gwybod amdano ar gyfer ymchwiliad yn www.caerffili.gov.uk.


Pryder

Mae yna deimlad bod trigolion yn cael eu hanwybyddu pan maen nhw'n cwyno i'r Cyngor ac i Cyfoeth Naturiol Cymru. Maen nhw'n ffonio i gwyno ond nid ydyn nhw byth yn cael gwybod am ganlyniad unrhyw ymchwiliad i'w cwynion. Mae wedi cyrraedd y pwynt lle nad yw trigolion yn ffonio rhagor oherwydd eu bod nhw'n teimlo nad ydyn nhw'n cael eu credu ac maen nhw'n cael ymateb yn dweud nad oes unrhyw gwynion eraill wedi dod i law.  Nid oes unrhyw gyfathrebu ag achwynwyr, hyd yn oed pan maen nhw wedi llenwi taflenni dyddiadur.

Ymateb gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Ymateb gan Cyfoeth Naturiol Cymru: Mae pob cwyn amgylcheddol sy'n mynd i Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael rhif cyfeirnod gan ein Canolfan Rheoli Digwyddiadau (ICC).

Yna, caiff y digwyddiad neu gŵyn ei asesu gan ein Swyddog ar Ddyletswydd a'i neilltuo i naill ai Swyddog Digwyddiadau i ymchwilio iddo ar unwaith neu i'r Swyddog Rheoleiddio.

Mae'r cwynion yn cael eu hymchwilio yn brydlon drwy roi gwybod i Bryn Group yn syth ar ôl i'r gŵyn ddod i law. Bydd Bryn Group yn cynnal ymchwiliad ac yn adrodd yn ôl ar eu canfyddiadau i Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae adborth ynghylch canlyniad y gŵyn yn cael ei ddarparu i'r rhai sydd wedi codi'r mater cyn gynted ag sy'n ymarferol bosibl, oni bai nad yw'r person hwnnw wedi gofyn am adborth. Os yw’r gŵyn y tu allan i gylch gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru, caiff ei throsglwyddo’n brydlon i’r corff rheoleiddio cywir, fel arfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, i ymchwilio iddi, ac mae'r achwynydd yn cael gwybod am yr asesiad a’r penderfyniad hyn.

Ymateb gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Mae pob cwyn yn cael ei chofnodi gan y ganolfan gyswllt ac yn cael ei mewngofnodi i gronfa ddata i Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd ei gweithredu. Os mae digon o wybodaeth yn cael ei chofnodi, bydd Swyddog Iechyd yr Amgylchedd yn ymchwilio ac yna'n rhoi gwybod i'r achwynydd. Ar adegau eraill, mae'r Swyddog Iechyd yr Amgylchedd yn gallu siarad â'r achwynydd cyn ymchwilio i'r gŵyn. Yn dibynnu ar natur y gŵyn, mae Swyddog Iechyd yr Amgylchedd yn gallu ymweld â'r safle ac, ym mhob achos, rhoi adborth i achwynwyr.

O ran dalennau dyddiadur, ychydig iawn sydd wedi'u cyflwyno i Iechyd yr Amgylchedd dros y blynyddoedd diwethaf. Yn 2022, cafodd dim ond un ddalen ei chyflwyno ac mae Swyddog Iechyd yr Amgylchedd wedi ymgysylltu â'r achwynydd hwnnw.

Yn ogystal, mae ymweliadau monitro aroglau rhagweithiol hefyd yn cael eu cynnal (nad ydyn nhw'n gysylltiedig â chwynion). Byddem ni'n annog trigolion yn gryf i roi gwybod i ni am gwynion wrth iddyn nhw godi er mwyn gallu ymchwilio’n drylwyr iddyn nhw.


Pryder

A gafodd unrhyw asesiadau risg eu gwneud ar y safle hwn ac, os felly, a oes modd eu gweld?

Ymateb gan Bryn Group

Ar hyn o bryd, mae gennym ni 57 o Asesiadau Risg ar gyfer Bryn Group a 15 ar gyfer y fferm.


Pryder

Un pryder mawr yw nifer y cerbydau nwyddau trwm (HGV) sy'n defnyddio'r ffyrdd bach lleol drwy Ben-y-bryn a Gelligaer.  Ni chafodd y ffyrdd lleol hyn eu hadeiladu ar gyfer maint nac amlder y traffig.

