Trwydded Gyrrwr Cerbyd Hacni neu Cerbyd Hurio Preifat
Rhaid i unrhyw berson sy'n gyrru cerbyd trwyddedig gael ei drwyddedu fel gyrrwr cerbyd hacni a/neu gerbyd hurio preifat gyda'r Awdurdod Trwyddedu lle maen nhw'n bwriadu gweithio.
Mae gan Awdurdodau Trwyddedu ddyletswydd i sefydlu a yw'r ymgeisydd yn berson 'addas a phriodol', felly byddan nhw'yn ystyried addasrwydd ymgeisydd wrth ystyried cais. Fe’ch cynghorir i ddarllen ac ystyried polisi gyrwyr yr Awdurdod sy’n cynnwys y gofynion sylfaenol a’r meini prawf ffitrwydd cyn bwrw ymlaen â chais.
Beth sydd angen i chi ei wneud?
- Meddu ar yr Hawl i weithio yn y DU. (Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio)
- Ymgymryd â Phrawf Gwybodaeth a Diogelu trwy Hyfforddiant Torfaen
Bydd angen i bob ymgeisydd am drwydded Gyrrwr Cerbyd Hacni neu Hurio Preifat gwblhau prawf ffitrwydd/gwybodaeth, cyrsiau Diogelu a modiwl Ymwybyddiaeth Anabledd/Deddf Cydraddoldeb ar gyfer Gyrwyr Tacsi, sy’n cael eu cynnal a’u rheoli gan Dysgu Cymunedol i Oedolion Cyngor Torfaen. Rhaid i chi basio'r prawf hwn a mynychu'r cyrsiau ar-lein cyn y gallwch chi gyflwyno cais am y drwydded.
Mae’r prawf gwybodaeth yn cael ei gyflwyno gan ddefnyddio platfform ar-lein a galwad dros Microsoft Teams, ac mae'n cael ei rannu i'r adrannau hyn:
Adran 1 - Asesiad Sgiliau Sylfaenol gan gynnwys:
Dull asesu: Amlddewis ar-lein.
Mae'r rhain yn brofion meincnod sy'n cael eu cydnabod yn genedlaethol i sefydlu lefel llythrennedd a rhifedd oedolion.
Adran 2 - Cyfathrebu ar lafar
Dull asesu: Prawf llafar dros alwad Teams un i un – byddwch chi’n cael e-bost yn trefnu hyn gyda chi ac ar ddyddiad/amser sydd wedi’u cytuno, bydd angen i chi wasgu Join Now yn yr e-bost.
Cafodd yr adran hon ei chynllunio i brofi gwybodaeth am lwybrau tacsi a gwybodaeth leol, y polisi a gwiriadau ar hap o ran y Ddeddf Anabledd/Cydraddoldeb a Diogelu.
Adran 3 - Profi dealltwriaeth o bolisïau, amodau, a safonau archwilio cerbydau Cyngor Caerffili.
Dull asesu: Prawf amlddewis ar-lein
Bydd ymgeiswyr yn sefyll prawf amlddewis ar-lein.
Adran 4 - Gwirio Rheolau'r Ffordd Fawr
Dull asesu: Prawf amlddewis ar-lein.
Bydd ymgeiswyr yn sefyll prawf amlddewis ar-lein.
Adran 5 - Cwrs Diogelu
Dull asesu: Prawf amlddewis ar-lein.
Bydd ymgeiswyr yn cwblhau modiwl ar-lein a byddan nhw’n sefyll prawf amlddewis ar-lein.
Rhaid i ymgeiswyr dreulio isafswm amser ar y cwrs.
Adran 6 - Deddf Anabledd/Cydraddoldeb a diogelu
Dull asesu: Mae cwisiau yn rhan o’r cwrs ac yn cael eu gwirio fel rhan o bolisi a phrawf llafar.
Bydd ymgeiswyr yn cwblhau modiwl ar-lein a rhaid iddyn nhw dreulio isafswm amser ar y cwrs.
Ni fydd y cwrs diogelu yn cymryd mwy na dwy awr i'w gwblhau ac mae'n darparu gwybodaeth a chyngor defnyddiol ar ddiogelu plant a phobl sy'n agored i niwed.
Os ydych chi'n ystyried sefyll y prawf a mynychu'r cwrs, mae'n rhaid i chi gysylltu â DCO Torfaen yn gyntaf ar 01633 875929 i gael yr wybodaeth a'r cyfarwyddiadau angenrheidiol. Yna, bydd angen i chi gysylltu â DCO Torfaen eto i gadw eich lle.
