Clwb Bowlio Dan Do Islwyn

Mae'r Canolfan yn cynnig un o'r cyfleusterau bowlio dan do gorau yng Nghymru gydag 8 arena ac ardal wylio helaeth. Mae'r Canolfan hefyd yn cynnig cyfleusterau bwyta o'r radd flaenaf.
Mae'r clwb ar agor drwy gydol y flwyddyn ac yn ystod y tymor tan do (Medi i Ebrill) rydym yn cynnal sawl cystadleuaeth cynghrair yn ogystal â chystadlaethau clwb mewnol eraill.
Os ydych yn fowliwr profiadol neu'n ddechreuwr, rydym yn hyderus y bydd y clwb yn addas ar gyfer eich holl anghenion.
Mae croeso i bobl nad ydynt yn aelodau gyda 2 arena ar gael - gellir llogi esgidiau a bowls a gellir trefnu hyfforddiant sylfaenol. Beth am roi cynnig arni?
Mae'r Canolfan yn falch iawn o'i adran iau, gyda nifer ohonynt wedi derbyn capiau Cymreig. Yn ystod y tymor dan do rydym yn cynnig hyfforddiant ieuenctid bob dydd Sadwrn yn dechrau am 10am.
Gallwch hefyd archebu'r Canolfan am briodasau ac achlysuron. Mae digon o le i 150 o bobl yn yr ystafell Islwyn.
Mae maes parcio helaeth ar gael ac mae'r holl gyfleusterau ar yr un lefel. Ffoniwch ni ar 01495 221321 i drafod argaeledd a phrisiau llogi.