Mae'r ffyrdd yn gul gyda'r hawl i barcio ar y ffordd sy'n ei gwneud yn beryglus i yrru ar hyd y brif ffordd tuag at Ystrad Mynach os oes HGV yn dod y ffordd arall.  Yn aml, maen nhw'n yn gyrru'n gyflym ac ni fydd rhai yn ildio. 

Mae trigolion yn Nhrelewis hefyd wedi cwyno am y lorïau trymion ac mae yna bryder o ran plant yn dod oddi ar fysiau ysgol.  Pan ddaw’r lorïau drwy Ben-y-bryn a Gelligaer, rhaid iddyn nhw droi wrth yr eglwys i’r ffordd fawr sy’n gyffordd beryglus gyda chroesfan i’r dde ar ôl y troad. 

Wrth deithio fel hyn, mae ganddyn nhw hefyd dro tyn iawn i mewn i Bryn Group.  Mae'r llygredd o gannoedd o gerbydau HGV sy'n cyflymu'n galed i fyny allt serth o Drelewis ger tai yn achosi llawer iawn o lygredd.

Ymateb gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Mae'r Cyngor wedi ymchwilio i hyn ac wedi cynhyrchu adroddiad cynhwysfawr. Hefyd, yng nghyfarfod diwethaf Grŵp Cyswllt Bryn Group, cafodd ei gadarnhau y byddai cynrychiolydd o dîm Isadeiledd y Cyngor yn mynd i'r cyfarfod nesaf i drafod unrhyw bryderon penodol ynghylch diogelwch ar y ffyrdd a llifogydd gyda thrigolion.

Hefyd, mae'r wybodaeth ar y dudalen we ganlynol ar gael i roi rhagor o fanylion i drigolion am ei waith ar reoli cyflymder: Rheoli cyflymder. Hefyd, dylai roi gwybod am lifogydd ar y briffordd yma: Rhowch wybod am lifogydd.

Llygredd o gerbydau – mae allyriadau HGV yn cael eu gwirio yn ystod yr MOT blynyddol fel sydd wedi'i bennu gan yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau. Yn ogystal, nid yw'r holl gerbydau sy'n teithio ar y ffyrdd o amgylch Bryn Group yn ymweld â'r safle.

Y cyflymder y mae cerbydau’n gyrru drwy bentrefi – rhaid i bob gyrrwr gydymffurfio â chyfyngiadau cyflymder sydd wedi’u harwyddo ar gyfer gwahanol ddarnau o ffyrdd. Mae methu â chydymffurfio â chyfyngiadau cyflymder yn cael ei reoleiddio gan yr Heddlu.


Pryder

The wheel wash whilst commendable seems to be in the wrong position to stop the major hazard of dirt and muck at the entrance to the site.         

Ymateb gan Bryn Group

Er bod y system golchi olwynion i'w ganmol, mae'n ymddangos ei bod yn y lle anghywir i atal y perygl mawr o faw wrth y fynedfa i'r safle.


Pryder

Yr unig le ar y safle lle nad yw'r ffordd wedi ei selio, ac felly'n gallu creu baw sy'n gallu cael ei lusgo i'r ffordd, yw yn y chwarel. Mae'r system golchi olwynion wedi'i lleoli wrth allanfa'r chwarel i atal baw rhag cael ei lusgo i'r bont bwyso a thua’r briffordd.

Ymateb gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Mae Bryn Group yn gwasgaru gweddillion treulio anaerobig ar dir eu ffermydd  yn bennaf, sydd ag arogl gwahanol i slyri fferm pur. Gweddillion treulio anaerobig yw sgil-gynnyrch y gwaith treulio anaerobig, sy'n trin gwastraff bwyd yn ogystal â slyri o'r fferm ar y safle.