Ar ddiwrnod y prawf a'r cwrs, bydd gofyn i chi:
- Talu ffi prawf o £60 a ffi cwrs o £35 gyda cherdyn.
- Dangos dau ddull adnabod, a rhaid i un ohonyn nhw fod yn gerdyn adnabod ffotograffig. Ni fydd profion a galwadau fideo Teams yn cael eu caniatáu heb brawf adnabod.
- Byddwch chi’n cael tri diwrnod i gwblhau'r elfennau.
Ar ôl llwyddo yn y prawf a mynychu’r cwrs, gallwch chi gysylltu ag Adran Drwyddedu Caerffili i ofyn am becyn cais am drwydded. Bydd gofyn i chi ddangos cerdyn llwyddo a thystysgrif hyfforddiant Torfaen pan fyddwch chi’n cyflwyno'ch cais.
Gwneud cais ar-lein
Bydd angen i chi gofrestru gyda Cyswllt Caerffili er mwyn cwblhau'r cais. Sylwch y bydd gofyn i chi lwytho dogfennau Hawl i Weithio a dogfennau Adnabod. Sylwch fod yn rhaid i un o'r dogfennau hyn fod yn Drwydded DVLA gyfredol.
Dylech chi lenwi'r cais hwn yn gywir ac yn onest, gan dalu sylw arbennig i gwestiynau sy’n ymwneud â newid enw a/neu gyfeiriad, cyfnodau preswylio, gwybodaeth am euogfarnau ac amgylchiadau meddygol.
Beth sy'n digwydd ar ôl cyflwyno cais?
Ar ôl cyflwyno cais, bydd Swyddog yn cysylltu â chi er mwyn i chi dalu am a chyflawni Gwiriad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer rôl gyrrwr tacsi, ym Mwrdeistref Sirol Caerffili. Sylwch, mae ffi nad oes modd had-dalu o £40 ar gyfer y broses hon. Er bod y rhan fwyaf o’r gwiriadau’n cael eu cwblhau o fewn ychydig wythnosau,does gennym ni ddim rheolaeth dros yr amserlenni ar ôl cyflwyno cais i’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Ar ôl derbyn canlyniad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, cewch eich cynghori ar y camau nesaf.
Talu eich ffi DBS
Meddygol
Rhaid i'r Cyngor sicrhau bod ymgeisydd / deiliad trwydded yn feddygol ffit. Er mwyn sicrhau hyn, mae’n ofynnol i ymgeiswyr ymgymryd ag archwiliad Meddygol Grŵp 2 y Cyngor. Archwiliad meddygol yw hwn wedi'i gwblhau gan eich meddyg teulu eich hun neu Feddyg Teulu sydd â mynediad at eich hanes meddygol llawn. Mae'r ffioedd ar gyfer archwiliadau meddygol o'r fath yn daladwy i'r Feddygfa yn uniongyrchol gan yr ymgeisydd, a bydd eich Practis yn pennu'r gost ar gyfer hyn. Dylech chi ddim gael archwiliad meddygol hyd nes y cewch chi eich cynghori i wneud hynny, er mwyn osgoi costau diangen.
Os nad oes unrhyw bryderon o ran ffitrwydd (gan gynnwys ffitrwydd meddygol), mae'n debygol y bydd trwydded yrru yn cael ei rhoi. Fodd bynnag, os bydd unrhyw bryderon yn cael eu nodi yn ystod y broses ymgeisio, gallai eich cais gael ei gyfeirio at Is-bwyllgor Tacsi a Chyffredinol i'w benderfynu.
Gwybodaeth i Gynorthwyo Ymgeiswyr
Gofynion Mewnfudo Mae awdurdodau trwyddedu bellach dan ddyletswydd i gynnal gwiriadau mewnfudo ar bob ymgeisydd am yrwyr cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat a gweithredwyr cerbydau hurio preifat.
Yn ogystal â gwiriadau perthnasol i sefydlu a yw person yn berson 'addas a phriodol', ni chaiff awdurdodau lleol roi trwydded gyrrwr neu weithredwr oni bai eu bod yn fodlon bod gan ymgeisydd yr hawl i aros a gweithio yn y Deyrnas Unedig.
