Siopa ym Margod
Mae Bargod yng Nghwm Rhymni ac wedi cael ei hadfywio'n helaeth yn ddiweddar drwy gynllun Y Syniad Mawr.
Roedd archfarchnad Morrisons yn allweddol i hyn, ynghyd ag adeiladu saith uned fanwerthu newydd. Mae hyn wedi ychwanegu at sîn siopa sydd eisoes yn cynnwys Peacocks, Dorothy Perkins, Original Factory Shop, Burtons, Shoe Zone a Spar, gydag ambell fanwerthwr annibynnol traddodiadol hefyd.
Mae Cyngor Tref Bargod yn cefnogi llawer o fentrau’r dref ochr yn ochr â Siambr Fasnach frwdfrydig.
Sut i gyrraedd yno
Mae’n hawdd cyrraedd canol tref Bargod ar fws, trên neu mewn car. Cymerwch gip ar yr adran cludiant teithwyr lle mae gwybodaeth am weithredwyr bws, trên a thacsi, ynghyd â chostau ac amserlenni.
Os ydych chi’n teithio mewn car, mae digon o lefydd parcio ar gael. Ewch i’r adran meysydd parcio ym Margod am fanylion.