Mae pob fferm wedi'i heithrio rhag gwasgaru rhwng 15 Hydref a 31 Ionawr. Mae Cod Ymarfer Amaethyddol Da Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) yn nodi:

Ni ddylech ddefnyddio tail da byw na dŵr brwnt o dan yr amodau canlynol:

  • mae'r pridd yn ddwrlawn; neu
  • mae'r pridd wedi rhewi'n galed; neu
  • mae'r cae wedi'i orchuddio ag eira; neu
  • mae'r pridd wedi hollti hyd at ddraeniau'r cae neu'r ôl-lenwad; neu
  • mae'r cae wedi cael ei ddraenio gan bibellau neu dwrch-ddraeniwr neu
  • aredwyd yr isbridd dros y draeniau yn y 12 mis diwethaf; neu
  • mae'n addo glaw trwm yn y 48 awr nesaf. 

Ymateb gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Lle mae'r gweddillion treulio anaerobig sy'n cael eu cynhyrchu yn ystod y gwaith Treulio Anaerobig (AD) yn glynu at y Protocol Ansawdd ar gyfer Treulio Anaerobig ac yn bodloni manyleb ansawdd sylfaenol PAS 110 (manyleb y Sefydliad Safonau Prydeinig sydd ar gael yn gyhoeddus), mae gweddillion treulio anaerobig yn cael eu hystyried yn 'ddiwastraff' ac nid yw'n destun rheolaethau rheoli gwastraff.  Nid oes angen caniatâd gan Cyfoeth Naturiol Cymru i wasgaru gweddillion treulio anaerobig sy'n cydymffurfio â'r Protocol Ansawdd ar gyfer Treulio Anaerobig ac yn bodloni PAS 110.
 
Mae ymlyniad at y Protocol Ansawdd ar gyfer Treulio Anaerobig a PAS 110 yn cael ei asesu gan gorff achredu cymeradwy trydydd parti yn ystod arolygiad blynyddol sy'n cael ei gynnal yn unol â BS EN 45011:1998 (Gofynion Cyffredinol ar gyfer Cyrff sy'n Gweithredu Systemau Ardystio Cynnyrch (Safon Brydeinig)).
 
Mae angen caniatâd gan Cyfoeth Naturiol Cymru i wasgaru gweddillion treulio anaerobig nad ydyn nhw'n cadw at y Protocol Ansawdd ar gyfer Treulio Anaerobig a/neu nad yw'n bodloni manyleb ansawdd sylfaenol PAS 110.
 
Mae unrhyw arferion gwasgaru gwael sy’n arwain at lygru’r amgylchedd (e.e. gollwng i ddyfroedd rheoledig) neu niwsans (e.e. arogl) yn cael ei reoleiddio gan Dîm Amgylchedd lleol Cyfoeth Naturiol Cymru neu swyddogion Iechyd yr Amgylchedd Awdurdodau Lleol, yn y drefn honno.

Byddai gweddillion treulio anaerobig nad ydyn nhw'n cadw at y Protocol Ansawdd ar gyfer Treulio Anaerobig a/neu nad ydyn nhw'n bodloni manyleb ansawdd sylfaenol PAS 110 yn cael ei ddosbarthu fel gwastraff.  Byddai unrhyw caniatâd (eithriad, trwydded rheolau safonol neu drwydded bwrpasol) i wasgaru gwastraff ar dir yn cael ei reoleiddio gan y Tîm Rheoleiddio Gwastraff. 

Yn yr un modd, byddai gwasgaru gweddillion treulio anaerobig nad ydyn nhw’n cadw at y Protocol Ansawdd ar gyfer Treulio Anaerobig a/neu nad ydyn nhw’n bodloni manyleb ansawdd sylfaenol PAS 110 (h.y. gwastraff), ac eithrio o dan ac i’r graddau sydd yn cael eu caniatáu gan drwydded amgylcheddol (neu eithriad), yn cael ei ymchwilio gan y Tîm Rheoleiddio Gwastraff.

Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw caniatâd ar waith ac nid yw'r Tîm Rheoleiddio Gwastraff, ar hyn o bryd, yn ymchwilio i unrhyw weithgarwch gasgaru gwastraff anawdurdodedig sy'n ymwneud â Bryn Group (ac endidau cyfreithiol cysylltiedig).

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru o’r farn y byddai unrhyw gwynion am aroglau sy’n deillio o weithgareddau gwasgaru o dan gylch gwaith yr Awdurdod Lleol i ymchwilio iddyn nhw, gan nad yw’r arogl yn deillio o ardal Bryn Group sydd â chaniatâd Cyfoeth Naturiol Cymru.


