Cofnodion ac archifau
Mae dwy Swyddfa Cofnodion y mae eu gwasanaethau ar gael i drigolion bwrdeistref sirol Caerffili. Swyddfa Cofnodion Gwent a Swyddfa Cofnodion Morgannwg.
Mae’r ddwy swyddfa Cofnodion yn casglu a chadw cofnodion sy’n cynnwys gwybodaeth am siroedd hanesyddol Gwent a Morgannwg, ac yn gosod y cofnodion hyn ar gael i’r cyhoedd.
Gall y cofnodion a ddalir ddyddio nôl mor bell a’r 13eg ganrif hyd at heddiw, a gall fod yn ymwneud â:
- Llywodraeth leol yn y siroedd
- Unigolion a sefydliadau preifat: er enghraifft, cofnodion yn ymwneud ag ystâdau, teuluoedd, busnesau a diwydiannau
- Cofnodion eglwysig, gan gynnwys cofrestu bedyddiadau, priodasau a chladdedigaethau
- Mapiau
- Llysoedd yr Ynadon a Chrwneriaid
- Cofrestr Llongau
- Cofnodion Maenoraidd a degwm
- Copiau Microfiche o ffurflen gyfrifiad a Mynegai Swyddfa Gofrestru Gyffredinol i Enedigaethau, Priodasau a Marwolaethau
Gall y Swyddfa Cofndion eich helpu gyda’r canlynol:
- Dilyn hanes eich teulu
- Darganfod hanes eich tref, pentref neu dŷ
- Ymchwilio ar gyfer ysgol, coleg neu ddosbarth nos.
Archifau Gwent
Mae’r gwasanaeth yn cynnal cofnodion archifol sy’n ymwneud â Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen.
Archifau Morgannwg
Mae Archifau Morgannwg yn darparu’r gwasanaeth archif ar gyfer 6 awdurdod lleol de Cymru – Pen-y-bont ar ogwr, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Sir Morgannwg.