FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00pm a 7:00pm ar y 19 Mawrth 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00pm and 7:00pm on the 19 March 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Canol trefi ac adfywio

Fel rhan o'r Tîm Menter Fusnes ac Adfywio, mae'r Tîm Rheoli Canol Trefi yn mabwysiadu dull rhagweithiol wrth ddatblygu, hyrwyddo a marchnata canol ein trefi a'r cymunedau busnes yn eu plith, er mwyn sicrhau llwyddiant economaidd y Fwrdeistref Sirol.

Mae ein cymorth yn canolbwyntio ar y pum prif ganol tref, sef BargodCoed DuonCaerffiliYstrad Mynach a Rhisga, ond nid yw'n gyfyngedig iddyn nhw, lle rydyn ni'n gweithio’n agos ochr yn ochr â chyfadrannau eraill o fewn y Cyngor, Cynghorau Tref, a phartneriaid allanol i greu lleoedd amrywiol, cynaliadwy a ffyniannus i gymunedau fyw, gweithio a mwynhau ynddyn nhw.

Trefi Smart VZTA

Mae Cyngor Caerffili a Near Me Now Ltd wedi gweithio gyda'i gilydd er mwyn dod â'r ap VZTA Smart Towns i bum prif ganol tref y Fwrdeistref Sirol, sef Caerffili, Coed Duon, Bargod, Ystrad Mynach a Rhisga.

Ar gyfer Defnyddwyr:

Nod yr ap yw darparu stryd fawr ddigidol sy'n ei gwneud hi'n hawdd i bobl siopa'n lleol, gyda rhestrau cynnyrch, digwyddiadau a gwasanaethau lleol ar gael trwy glicio botwm. Mae'r ap VZTA Smart Towns ar gael i'w lawrlwytho a'i ddefnyddio am ddim, gan bob aelod o'r cyhoedd, trwy Google Play neu'r App Store. Cliciwch yma i'w lawrlwytho.

Ar gyfer Busnesau:

Mae VZTA yn galluogi busnesau i gystadlu ar-lein a chyfathrebu'n gyflym ac yn hawdd â phobl leol ac ymwelwyr â chanol y dref. Gall busnesau hyrwyddo eu cynnyrch a'u gwasanaethau, codi proffil digwyddiadau canol y dref a chydweithio â'u cymuned fusnes yng nghanol y dref i greu ymdeimlad o le ar-lein. Yn wahanol i sianeli cymdeithasu a hysbysebu eraill, nid yw busnesau'n cael eu gadael yn cystadlu yn erbyn eraill i gael sylw cwsmeriaid gan fod VZTA yn annog busnesau i rannu cwsmeriaid a nifer yr ymwelwyr â chanol eu tref nhw. 

Mae'r ap VZTA Smart Towns ar gael i'w ddefnyddio am ddim ar gyfer unrhyw fusnes sydd â phresenoldeb ffisegol ar hyn o bryd o fewn ffin ddynodedig canol tref pum prif dref y Fwrdeistref Sirol.

I wneud ymholiadau am VZTA Smart Towns, e-bostiwch CanolTrefi@caerffili.gov.uk.

Gweler y dolenni isod am ragor o wybodaeth o ran:

Tîm Rheoli Canol Trefi

I holi am eich canol tref chi, cysylltwch â ni.