Pryder

Ar ôl yr ymweliad safle, roedd yn glir bod y system cau drysau awtomatig wedi'i diffodd a'i bod yn dibynnu ar y gweithredwyr i reoli hyn.  Mae hyn yn golygu bod honiad Bryn Group “na allwch chi gael arogleuon o'r ffatri ailgylchu bwyd gan fod drysau'n agor ac yn cau'n awtomatig o fewn munudau” yn gelwydd.  Onid yw hyn yn rhywbeth y mae Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Cyngor wedi sylwi arno?

Ymateb gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae'r Cynllun Rheoli Arogleuon (fersiwn v1.0) yn nodi bod y neuadd dderbyn yn cael ei gwasanaethu gan ddrws gweithredu cyflym awtomatig.

Ymateb gan Bryn Group

Mae'r drws yn awtomataidd, gan ei fod ar reolydd botwm yn hytrach na chadwyn llaw. Mae'n ddrws yn un sy'n gweithredu'n gyflym ac mae'n gwneud cylchred llawn mewn 24 eiliad. Rydyn ni wedi canfod mai, gyda'r drws ar y synhwyrydd, byddai'r lorïau a oedd yn aros i ddod i mewn yn agor y drws cyn roedden nhw'n gallu cael mynediad i'r adeilad a byddai'r jac codi baw (JCB) yn agor y drws wrth brosesu. Byddai'r drws i fyny ac i lawr gannoedd o weithiau'r dydd.

Ymateb gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Er bod Bryn Group wedi rhoi’r gorau i ddefnyddio’r synwyryddion ar gyfer y system cau awtomatig ar y drysau ym mynedfa’r dderbynfa gwastraff bwyd, mae’r drysau yn dal ar gau yn ystod tipio gwastraff, yn ôl yr angen. Mae'r drysau yn cael eu rheoli gan staff Bryn Group i sicrhau eu bod ar gau cyn i'r cerbydau ollwng y gwastraff bwyd. Nid oes gan Iechyd yr Amgylchedd unrhyw bryderon ynghylch y newid mewn dulliau, gan fod y canlyniad yn aros yr un fath a bod y drws ar gau yn ystod tipio gwastraff.


Pryder

Pam fod cymaint o fwg yn dod o’r staciau ar yr adeilad ailgylchu. 

Ymateb gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Mae dau Ffatri Llosgi Gwastraff Bach (SWIPs) ar y safle sy'n cael eu rheoleiddio gan Iechyd yr Amgylchedd ar ffurf trwyddedau. Maen nhw'n cael eu harolygu gan Iechyd yr Amgylchedd yn flynyddol.

Nid yw'r SWIP y tu ôl i'r adeilad derbyn gwastraff bwyd yn weithredol ar hyn o bryd. Daeth un gŵyn i law ynghylch mwg yn ystod 2022 ac un gŵyn yn 2023, ar ddiwrnod ymweliad â'r safle gan y grŵp cyswllt ar 27 Ionawr. Ni oedd unrhyw fwg i'w weld yn ystod yr ymweliad hwn â'r safle.

Cyn COVID-19, cafodd Iechyd yr Amgylchedd ychydig o gwynion yn honni bod mwg o'r SWIPs ac, yn ystod ymweliad â'r safle, daeth i'r casgliad i fod yn anwedd/cyddwysiad dŵr, a oedd yn edrych fel mwg o bellter.


Pryder

Beth mae Bryn Group yn ei wneud ynglŷn â sŵn yr wyntyll ar yr adeilad sychu anifeiliaid.

Ymateb gan Bryn Group

Rydyn ni wedi gosod tawelydd.


Pryder

Pryder ynghylch cerbydau’n cyrraedd a gadael y safle yn ystod yr hyn y mae rhai yn credu ei fod y tu allan i oriau.      

Ymateb gan Bryn Group

Rydyn ni'n gweithredu yn gyfan gwbl o fewn yr oriau sydd wedi'u caniatáu i ni.


