Gwybodaeth i dwristiaid

Mae’r staff cyfeillgar a chroesawgar yn y Canolfan croeso Caerffili wrth law i sicrhau eich bod chi’n gwneud y gorau o’ch ymweliad i’r fwrdeistref sirol. Gallant gynnig cyngor annibynnol i chi er mwyn i chi gynllunio’ch amserlen teithio neu i drefnu llety.

Mae’r ganolfan yn llawn gwybodaeth ar lefydd i ymweld yn y rhanbarth a hefyd yn gartref i siop anrhegion trawiadol sy’n arddangos crefftau o safon a wneir yn lleol.

Mae ein gwefan Croeso Caerffili yn llawn gwybodaeth ynghylch llefydd i fwyta, llefydd i aros, digwyddiadau a llawer llawer mwy. Tanysgrifiwch i’n bwletinau e-bost er mwyn derbyn y diweddariadau newyddion a digwyddiadau a’r cynigion arbennig diweddaraf, yn syth i’ch blwch post.

Gallwch ddilyn Croeso Caerffili ar Twitter am y newyddion a digwyddiadau diweddaraf.

Cysylltwch â ni

Ar y we yn gyffredinol

The Valleys | Visit Wales