Er bod awdurdodau lleol yn gallu rhoi trwyddedau o'r fath i bersonau sy'n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo ac sydd ag cael amser cyfyngedig i aros yn y DU, dim ond am gyfnod penodol y mae modd eu caniatáu a rhaid i'r cyfnod hwnnw ddod i ben ar neu cyn y cyfnod caniatâd i aros. Bydd trwyddedau’n dod i ben yn awtomatig pan fydd y statws mewnfudo yn newid a deiliad y drwydded yn dod yn anghymwys i breswylio a gweithio’n gyfreithlon yn y DU. Bydd unrhyw berson na fydd yn dychwelyd ei drwydded yn cyflawni trosedd.
Bydd yn ofynnol i unrhyw ymgeisydd am drwydded gyrrwr neu weithredwr gynhyrchu copïau gwreiddiol o ddogfennau rhagnodedig i brofi eu statws mewnfudo a hawl i weithio. Bydd yn ofynnol i’r Cyngor gadw copïau o’r dogfennau gwreiddiol y mae wedi’u gweld a gall wirio statws mewnfudo ymgeisydd a rhannu gwybodaeth â’r Swyddfa Gartref.
Gwiriadau Hanes Troseddol Tramor
Mae’r Awdurdod Lleol yn cydnabod y bydd datgeliad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ond yn darparu gwybodaeth am yr amser y mae’r ymgeisydd wedi byw yn y DU.
O dan amgylchiadau o'r fath a lle mae angen gwirio unrhyw gofnod troseddol posibl, a fydd hefyd yn cynnwys pobl sydd wedi treulio mwy na 6 mis yn byw y tu allan i'r DU, ers eu pen-blwydd yn ddeg oed, bydd yr Awdurdod Lleol yn ei gwneud yn ofynnol i'r ymgeisydd ddarparu Tystysgrif Ymddygiad Da gan Lysgenhadaeth y wlad yr oedden nhw'n byw ynddi.
Bydd angen i Dystysgrifau Ymddygiad Da sydd mewn iaith heblaw Saesneg gael eu cyfieithu i'r Saesneg ar draul yr ymgeisydd gan wasanaeth cyfieithu annibynnol a rhaid gwirio'r cyfieithiad.
Amodoldeb Treth
Rhaid i awdurdodau trwyddedu gael cadarnhad yr ymgeisydd eu bod yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau treth ar geisiadau am drwydded tro cyntaf ar gyfer gyrwyr tacsis a cherbydau hurio preifat. Bydd angen i chi gofrestru eich hun gyda CThEM at ddibenion treth.
Deddf Cydraddoldeb 2010
Mae'n ddyletswydd ar yrwyr tacsis a cherbydau hurio preifat trwyddedig i gludo teithwyr gyda chŵn tywys, cŵn clyw a chŵn cymorth eraill a gyrwyr cerbydau dynodedig hygyrch i gadeiriau olwyn i gynorthwyo teithwyr mewn cadeiriau olwyn. Os oes gennych chi unrhyw resymau meddygol a allai eich atal chi rhag cyflawni'r dyletswyddau hyn, bydd angen i chi hefyd gyflwyno cais am eithriad meddygol ynghyd â datganiad ffitrwydd wedi'i gwblhau gan eich meddyg eich hun. Yna, bydd y Cyngor yn ystyried a ddylid rhoi hysbysiad eithrio i'r gyrrwr. Disgwylir bod gan yrwyr wybodaeth am ddulliau diogel o gludo pobl anabl, yn gaeth i gadair olwyn ai peidio.
Gwneud cais i adnewyddu eich trwydded?
Mae gan bob trwydded yrru ddyddiad dod i ben. Manylir ar hyn ar eich bathodyn gyrrwr a'ch rhan bapur. Tra bydd yr Awdurdod yn ymdrechu i anfon nodyn atgoffa cyn iddo ddod i ben. Disgwylir y bydd gyrwyr sy'n ceisio adnewyddu eu trwydded yn cyflwyno cais i'w hadnewyddu mewn da bryd er mwyn caniatáu i'r cais gael ei benderfynu cyn dyddiad dod i ben y drwydded.
Mae gyrwyr yn cael eu hatgoffa o'r gofyniad i gynnal eu tanysgrifiad i Wasanaeth Diweddaru'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Bydd methu â gwneud hynny yn golygu y bydd angen i yrwyr ailgyflwyno cais datgelu newydd i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, a allai oedi'r broses adnewyddu a gallai effeithio ar eich gallu i yrru am dâl a hurio.
Ffioedd
Ewch i'n tudalen we ffi'r drwydded am ragor o wybodaeth.