Pryder

Mae rhethreg y Cyngor ar bostiad diweddar yn y cyfryngau am bobl yn cael camsyniadau yn amhroffesiynol, gan honni nad yw pobl yn gwybod y gwir ac mae'n swnio'n gefnogol iawn i Bryn Group.  Sut mae'r Cyngor yn gallu bod yn ddiduedd pan maen nhw'n yn elwa o Bryn Group.  Hefyd, roedd ymddygiad aelod o Dîm Iechyd yr Amgylchedd yn amhroffesiynol iawn, ac roedd yn ymddangos yn debycach fel ffrind i'r perchnogion nag un o gyflogai'r Cyngor.

Ymateb gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn contractio'r cwmni i brosesu gwahanol ffrydiau gwastraff. Mae hyn yn cael ei wneud drwy weithdrefnau tendro cystadleuol sy'n cael eu rheoli'n llym. Mae staff o'r Tîm Caffael a'r Tîm Rheoli Gwastraff yn ymwneud â'r broses honno. Nid ydyn nhw'n rheoleiddio'r safle.

Mae Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd yn rheoleiddio'r safle ac nid ydyn nhw'n ymwneud â'r prosesau tendro na dyfarnu contractau. Mae Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd yn parhau i fod yn ddiduedd i drefniadau'r contract.

Mae Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd yn gweithio'n galed i ddatblygu perthnasoedd gwaith da gyda'r holl weithredwyr ledled y Fwrdeistref Sirol i sicrhau eu bod yn cydweithio'n dda a bod ganddyn nhw linellau cyfathrebu da ac agored i ddatrys unrhyw faterion sy'n gallu codi. Mae cyfathrebu cynnes rheolaidd rhwng y ddwy ochr yn parhau i fod yn hynod o bwysig. 


Pryder

Fel sydd wedi'i nodi uchod, mae'n ymddangos bod gan Iechyd yr Amgylchedd berthynas hamddenol a chyfeillgar iawn gyda Bryn Group.  Fodd bynnag, pan fydd trigolion wedi ffonio neu wedi cael cyfarfodydd ar-lein gyda nhw, cawson ni'r teimlad nad oedd gennym ni unrhyw reswm dilys i gwyno.  Ydy Iechyd yr Amgylchedd erioed wedi cwrdd â thrigolion i drafod eu pryderon? Ydyn nhw erioed wedi mesur ffrwydradau o'r tu mewn i gartrefi trigolion? Ydyn nhw erioed wedi mynd i'r ardal o fewn 20 munud i rywun yn rhoi gwybod am arogl ffiaidd?     

Ymateb gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Mae'r berthynas waith rhwng Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd a staff Bryn Group wedi'i hesbonio uchod.

Mae Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd wedi cwrdd â thrigolion ar sawl achlysur, wrth ymchwilio i gwynion a thrwy gydol y blynyddoedd lawer y mae'r cyfarfodydd cyswllt amrywiol wedi cael eu cynnal.

Mae caniatâd cynllunio’r chwarel yn destun amod sy’n cyfyngu ar ddirgryniad y ddaear sy’n deillio o ffrwydradau. Hefyd, yn unol â pholisi a chanllawiau cenedlaethol, mae'r canlyniadau monitro yn cael eu hadolygu’n rheolaidd.  Mae'r canlyniadau dros nifer o flynyddoedd yn dangos bod dirgryniadau tir sydd wedi'u mesur yn agos at eiddo preswyl ym Mhen-y-bryn a Gelligaer ymhell islaw'r lefelau sy'n debygol o achosi hyd yn oed mân ddifrod cosmetig i eiddo.

Mae’r canlyniadau wedi bod ymhell o fewn telerau’r amod cynllunio, sy’n cyfyngu’r cyflymder gronynnau brig i lai na 4 milimetr yr eiliad am 95% o’r amser a byth yn fwy nag 8 milimetr yr eiliad yn unol â chanllawiau Polisi Cynllunio Cymru ac yn sylweddol o lymach na'r terfynau dirgryniad wedi'u hawgrymu yn Nodyn Cyngor Technegol Mwynau (Cymru) 1: Agregau. Yn gyffredinol, mae pobl yn dod yn ymwybodol o ddirgryniadau sy'n cael eu hachosi gan ffrwydrad ar lefelau o tua 1.5 milimetr yr eiliad ac mae'r canllawiau'n nodi na ddylai difrod cosmetig, neu graciau llinellau gwallt mewn cymalau plastr neu forter, ddigwydd ar lefelau dirgryniad sy'n is na 20 milimetr yr eiliad cyflymder gronynnau uchaf, ond anaml y mae ffrwydradau wedi'u cofnodi yn fwy na 2 milimetr yr eiliad.

O ran ymweld o fewn 20 munud i rywun yn rhoi gwybod am arogl, mae hyn yn dibynnu ar argaeledd swyddogion ac a ydyn nhw o fewn 20 munud o bellter teithio i'r safle. Bu sawl achlysur dros y blynyddoedd diwethaf pan fo swyddogion a oedd wedi’u lleoli yn Nhŷ Penallta wedi ymateb o fewn 20 munud. Yn ogystal, mae swyddogion wedi bod yn yr ardal pan ddaeth cwyn i law. 


Pryder

Gan fod Bryn Group bellach wedi dod yn fusnes sylweddol yn ogystal â chyflenwr mawr i'r Awdurdod Lleol, a fydden nhw'n caniatáu i adolygiad ESG (Llywodraethu Amgylcheddol, Cymdeithasol a Chorfforaethol) annibynnol gael ei gynnal? Mae hyn yn canolbwyntio ar y busnes yn gwella yn y meysydd cywir.

Gwastraff amgylcheddol a llygredd, disbyddu adnoddau, allyriadau nwyon tŷ gwydr, datgoedwigo, newid yn yr hinsawdd.

Cysylltiadau gweithwyr cymdeithasol ac amrywiaeth, amodau gwaith, cymunedau lleol, iechyd a diogelwch, gwrthdaro.

Strategaeth dreth lywodraethu, cydnabyddiaeth swyddogion gweithredol, rhoddion a lobïo gwleidyddol, llygredd a llwgrwobrwyo, amrywiaeth a strwythur y bwrdd.

Ymateb gan Bryn Group

Pan fyddwn ni'n teimlo bod ESG yn gynllun i wella perfformiad busnes. Am y tro, rydyn ni wedi ein hachredu gan Y Sefydliad Rhyngwladol ar gyfer Safoni (ISO) sydd, yn ein barn ni, yn llawer gwell nag ESG gan nad yw'n rhoi gwerth ariannol i'ch gweithredoedd. Mae’n sicrhau eich bod chi'n gweithio yn unol â rheoliadau’r Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd, a’ch bod chi bob amser yn ceisio gwella’r ffordd rydych chi'n gweithredu’r busnes ar gyfer iechyd a diogelwch, yr amgylchedd a diogelwch cynnyrch.  


Pryder

Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru Adroddiadau Asesu Cydymffurfiaeth; a oes gan y Cyngor unrhyw beth tebyg? Os oes amodau ynghlwm wrth gais cynllunio, a ydy unrhyw ymweliadau â'r safle yn cael eu cynnal i wirio cydymffurfiaeth? Os daw cwyn i law, a ydw'r Cyngor yn ymweld â'r safle neu a ydw'n ffonio Bryn Group i ofyn a yw'r gŵyn yn ddilys ac yn cymryd eu gair amdani? 

Ymateb gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili – Tîm Cynllunio

Yn nhermau cynllunio, nid oes darpariaeth ar gyfer Ffurflenni Asesu Cydymffurfiaeth. Fodd bynnag, mae swyddogion wedi ymweld â'r safle ar sawl achlysur ac wedi ymchwilio i bob cwyn gorfodaeth cynllunio yn unol â Siarter Gorfodi Cynllunio mabwysiedig y Cyngor.

Ychwanegiad gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili – Tîm Iechyd yr Amgylchedd

Nid yw Iechyd yr Amgylchedd yn defnyddio Adroddiadau Asesu Cydymffurfiaeth. Mae pwerau’n bodoli i gyflwyno hysbysiadau atal sy’n cyfeirio at niwsans statudol a hysbysiadau mewn perthynas â phwerau trwyddedu amgylcheddol. Nid yw Iechyd yr Amgylchedd wedi cyflwyno unrhyw hysbysiadau i Bryn Group hyd yma. Mae Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd yn cyflwyno hysbysiadau pan fo angen, fodd bynnag, mae gweithio gyda gweithredwyr a busnesau i sicrhau datrysiad boddhaol yn aml yn well a dyma'r opsiwn cyflymach.